Golygfa amaethyddol gyda dau ffigwr yn y blaendir, llawer o anifeiliaid, a mynyddoedd yn y cefndir

Cwrdd â'r Tîm

Cydweithwyr Prifysgol Bangor

Mae ‘cartref’ Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor yn yr Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol. Cefnogir y Cyfarwyddwr hefyd gan dîm o gydweithwyr o wahanol ysgolion ledled y brifysgol. Mae’r cydweithwyr hyn yn cyfrannu arbenigedd o feysydd mor amrywiol ag archifau a rheoli coetiroedd, hanes cyfreithiol a cherddoriaeth, defnydd tir cynaliadwy, llenyddiaeth Gymraeg a hanes llyfrau. Maent yn cynnig safbwyntiau rhyngddisgyblaethol pwysig ar ein gwaith, yn cynrychioli Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn eu meysydd pwnc ac yn goruchwylio ein projectau doethuriaeth.

Aelodau Cyswllt Ymchwil ac Ymgysylltu

Yn 2024 penododd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ddau Aelod Cyswllt Ymchwil ac Ymgysylltu, Sean Martin a Bethan Scorey, y ddau yn ymchwilwyr doethurol ym Mhrifysgol Bangor. Mae Sean a Bethan yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr a thîm ehangach y Sefydliad i hyrwyddo ein rhaglen waith, gweithgareddau a chyflawniadau i gymunedau ehangach o fewn a thu hwnt i Brifysgol Bangor.

Ymchwilwyr Doethurol

Mae ein hymchwilwyr doethurol yn rhan hanfodol o’n cenhadaeth i ddeall yn gliriach hanes, diwylliannau a thirweddau Cymru. Rydym wedi llwyddo i ddenu carfan o ymchwilwyr disglair, ymroddedig a brwdfrydig i Brifysgol Bangor sy’n ymgymryd ag astudiaethau pwysig sy’n gysylltiedig â’n diddordebau ymchwil. Gallwch ddarllen mwy am eu prosiectau doethuriaeth yn adran Ein Hymchwil ein gwefan.

Bwrdd Ymgynghorol

Mae’r bwrdd ymgynghorol yn gorff allanol sy’n cynnwys arbenigwyr ac aelodau o’r gymuned sy’n rhannu’r nod o ddatblygu Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn endid deallusol egnïol sy’n gallu cyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas a diwylliant Cymru. Mae’r bwrdd yn cynnwys grŵp o unigolion y mae eu harbenigedd a’u sgiliau yn cyd-fynd â’n diddordebau – yn cynnwys dealltwriaeth hanesyddol a chyfoes o ystadau a phlastai, archifau, materion gwledig a threftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Rôl y Bwrdd yw trafod a chynghori ynghylch ein datblygiad tymor hir a chynnig syniadau a chyngor ar faterion sy'n ymwneud â'n proffil cyhoeddus, cysylltiadau rhanddeiliaid, hunaniaeth ddeallusol a strategaethau cyllido.  Mae'r Bwrdd yn cwrdd tua dwywaith y flwyddyn, gyda'r aelodau'n gweithredu fel llysgenhadon i'r ganolfan yn eu meysydd dylanwad.

Cadeirir y Bwrdd Ymgynghorol gan Yr Athro Robin Grove-White, perchennog ystad y Brynddu ar Ynys Môn.  Mae Robin wedi treulio ei yrfa yn ymwneud â meysydd ymchwil a pholisi, yn cynnwys fel Cyfarwyddwr y Council for the Protection of Rural England, Cadeirydd Greenpeace UK a Chyd-gyfarwyddwr yr Interdisciplinary Centre for the Study of Environmental Change ym Mhrifysgol Lancaster, lle daeth yn Athro yn yr Amgylchedd a Chymdeithas.   Cafodd radd PhD o Brifysgol Bangor yn 2012 am thesis ar hanes modern cynnar ystad Plas Coch ar Ynys Môn.   yn 2018, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Er Anrhydedd iddo gan Brifysgol Bangor am wasanaethau i'r gymuned.  Mae'n Llywydd Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn. 

