Mae Prifysgol Bangor yn cryfhau cefnogaeth i Ieithoedd Rhyngwladol ledled Gogledd Cymru
Mae Prifysgol Bangor yn cryfhau ei hymrwymiad i hyrwyddo Ieithoedd Rhyngwladol ledled Gogledd Cymru drwy fenter gynyddol i gefnogi ysgolion, dan arweiniad Nathalie Thomas a Rubén Chapela-Orri o Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau. Gan weithio’n agos gyda Gyrfa Cymru, rhanddeiliaid eraill ac ysgolion lleol, mae’r prosiect yn cefnogi athrawon, yn hyrwyddo’r defnydd o ieithoedd, ac yn helpu adrannau i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru a manylebau newydd TGAU.
Hyd yma, mae’r Prosiect Ieithoedd Rhyngwladol wedi gweithio gyda nifer o ysgolion uwchradd, gan gynnwys Ysgol Uwchradd y Rhyl, Ysgol Maes Garmon, Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Dinas Brân, Ysgol John Bright, Ysgol Brynhyfryd, Ysgol y Creuddyn, Ysgol Tryfan, Ysgol Maelor ac Ysgol y Grango, yn ogystal ag ysgolion cynradd yng nghlwstwr Treffynnon ac Ysgol Maesglas. Mae’r cymorth wedi cynnwys cynllunio’r cwricwlwm, strategaethau addysgu TGAU, datblygu adrannau, strategaethau recriwtio ar gyfer Cyfnod Allweddol 5, a chanllawiau ar elfennau ffilm a llenyddiaeth. Mae cyfres o weminarau llwyddiannus hefyd wedi’u cynnal, gyda chefnogaeth werthfawr Rheolwr Cyswllt Busnes y Brifysgol, Darren Morley.
Dywedodd Arweinydd Ieithoedd Ysgol Maes Garmon:
“Cytunodd Nathalie i gyfarfod â’r adran yn ystod un o’n diwrnodau HMS er mwyn darparu cymorth gyda chynllunio ar gyfer y cwricwlwm newydd a’r TGAU newydd. Roedd y cyflwyniad yn gyfeillgar ac yn llawn syniadau, ynghyd â chynnig o gymorth ymarferol a fydd o gymorth amhrisiadwy i’n hadran. Boed i’r fenter newydd hon barhau i ddatblygu a ffynnu.”
Dywedodd Arweinydd Ieithoedd Ysgol Uwchradd y Rhyl:
“Hyd yma, mae wedi bod yn wych cydweithio gyda Nathalie. Mae hi’n cynnig cefnogaeth, arweiniad a chyngor gwerthfawr iawn, ac mae hi bob amser yn cymryd yr amser i ateb fy nghwestiynau. Mae hi’n hynod effeithlon wrth ymateb i negeseuon e-bost ac mae hi hefyd yn trefnu cyfarfodydd Teams yn gyflym iawn pan fo angen.”
Fel rhan o’r fenter drawsddisgyblaethol hon, ymunodd Uwch-ddarlithydd yn y Gyfraith, Dr Helen Trouille, â sgyrsiau cyflogadwyedd ar gyfer disgyblion Blwyddyn 8 yn Ysgol y Maelor, gan dynnu sylw at werth ieithoedd o ran gyrfaoedd yn y dyfodol.
Mae ysgolion wedi canmol y Prosiect Ieithoedd Rhyngwladol fel “chwa o awyr iach” ac “achubiaeth” i adrannau ieithoedd sy’n wynebu newidiadau sylweddol i’r cwricwlwm. Mae athrawon wedi tynnu sylw at werth y cyngor ymarferol, y gefnogaeth brydlon, a’r hyder newydd yn nyfodol addysgu Ieithoedd Rhyngwladol yng Nghymru.
Mae effaith y prosiect a’i ddatblygiadau parhaus hefyd wedi’u rhannu gyda Bwrdd Cymunedol Prifysgol Bangor, gan gryfhau ymhellach y cydweithio rhwng ysgolion a’r Brifysgol ledled y rhanbarth.
As part of this interdisciplinary initiative, Senior Lecturer in Law, Dr Helen Trouille joined employability talks for Year 8 pupils at Ysgol y Maelor, highlighting the value of languages in future careers.
Schools have praised the International Languages Project as “a breath of fresh air” and “a lifeline” for language departments navigating significant curriculum changes. Teachers highlighted the value of practical advice, rapid support, and renewed confidence in the future of International Languages teaching in Wales.
The impact and ongoing developments from the project have also been shared with the Community Board, helping strengthen collaboration between schools and the University across the region.