Project newydd i helpu cymunedau i gynllunio systemau ynni lleol – swydd Cydymaith Ymchwil ar gael
Mae Prifysgol Bangor yn gweithio mewn partneriaeth ag Ynni Cymunedol Cymru ar broject newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cymunedau i gynllunio eu systemau ynni lleol eu hunain.
Cefnogir y project, a elwir yn 'Delweddu Dyfodol Ynni', drwy gynllun ariannu Partneriaeth SMART Llywodraeth Cymru ac mae'n dwyn ynghyd arbenigedd academaidd o'r Brifysgol â phrofiad helaeth Ynni Cymunedol Cymru.
Cychwynnwyd y cydweithrediad gan yr Athro Thora Tenbrink o’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, mewn cydweithrediad â'r Athro Adrian Gepp a Dr Sadeque Hamdan o Ysgol Fusnes Albert Gubay, yn dilyn trafodaethau hirhoedlog gydag Ynni Cymunedol Cymru am yr heriau y mae cymunedau'n eu hwynebu yng nghyfnodau cynharaf cynlluniau ynni.
Mae Systemau Ynni Lleol Clyfar yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac yn ei ddosbarthu'n lleol, gan helpu i leihau costau ynni, gwella diogeledd ynni, a rhoi mwy o reolaeth i gymunedau dros sut mae ynni'n cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio. Er bod enghreifftiau llwyddiannus i’w cael ledled Cymru, gall fod yn anodd penderfynu pa fath o system a allai weithio mewn lle penodol heb fynediad at wybodaeth a data arbenigol.
Er bod sefydliadau megis Ynni Cymunedol Cymru ac Ynni Teg yn darparu cefnogaeth werthfawr ar ôl i broject gael ei nodi, mae cymunedau’n aml yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at y wybodaeth gywir am eu hardal leol i lywio’r penderfyniadau cychwynnol hynny.
Bydd y project hwn yn mynd i'r afael â'r bwlch hwn drwy ddatblygu teclyn ar-lein hawdd ei ddefnyddio i gefnogi’r gwaith o wneud penderfyniadau a bydd yn dwyn ynghyd ddata ar sail lle o Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) presennol. Bydd yr offeryn yn cyflwyno'r wybodaeth hon mewn fformat hygyrch i ddefnyddwyr lleyg, gan helpu grwpiau cymunedol i archwilio amodau lleol a deall pa opsiynau ynni adnewyddadwy a allai fod yn addas yn eu hardal. Bydd yr offeryn ar gael i’r cyhoedd ar wefan Ynni Cymunedol Cymru.
Dywedodd yr Athro Tenbrink, “Mae gan lawer o gymunedau ddigon o gymhelliant a gwybodaeth leol i fedru datblygu projectau ynni ond does ganddyn nhw ddim mynediad at y wybodaeth dechnegol y mae arnyn nhw ei hangen ar y dechrau. Bwriad y project yma ydy sicrhau bod y wybodaeth honno’n weladwy a bod modd ei defnyddio.”
Fel rhan o'r project, gwahoddir ceisiadau nawr am swydd Cydymaith Ymchwil llawn amser dros gyfnod o 12 mis. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar gymhwyso Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a dadansoddeg data i gefnogi ymatebion dan arweiniad y gymuned i newid hinsawdd.
Mae manylion llawn y swydd a sut i wneud cais ar gael yma.