Photograph of Prof. Robin Grove-White

Mae Terry yn arbenigo mewn hanes cymdeithasol a gwleidyddol Iwerddon yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, yn enwedig hanes plastai Iwerddon a dosbarth y tirfeddianwyr.  Yn 2001 cynhyrchodd fonograff arloesol ar Decline of the big house in Ireland, a arweiniodd yn uniongyrchol at sefydlu'r Centre for the Study of Historic Irish Houses and Estates (CSHIHE) ym Mhrifysgol Maynooth o dan gyfarwyddiaeth Terry.  Mae'r ganolfan ymchwil hon, sy'n gweithio ar draws meysydd cyhoeddus a phreifat, ac mewn cydweithrediad â'r byd academaidd, archifau a threftadaeth ddiwylliannol, wedi trawsnewid dealltwriaeth academaidd a chyhoeddus o hanes plastai ac ystadau yn Iwerddon a'r modd y maent yn ymwneud â nhw.  Mae llwyddiannau CSHIHE yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol, ac ar lawer ystyr, maent yn darparu’r model a’r ysbrydoliaeth ar gyfer datblygu Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.  Maent yn un o'n partneriaid academaidd allweddol ac mae swydd Terry ar y Bwrdd yn cryfhau cysylltiadau cydweithredol rhwng y canolfannau yng Nghymru ac Iwerddon.  

Yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Bangor, mae Raj wedi gwneud cyfraniad mawr i Brifysgol Bangor, y gymuned leol ac i brojectau bywyd gwyllt a chadwraeth ers iddi symud i Ynys Môn ym 1997.  Hyfforddodd Raj i fod yn ffisegydd, ac mae ganddi gyhoeddiadau a diddordeb ers amser maith mewn hanes gwyddoniaeth a thechnoleg.  Cynorthwyodd i sefydlu'r Grŵp Hanes Ffiseg yn y Sefydliad Ffiseg, gwasanaethodd fel ymddiriedolwr Museum of Science and Industry Manceinion ac roedd yn ysgrifennydd Cymdeithas Lenyddol ac Athronyddol Manceinion.  Er 1997 mae hi wedi neilltuo ei hamser a'i hymdrechion i'w brwdfrydedd mawr mewn bywyd: cadwraeth, yn enwedig y wiwer goch frodorol ar Ynys Môn.  Noddodd Ŵyl Hanes Bangor yn 2019.  

Ganwyd David yn Hong Kong ac mae'n ŵyr i ffermwr defaid o Sir Gaerfyrddin.  Darllenodd Gyfreitheg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, a mwynhaodd yrfa ddisglair fel cyfreithiwr gyda Norton Rose, gan gyflawni swydd Cadeirydd ac Uwch Bartner rhwng 1997 a 2003.  Yn 2006 cafodd ei ethol i swydd Siryf Dinas Llundain ac yn 2007 daeth yn 680fed Arglwydd Faer y Ddinas.  Yn 2009 cafodd ei urddo'n farchog i gydnabod ei wasanaethau i'r proffesiwn cyfreithiol ac i Ddinas Llundain.  Dros y blynyddoedd diwethaf, ar ôl symud yn ôl i Sir Gaerfyrddin, mae David wedi neilltuo amser sylweddol i ymchwilio a chynhyrchu cyfres o gyfrolau ar hanes teuluoedd bonheddig, ystadau a'u cymunedau cysylltiedig yn ne orllewin Cymru.  Mae ganddo ddau DCL er Anrhydedd (Dinas a Chymru) ac mae'n Gymrawd er Anrhydedd Coleg yr Iesu Rhydychen, Caerdydd, Ysgol Guildhall, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.  Ar 1 Mawrth 2008 dyfarnwyd anrhydedd Dewi Sant iddo gan Brif Weinidog Cymru.

Daw Tom o Ddyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin.  Ar ôl darllen y Clasuron a'r Gyfraith yng Nghaergrawnt bu'n ymarfer fel cyfreithiwr yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru i neilltuo ei yrfa i adeiladau hanesyddol a threftadaeth Gymreig.  Yn 1986 cyhoeddodd The Lost Houses of Wales, a arweiniodd at ei benodi i Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru, y bu’n Gadeirydd arno am ddeng mlynedd wedi hynny.  Mae hefyd wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Bwrdd Croeso Cymru, gan hyrwyddo treftadaeth fel elfen o dwristiaeth yng Nghymru, fel Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Adeiladau mewn Perygl ac fel Comisiynydd RCAHMW.  Er 2011 mae wedi gwasanaethu fel Herodr Arbennig Arfau Cymru ac yn ddiweddar fe'i penodwyd yn Llywydd Cymdeithas Hanes Sir Gaerfyrddin. 

