Fy ngwlad:
Myfyrwyr yn siarad tu allan i'r brifsysgol

Dysgu Cymraeg – Gogledd Orllewin

Cyrsiau Cymraeg i Oedolion

Mae Dysgu Cymraeg - Gogledd Orllewin (DCGO) ym Mhrifysgol Bangor yn darparu cyrsiau Cymraeg i oedolion ledled Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn, yn ogystal ag ar-lein, ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Gyda dros 2,000 o ddysgwyr yn cofrestru ar ein cyrsiau bob blwyddyn, mae DCGO yn chwarae rhan ganolog yn natblygiad y Gymraeg yng ngogledd-orllewin Cymru (Môn, Conwy a Gwynedd), gan wneud cyfraniad sylweddol at strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru – Miliwn o Siaradwyr. 

 

Logo Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin

Rhagoriaeth | Arbenigedd | Profiad

Yn 2022, dyfarnwyd gradd ‘Rhagorol’ gan Estyn, sef y dyfarniad uchaf bosibl, i ddarpariaeth DCGO. Canmolodd Estyn weledigaeth gref y gwasanaeth, ansawdd yr addysgu, ymrwymiad y staff, a’r ffordd y mae dysgwyr yn magu hyder ac yn defnyddio eu Cymraeg yn y gymuned.

Mae arbenigedd DCGO yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, gan gynnwys datblygu adnoddau dysgu, hyfforddi tiwtoriaid, a chyfrannu at waith ymchwil arloesol yn y maes. 

Gyda 50 mlynedd o brofiad yn y maes, mae DCGO yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan gefnogi nifer gynyddol o siaradwyr newydd i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus, yn gymdeithasol ac yn broffesiynol.

""

Cyrsiau Cymraeg

Ydach chi’n awyddus i ddysgu Cymraeg neu ddatblygu eich sgiliau Cymraeg?

Mae gennym amrywiaeth o gyrsiau Cymraeg addas ar bob lefel, o ddechreuwyr pur i siaradwyr mwy profiadol.

Mae ein cyrsiau am ddim i staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor.

darganfod eich cwrs cymraeg a chofrestru

unrhyw gwestiynau? cysylltwch â Ni

Cyrsiau Cymraeg i Weithluoedd

Mae Dysgu Cymraeg - Gogledd Orllewin (DCGO) yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Cymraeg i weithluoedd ar draws y rhanbarth, gan gefnogi staff i ddatblygu eu sgiliau iaith ar bob lefel. Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys cyrsiau wedi’u teilwra ar gyfer gweithwyr yn y sector Iechyd a Gofal, Awdurdodau Lleol, a’r Gweithlu Addysg. Yn ogystal, mae DCGO yn cyfrannu at gryfhau sgiliau Cymraeg myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon yn y dyfodol.

cysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Hyfforddiant i Diwtoriaid

Dechrau Dysgu: Tystysgrif Lefel 4 CBAC i Diwtoriaid Dysgu Cymraeg

Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin yn gyfrifol am y cymhwyster cenedlaethol ‘Dechrau Dysgu’. Nod ‘Dechrau Dysgu’ yw meithrin y sgiliau sydd eu hangen ar diwtor newydd wrth ddechrau dysgu Cymraeg i oedolion. Rhoddir arweiniad ymarferol i diwtoriaid ddatblygu sgiliau dysgu effeithiol ac i ddeall egwyddorion dysgu iaith. Rhaid i fyfyrwyr roi’r sgiliau a’r wybodaeth ar waith wrth ymarfer dysgu, ac asesir eu cyflawniad drwy arsylwi, adfyfyrio ac aseiniadau. Rhoddir sylw penodol i ddysgu dysgwyr lefel Mynediad yn y cymhwyster hwn.

Darperir y cymhwyster gan Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin mewn cydweithrediad â Dysgu Cymraeg Ceredigion – Powys – Sir Gâr, a thrwy gytundeb â CBAC a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

manyleb llawn - cymwysterau i diwroriaid

Newyddion Diweddaraf

Gweld Mwy

Ein Staff

 

EnwTeitl Swydd
Aled Ieuan BebbTiwtor Ardal Arfon
Audra RobertsTiwtor Ardal Môn ac Arfon
Branwen GlynTiwtor Datblygiad Proffesiynol
Ceri JonesTiwtor Ardal Meirionnydd
Ceri LlwydYsgrifenyddes
Claire HeeleyTiwtor Gweithlu Addysg Conwy
Dafydd ApolloniTiwtor Cymraeg Gwaith
Donna ThomasYsgrifennydd Cyllid
Elen Lois JonesPennaeth Dysgu Cymraeg – Gogledd Orllewin
Elin Angharad DaviesTiwtor-drefnydd Cymraeg Gwaith
Eluned CroydonTiwtor Ardal Dwyfor
Elysteg LlwydTiwtor Ardal Môn
Eryl JonesTiwtor Cymraeg Gwaith
Ffion Medi EllisTiwtor Ardal Arfon
Gwenan Eifion WilliamsTiwtor Gweithlu Addysg
Heather CallowGweinyddwr
Helen EdwardsTiwtor Gweithlu Addysg Môn
Iola JonesTiwtor Ardal Dwyfor
Llinos AlunTiwtor Gweithlu Addysg Gwynedd
Llinos Vaughan JonesTiwtor-drefnydd Conwy
Lois Mererid EvansTiwtor-drefnydd Arfon
Mair ReesTiwtor Iechyd a Gofal
Martyn CroydonTiwtor-drefnydd Dwyfor
Mathew Penri WilliamsTiwtor Hyfforddiant
Meira Elin RobertsTiwtor Ardal Meirionnydd
Menna MorrisTiwtor Cymraeg Gwaith
Rhian OldroydTiwtor Ardal Conwy
Sam JonesRheolwr Gweinyddiaeth
Sharon RobertsTiwtor-drefnydd Môn
Sian Eirian LewisRheolwr Dysgu ac Addysgu
Sioned Mair JonesTiwtor Ardal Conwy