Cynllun Pensiwn ac Yswiriant Prifysgol Bangor

Gall ymddeol ymddangos ymhell i ffwrdd, ond gall olygu newid o bwys nid yn unig mewn ffordd o fyw, ond hefyd mewn amgylchiadau ariannol. Drwy gynllunio ymlaen llaw, a rhoi tipyn o arian o’r neilltu i ddarparu incwm ar gyfer y dyfodol, gellir sicrhau fod ymddeoliad mor gyfforddus a phleserus â phosib.

Mae Ymddiriedolwyr y Cynllun a’r Brifysgol yn eich gwahodd i wneud hynny drwy ymuno â Chynllun y Brifysgol. Gallwch gael copi o lawlyfr y cynllun drwy gysylltu gyda'r Rheolwr Pensiynau yn yr Adran Gyllid, Cae Derwen, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2DG

Edrychwn ymlaen at eich croesawu fel aelod o’r Cynllun.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?