Mae George yn gyfreithiwr amgylcheddol sy'n rheoli busnes a buddiannau tirfeddiannol ystâd hynafol Bodorgan ei deulu ar Ynys Môn.  Mae hyn yn cynnwys portffolio amrywiol o fentrau preswyl, masnachol ac amaethyddol.  Mae'n cefnogi dulliau arloesol o reoli ystadau, gan gyfuno ei ddiddordeb dwfn mewn cadwraeth a'r amgylchedd.  Yn 2017 penodwyd George yn Ganghellor newydd Prifysgol Bangor, gan olynu’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas fel y 12fed unigolyn i fod yn y swydd. 

Fel Pennaeth yr Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas trwy gydol bodolaeth Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, mae Peter wedi chwarae rhan bwysig wrth oruchwylio ein datblygiad yn endid academaidd sydd wedi'i integreiddio'n llawn i swyddogaethau ymchwil, effaith a dysgu'r Ysgol a'r Brifysgol. 

Ganwyd a magwyd Michael yn Sir Aberteifi a Sir Gaerfyrddin, a chymhwysodd fel asiant tir yn y Coleg Amaethyddol Brenhinol, Cirencester, cyn gweithio mewn practis preifat, ac yn ddiweddarach, i Ystâd y Goron fel Rheolwr Asedau a Chynghorydd Cadwraeth.  Fe wnaeth ei frwdfrydedd dros dreftadaeth bensaernïol Cymru ei ysbrydoli i achub a gwarchod adeiladau adfeiliedig Trevor Hall (Llangollen), Hendre House (Llanrwst) a, chan weithio gydag eraill, Plas Kynaston (Rhiwabon).  Mae wedi cyhoeddi gweithiau ar dai Cymru sydd mewn perygl, a'i broject presennol yw cadwraeth neuadd o'r unfed ganrif ar bymtheg ar ffin Powys/ Swydd Amwythig.  Yn y gorffennol mae wedi cadeirio Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru a Chymdeithas Tai Hanesyddol yng Nghymru, yn ogystal â gwasanaethu fel Ymddiriedolwr y Grŵp Sioraidd ac aelod o Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru. 

Roedd Einion yn bennaeth Archifau Prifysgol Bangor rhwng 2002-2015 lle roedd ganddo gyfrifoldeb am warchod a hyrwyddo'r Archifau, gan gynnwys y casgliadau unigryw o bapurau ystadau. Cyn ymuno â'r Brifysgol roedd yn bennaeth y Gwasanaeth Archifau ar Ynys Môn, ac yn ddiweddarach yn ei sir enedigol, Sir Feirionnydd.  Cyn iddo ymddeol, cyd-sefydlodd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru fel canolfan i ryddhau potensial ymchwil casgliadau ystadau'r Brifysgol.  Mae gan Einion ddiddordebau ymchwil sy'n canolbwyntio ar hanes cefn gwlad Cymru, gan gynnwys hanes potsio.

Gweithiodd Helen fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu, gan oruchwylio rhaglenni a oedd yn canolbwyntio ar bynciau a materion Cymreig, cyn ymgymryd â phroject doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor ar fywyd a delwedd y foneddiges fodern gynnar o Gymru, Catrin o Berain.  Cyfunodd yr ymchwil hon ddiddordebau Helen mewn diwylliannau gweledol a llenyddol Cymreig.  Mae Helen hefyd yn rhedeg busnes bwthyn gwyliau hunanarlwyo ar ystâd Glasfryn yn Sir Gaernarfon.

Cyn-aelodau'r Bwrdd:

Yn gyn-fyfyriwr o brifysgolion Bangor ac Aberystwyth, a Choleg yr Iesu, Rhydychen, mae Rhian Davies yn hanesydd cerdd sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gregynog er 2006.  Wedi'i hysbrydoli gan etifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog Gregynog yn sir enedigol Rhian yn Nhrefaldwyn, mae'r Ŵyl bellach wedi'i sefydlu'n gadarn fel un o'r prif ddigwyddiadau diwylliannol yn y Deyrnas Unedig.  Mae Rhian yn eiriolwr blaenllaw dros dreftadaeth gerddorol Cymru, a thrwy gydol ei gyrfa, mae wedi gweithio i hyrwyddo diwylliant Cymru yn rhyngwladol, tra hefyd yn arddangos doniau byd-eang yng Nghymru.  Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Er Anrhydedd i Rhian gan Brifysgol Bangor yn 2019 am wasanaethau i gerddoriaeth.

