Moeseg Nadolig - Dr Joshua Andrews
Cyfres Seminarau Ôl-radd Athroniaeth a Chrefydd
Ddydd Mawrth 12fed o Ragfyr am 6yh, cynhelir sgwrs olaf cyfres yr hydres seminarau ymchwil ôl-raddedig Athroniaeth, Crefydd, Astudiaethau Pentecostaidd a Charismataidd gan Dr Joshua Andrews, Darlithydd Moeseg a Chrefydd, wrth iddo archwilio moeseg Nadolig.
A ydy'n foesegol credu yn Siôn Corn? Sut ddylem ni ddathlu Nadolig? A ydy Nadolig yn fwy na gŵyl grefyddol?
Ymunwch â ni drwy gyfrwng Zoom neu yn ystafell G1 Prif Adeilad y Celfyddydau i glywed mwy!
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Dr Gareth Evans-Jones os gwelwch yn dda: g.evans-jones@bangor.ac.uk.