O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? Dw i o Ynys Môn, Gogledd Cymru.
Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol? Dechreuais fy mhrosiect ymchwil ym mis Ebrill, felly rwyf yn dal i fod yng nghyfnod cynnar yr hyn rwy'n gobeithio y bydd yn astudiaeth ddiddorol iawn. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar Chwarel y Penrhyn a'r afiechydon a'r anafiadau a brofwyd gan y chwarelwyr a oedd yn gweithio yno. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn archwilio realiti gweithio yn y diwydiant llechi a sut yr effeithiodd amodau peryglus chwarelu ar iechyd y gweithlu. Ochr yn ochr â hyn, byddaf yn archwilio datblygiad rheoliadau iechyd a diogelwch o fewn y diwydiant chwarelu a sut y dylanwadodd agweddau newidiol tuag at iechyd galwedigaethol ar ddiogelu gweithwyr. Byddaf hefyd yn cyffwrdd â datblygiad ehangach hanes meddygaeth, gan osod profiadau chwarelwyr y Penrhyn o fewn y newidiadau meddygol, cymdeithasol a diwydiannol ehangach a oedd yn digwydd yn ystod y cyfnod Fictoraidd.
Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Mae gen i ddiddordeb mawr yn hanes meddygaeth, yn enwedig yn ystod oes Fictoria. Mae'r newidiadau cyflym sy'n digwydd yn ystod y cyfnod hwn—o ddatblygiadau mewn gwybodaeth a thriniaeth feddygol i ymwybyddiaeth gynyddol o iechyd y cyhoedd a chlefydau—yn ei wneud yn gyfnod hynod ddiddorol i'w astudio. Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y ffordd y mae'r datblygiadau hyn wedi effeithio ar bobl gyffredin a chymunedau lleol, a sut y cafodd meddygaeth ei llunio gan newidiadau cymdeithasol a diwydiannol ehangach Prydain yn oes Fictoria.
Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol? Graddiais o Brifysgol Bangor yn 2024 gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cyfraith gyda Hanes, cyn cwblhau TAR mewn Hanes ym Mhrifysgol Bangor. Rwyf bellach yn athro ysgol uwchradd cymwysedig yng Ngogledd Cymru, lle rwy'n dysgu Hanes a Gwyddoniaeth. Mae fy nhaith academaidd a phroffesiynol wedi caniatáu i mi gyfuno dau bwnc yr wyf wedi bod yn angerddol amdanynt erioed: Hanes a Meddygaeth. Datblygodd fy niddordeb yn hanes meddygaeth yn ystod fy astudiaethau israddedig, pan gefais y cyfle i archwilio'r pwnc yn fanylach trwy fy ymchwil hanesyddol. Roedden i'n ymddiddori yn y ffyrdd y mae gwybodaeth feddygol, iechyd y cyhoedd a chymdeithas wedi esblygu ochr yn ochr â newidiadau ehangach ym Mhrydain. Mae'r diddordeb hwn wedi parhau i dyfu drwy gydol fy ngyrfa addysgu ac wedi fy annog i archwilio hanes meddygaeth y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, yn enwedig y berthynas rhwng meddygaeth, diwydiant a chymunedau lleol yng Ngogledd Cymru.
Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol? Rwy'n edrych ymlaen at fod yn rhan o gymuned a rhannu syniadau newydd!
Beth yw’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni yr ydych fwyaf balch ohono ers ymuno â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru? Byddwn i'n dweud gweithio fel athro llawn amser a gwneud PhD hefyd!
Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham? Fy hoff gyfnodau i'w hastudio yw'r cyfnod Duduraidd ac Oes Fictoria, yn bennaf oherwydd bod y ddau yn gyfnodau o newid a thrawsnewid sylweddol. Rwy'n gweld cyfnod y Tuduriaid yn arbennig o ddiddorol oherwydd y cynnwrf gwleidyddol, crefyddol a chymdeithasol a ail-luniodd Loegr, tra bod oes Fictoria o ddiddordeb i mi oherwydd y datblygiadau cyflym mewn diwydiant, gwyddoniaeth, meddygaeth ac iechyd y cyhoedd. Rwy'n mwynhau archwilio sut yr effeithiodd y newidiadau ehangach hyn ar bobl gyffredin a thrawsnewid bywyd bob dydd. Mae cyfnod Fictoria yn arbennig o ddiddorol i mi oherwydd fy angerdd dros hanes meddygaeth a'r ffordd yr oedd datblygiadau meddygol wedi'u cysylltu'n agos â newidiadau ehangach mewn cymdeithas.
Eich hoff le yng Nghymru a pham? Fy hoff le yw Rhosneigr. Dw i wrth fy modd â'r traeth a'r siopau a'r caffis lleol!
Beth yw eich hobïau neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill?
Y tu allan i addysgu a'm diddordebau academaidd, rwy'n ymarfer corff a mynd i'r gampfa'n rheolaidd. Eleni, rwyf wedi herio fy hun trwy gymryd rhan mewn hanner HYROX yn ogystal â nifer o gystadlaethau DEKA, yn lleol ac ym Manceinion. Rwy'n mwynhau'r her a'r amrywiaeth y mae'r digwyddiadau hyn yn eu cynnig, ac maent wedi dod yn ffordd wych o gadw'n heini a gosod nodau newydd i mi fy hun.
Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi treulio amser gyda fy ffrindiau a'm teulu, boed hynny'n dal i fyny neu'n mynd allan ac archwilio lleoedd newydd gyda'n gilydd. Rwy'n dwli ar deithio a, phan gaf y cyfle, rwy'n mwynhau mynd ar wyliau. Un o fy hoff leoedd i ymweld ag ef yw De Ffrainc, lle rwy'n mwynhau'r golygfeydd hardd, y bwyd a'r awyrgylch hamddenol yn arbennig.
Cysylltwch â Molly:
mlw20tfq@bangor.ac.uk