Bu Dafydd yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd o 1974-1992 a dros Ddwyfor Meirionnydd o 1999-2021, gan wasanaethu fel Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol o’i gychwyn hyd 2011. Bu Dafydd yn Ganghellor Prifysgol Bangor o 2000-2017. Ymddiswyddodd o Fwrdd Cynghori Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ar ôl cael ei benodi’n Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn 2017. 

Yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ym Mhrifysgol Bangor, mae Sheila wedi chwarae rhan annatod o ran ein sefydlu a'n twf fel canolfan ymchwil.  Mae cam datblygu cychwynnol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru wedi'i gefnogi gan gyllid dyngarol.  Mae'r Swyddfa Ddatblygu yn cefnogi'r Sefydliad mewn materion sy'n ymwneud â strategaeth ariannu preifat, cysylltiadau allanol, marchnata a gweithrediad y Bwrdd Ymgynghorol. 

Cymrodyr Ymchwil er Anrhydedd

Pan ffurfiwyd y sefydliad, gwahoddwyd pum academydd ac archifydd amlwg i ymuno â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru fel cymrodyr ymchwil er anrhydedd, i gynghori ar ein cynlluniau ymchwil a’n datblygiad deallusol. Roedd y diweddar Athro A. D. Carr yn un o haneswyr canoloesol mwyaf blaenllaw Cymru ac mae ei ymchwil arloesol i ddatblygiad ystadau a’r uchelwyr yng ngogledd Cymru yn sylfaen bwysig i’n gwaith. Cyfrannodd y diweddar Dr John Davies yn helaeth at astudio a hyrwyddo hanes Cymru, yn cynnwys gweithiau pwysig ar berchnogaeth tir a chyhoeddiad mawr ar Gaerdydd ac Ardalyddion Bute. Mae astudiaethau’r Athro David W. Howell ar hanes gwledig ac amaethyddol Cymru yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn parhau i gynnig fframwaith hanfodol i ymchwil. Yn ystod ei yrfa yn gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, daeth J. Glyn Parry i’w adnabod fel un o archifwyr mwyaf blaenllaw Cymru, gydag arbenigedd penodol yng nghofnodion Llys y Sesiwn Fawr. Mae’r Athro Prys Morgan wedi cyfrannu’n sylweddol at fywyd diwylliannol a deallusol Cymru, yn enwedig ym maes hanes diwylliannol y ddeunawfed ganrif.

Aelodau Cysylltiol

Rydym yn cydnabod bod nifer o unigolion a sefydliadau y tu hwnt i Brifysgol Bangor yn rhannu diddordeb mewn hyrwyddo ein nodau a’n dyheadau deallusol a diwylliannol. Mae gweithio mewn partneriaeth â’r cydweithwyr a’r rhanddeiliaid hyn yn hanfodol i’n cenhadaeth. O’r herwydd rydym yn cynnig statws aelod cyswllt i unigolion a sefydliadau sy’n cefnogi ac yn cyfrannu at ein hamcanion. Cynigir aelodaeth gyswllt fel ffordd o wella ein dylanwad academaidd a’n gallu cydweithredol wrth ymgysylltu â rhwydwaith o bartneriaid allanol mewn sefydliadau ymchwil eraill ac yn sectorau treftadaeth ddiwylliannol, archifau, tai hanesyddol a materion gwledig. Bydd ein haelodau cyswllt yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau bod dylanwad y sefydliad yn gwreiddio ledled Cymru; ac yn cynorthwyo i ddangos perthnasedd pellgyrhaeddol ein gwaith, gan gynnwys ei berthnasedd yn rhyngwladol. Cysylltwch â ni i holi am aelodaeth.

Cyfeillion Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru

Rydym bob amser yn falch iawn o glywed bod ein gwaith o ddiddordeb i bobl yng Nghymru a thu hwnt. Ers ffurfio’r sefydliad, rydym wedi elwa o gefnogaeth, ymgysylltiad ac anogaeth gan lawer o unigolion a sefydliadau. Rydym yn ddiolchgar bod llawer o’r bobl sy’n cefnogi ac yn dilyn ein gwaith wedi ymuno â’n cynllun cyfeillion. Mae ein cyfeillion yn rhan bwysig o Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru. Os hoffech ymuno â hwy, ewch i’r rhan Cefnogi ein Gwaith ar ein gwefan.