Opsiynau Talu
Gellir talu’n llawn cyn cofrestru neu wrth gofrestru.
Gall myfyrwyr dalu drwy dri randaliad, chwe neu naw rhandaliad, yn dibynnu ar eich statws myfyriwr.
Myfyrwyr Ôl-raddedig: 3 Rhandaliad – 50% ar neu cyn y dyddiad olaf y caniateir cofrestru; 25% erbyn 31/01/2026; 25% erbyn 30/04/2026
Myfyrwyr Ôl-raddedig: 9 Rhandaliad – 50% ar neu cyn y dyddiad olaf y caniateir cofrestru; 8 rhandaliad misol cyfartal o 31/01/2026 i 31/08/2026
Myfyrwyr Israddedig: 3 Rhandaliad – 50% ar neu cyn y dyddiad olaf y caniateir cofrestru; 25% erbyn 31/01/2026; 25% erbyn 30/04/2026
Myfyrwyr Israddedig: 6 Rhandaliad – 50% ar neu cyn y dyddiad olaf y caniateir cofrestru; 6 rhandaliad misol cyfartal o 31/01/2026 i 31/05/2026
Ar gyfer mynediad i'r Cwrs Cyn-Sesiwn, rhaid talu ffioedd yn llawn, naill ai ymlaen llaw neu wrth gofrestru ar raglen ELCOS. Nid oes cynllun rhandaliadau ar gael.
Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i godi llog misol o 1% ar unrhyw daliad hwyr ar ôl y dyddiad cofrestru olaf. Gellir codi llog ar daliadau hwyr yn achos rhandaliadau hefyd.
Gellir talu ffioedd llety’n llawn hefyd (gweler: https://www.bangor.ac.uk/international/future/payment) neu drwy randaliadau gan ddefnyddio cerdyn credyd/debyd cyson drwy’r broses gofrestru ar-lein.
Ôl-raddedig: 12 rhandaliad – Misol Hydref 2025 - Medi 2026 - 11eg o mis
Ôl-raddedig: 3 rhandaliad - Hydref, Ionawr ac Ebrill - 09/10/25, 15/01/26 ac 23/04/26
Ôl-raddedig: 7 rhandaliad - Hydref 2025 - Ebrill 2026 - diwrnod olaf y mis
Israddedig: 3 rhandaliad - Hydref, Ionawr ac Ebrill - 09/10/25, 15/01/26 ac 23/04/26
Israddedig: 7 rhandaliad - Hydref 2025 - Ebrill 2026 - diwrnod olaf y mis
Sut i Dalu
Mae system rheoli talu ar-lein (Talu i Astudio) ar gael ym Mhrifysgol Bangor i hwyluso’r broses o dalu gwahanol ffioedd, yn cynnwys blaendaliadau, ffioedd dysgu, ffioedd cyrsiau iaith Saesneg a ffioedd llety yn eich arian lleol ac yn eich banc lleol. Gall ein darparwyr neu ein hasiantau swyddogol hefyd dalu dros grwpiau.
Cewch ragor o wybodaeth yn:https://www.bangor.ac.uk/international/future/payment
Gall myfyrwyr hefyd dalu ffioedd drwy drosglwyddiad banc gan ddefnyddio’r manylion isod
Enw’r Cyfrif: Prifysgol Bangor
Enw’r Banc: Santander UK Plc
Cod didoli’r cyfrif: 09-02-22
Rhif y cyfrif: 10364019
Rhif IBAN PB: GB46ABBY09022210364019
Rhif SWIFT PB: ABBYGB2L
Rhowch eich enw llawn a’ch rhif myfyriwr wrth wneud y trosglwyddiad ac anfonwch e-bost at remittance@bangor.ac.uk (i roi gwybod am y swm a drosglwyddwyd, y dyddiad a rhif y myfyriwr).
Sylwer y gall methu â thalu eich ffioedd arwain at derfynu eich cofrestriad.
Dylech gysylltu â’r Swyddfa Gyllid cyn gynted â phosibl os ydych yn rhagweld unrhyw drafferth i dalu eich ffioedd. Bydd y Brifysgol yn codi tâl cosb am bob taliad hwyr. Fodd bynnag, rydym yn awyddus iawn i sicrhau na fyddwch yn cael costau o'r fath ac i'ch helpu mae gan y Brifysgol gynghorwr arbenigol yn yr Uned Cefnogaeth Ariannol cymorthariannol@bangor.ac.uk (01248 383637).
Am wybodaeth bellach cysylltwch gyda’r Swyddfa Gyllid trwy anfon e-bost at taliadauffioedd@bangor.ac.uk neu drwy ffonio 01248 382055 rhwng 10.00-12.30 a 1.30-4.00 dydd Llun i ddydd Gwener.