Mwy am Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Ysgolheictod

Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn un o fil. Ers ei sefydlu fwy na chanrif yn ôl mae wedi gwneud cyfraniad aruthrol i ysgolheictod, llenyddiaeth a diwylliant Cymru. Yn wir, mae llawer o astudiaethau ysgolheigaidd mewn astudiaethau Celtaidd mewn sawl gwlad yn seiliedig ar waith a wnaed ym Mangor.

Graddau sengl neu gyd-anrhydedd

Nid yn unig y mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn cynnig graddau anrhydedd sengl a chyfun i israddedigion ond hefyd y cyfle i astudio gradd yn y Gymraeg fel ail iaith.

Addysg o'r radd flaenaf

Mae gan Brifysgol Bangor enw da am addysg o safon uchel ac mae nifer o fyfyrwyr yr adran yn penderfynu aros ymlaen am gwrs ôl-raddedig.

Gyrfaoedd

Mae nifer o’n graddedigion wedi gwneud eu marc fel darlithwyr, awduron a beirdd ar ôl cael dechrau rhagorol yn adran y Gymraeg.

Traddodiad yr Adran

Ni fyddai'n bosib astudio'r Gymraeg fel pwnc academaidd modern oni bai am gyfraniad staff yr Adran yn y gorffennol. Ni raid ond crybwyll dau enw i wneud hynny'n glir: Ifor Williams, golygydd Canu AneirinCanu TaliesinCanu Llywarch Hen a Pedeir Keinc y Mabinogi; a Thomas Parry, golygydd Gwaith Dafydd ap Gwilym.

Pam Astudio yma?

Myfyrwyr yn gweithio mewn grŵp yn un o stafelloedd darllen traddodiadol y Brifysgol, yn y Prif Adeilad

Pam astudio yma? Hanes a Diwylliant

Mae gradd yn y Gymraeg yn rhoi cyfle ichi astudio un o ieithoedd hynaf Ewrop a'i llenyddiaeth sy'n estyn yn ôl i'r chweched ganrif. Cewch gyfle i ddysgu mwy am draddodiad barddol cyfoethog Cymru a rhai o uchafbwyntiau'n traddodiad rhyddiaith.

John Morris-Jones oedd Athro cyntaf y Gymraeg ym Mangor, un o'n hysgolheigion pwysicaf a bardd llwyddiannus yn ogystal. Un o'i fyfyrwyr enwocaf ddechrau'r ugeinfed ganrif oedd Kate Roberts, awdures a orseddwyd yn Frenhines ein Llên.

Myfyrwyr yn eu cap a gwn tu allan i Prif Adeilad y Celfyddydau yn ystod wythnos graddio

Pam astudio yma? Cyn-fyfyrwyr

Yn ystod eich amser yn yr Adran cewch gyfle i astudio gwaith nifer o gyn-fyfyrwyr eraill yr Ysgoll, rhai o lenorion amlycaf yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain

  • Islwyn Ffowc Elis, awdur Cysgod y Cryman, llyfr a enwyd yn Llyfr y Ganrif yn 1999
  • Eigra Lewis Roberts, yr awdures doreithiog sydd wedi ennill y Fedal Ryddiaith ddwywaith ac a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 2006
  • Angharad Tomos, awdures nofelau ysgytiol fel Yma o Hyd a Si Hei Lwli ac enillydd dwy Fedal Ryddiaith
  • Sonia Edwards, yr awdures o Fôn a enillodd y Fedal Ryddiaith yn 1999
  • R. Williams Parry, Bardd yr Haf ac un o feirdd mwyaf y Gymraeg
  • Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru ac un o feirdd mwyaf cynhyrchiol a dylanwadol ail hanner yr ugeinfed ganrif
Image of Alumni Reunion at the National Eisteddfod

Pam astudio yma? Cyn-fyfyrwyr

  • Alan Llwyd, Prifardd y Gadair a'r Goron yn 1973 a 1976, ac awdur sgript y ffilm Hedd Wyn a enwebwyd am Oscar
  • Nesta Wyn Jones, bardd telynegol tyner a gyhoeddodd bedwar casgliad o gerddi
  • Einir Jones, bardd delweddol llachar a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug yn 1991
  • Tudur Dylan Jones, un o aelodau blaenllaw y to presennol o feirdd cynganeddol a Phrifardd y Gadair yn 1995 a 2005
  • John Gwilym Jones, dramodydd, nofelydd,awdur strorïau byrion a beirniad mawr ei ddylanwad
  • William R. Lewis, y dramodydd o Fôn a gomisiynwyd i ysgrifennu dwy ddrama gomisiwn ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol
  • Dewi Wyn Williams, dramodydd llwyddiannus Leni ar gyfer y llwyfan ac amryw withiau ar gyfer y teledu
  • Aled Jones Williams, y dramodydd a'r awdur ffuglen a enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro yn 2002
REF 2021 Case Study - Creative Writing, Translation and Cross-Cultural Understanding: Placing Wales in the World. 

Pam astudio yma? Disgyblaeth Academaidd

Mae'r ffaith fod awduron creadigol fel R. Williams Parry, John Gwilym Jones a Gwyn Thomas yn gyn-aelodau o'i staff ac Angharad Price, Jason Walford Davies, William R. Lewis a Gerwyn Wiliams ymhlith ei staff presennol yn arwydd clir o ymrwymiad Adran y Gymraeg fel disgyblaeth academaidd solat ac fel cyfrwng creadigol byw.

Student Support video

Pam astudio yma? Cefnogaeth i fyfyrwyr

Rhown bwys mawr fel Ysgol ar ofalu am fuddiannau ein myfyrwyr. Cewch Diwtor Personol a fydd ar gael i'ch cynorthwyo ar faterion yn ymwneud â’ch cynnydd academaidd a'ch lles personol. Yn ogystal, er mwyn ei gwneud hi'n haws ichi setlo yn ystod eich semester cyntaf, rhoddir Arweinydd Cyfoedion i bob glasfyfyriwr.

Bydd y myfyriwr o'r ail neu'r drydedd flwyddyn yn gallu rhoi cyngor ymarferol ichi am faterion yn ymwneud â bywyd myfyriwr nodweddiadol.

Student laughing

Pam astudio yma? Bywyd Myfyrwyr

Rheswm arall dros astudio ym Mangor yw ansawdd bywyd uchel ein myfyrwyr. Rydym yn gwarantu llety mewn neuadd breswyl ar gyfer ein holl fyfyrwyr blwyddyn gyntaf. Y neuadd enwocaf ar gyfer myfyrwyr Cymraeg yw Neuadd John Morris- Jones, cartref i genedlaethau o fyfyrwyr Cymraeg ym Mangor am flynyddoedd lawer.

Mae dewis helaeth o weithgareddau cymdeithasol a diwylliannol ar gael yn yr ardal. A chan fod dinas Bangor wedi ei lleoli ar lannau'r Fenai ac nid nepell o'r Wyddfa a'i chriw, dyma'n sicr un o'r lleoliadau harddaf a gewch chi yn unman ar gyfer prifysgol.

Myfyrwyr hŷn

Mae rhai o'n myfyrwyr gorau yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn fyfyrwyr hŷn. Gan ei fod yn cyfeirio at unrhyw un dros 21 oed, mae'r categori 'myfyrwyr hŷn' yn un eang iawn ac mae hi felly’n anodd sôn am fyfyriwr hŷn nodweddiadol.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?