Pentref Ffriddoedd

Neuaddau yn Ffriddoedd

Mae ein holl lety yn hunanarlwyo. Cliciwch ar enwau'r neuadd isod i gael mwy o fanylion, gan gynnwys fideos a rhith-deithiau o amgylch y cyfleusterau, hyd y contract a phris.

Neuaddau En-suite (cynllun diweddaraf)

Mae'r neuaddau isod o gynllun tebyg. Mae'r neuaddau isod yn cynnwys ystafelloedd en-suite gyda cheginau sy'n cael eu rhannu rhwng 8 o fyfyrwyr. Mae rhan fwyaf o’r fflatiau yn cynnwys un ystafell mwy ar gael am dal ychwanegol. Cafodd y neuaddau yma eu hadeiladau yn 2007/2008.

Neuaddau En-suite (cynllun gwreiddiol)

Mae'r neuaddau isod o gynllun tebyg. Mae'r neuaddau isod hefyd yn cynnwys ystafelloedd en-suite gyda cheginau sy'n cael eu rhannu rhwng 8 o fyfyrwyr ac maen nhw i gyd wedi ei lleoli’n ganolog ym mhentref Ffriddoedd. Cafodd y neuaddau isod eu hadeiladu yn y 1990au felly maent yn rhatach nag y neuaddau uchod.

Neuadd John Morris-Jones (JMJ) 

Mae Neuadd JMJ yn neuadd en-suite (cynllun gwreiddiol) ar Safle’r Ffriddoedd. Mae’n cael ei hadnabod fel Neuadd JMJ, Adeilad Bryn Dinas. Mae’r neuadd ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn y lle cyntaf.

Fideo: Taith o amgylch Neuadd JMJ

Cyfleusterau Cegin yn Neuadd Adda, Pentref Ffriddoedd

Teithiau 360

Edrychwch ar ein teithiau 360 o'n llety yn Ffriddoedd a Santes Fair, yn cynnwys ystafelloedd gwely a cheginau. 

Beth sydd gerllaw?

Mae'n hawdd cyrraedd y rhan fwyaf o lefydd ym Mangor o Ffriddoedd. Gallwch gerdded i brif adeiladau'r Brifysgol, siopau, bariau, bwytai ac archfarchnadoedd.

Defnyddiwch ein map campws i weld lle mae adeiladau'r Brifysgol, ac edrychwch ar ein canllaw isod.

(* Mae'r holl amseroedd cerdded yn rhai bras)

Adeiladau'r Brifysgol

  • Prif Adeilad y Brifysgol - taith gerdded 5 munud (Bangor Uchaf)
  • Adeiladau'r Celfyddydau - taith gerdded 5 munud (Bangor Uchaf)
  • Llyfrgell y Celfyddydau - taith gerdded 5 munud (Bangor Uchaf)
  • Gwyddorau Gofal Iechyd - taith gerdded 2 funud (Fron Heulog, Bangor Uchaf)
  • Adeiladau Gwyddoniaeth - taith gerdded 10 munud (Deiniol Road, canol y ddinas)
  • Llyfrgell Wyddoniaeth - taith gerdded 10 munud (Deiniol Road)
  • Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig - taith gerdded 20 munud (Dean Street, canol y ddinas)
  • Ysgol Busnes - taith gerdded 5 munud (Bangor Uchaf)
  • Gwyddorau Eigion - taith gerdded 35 munud (Porthaethwy)
  • Pontio - taith gerdded 10 munud (canol y ddinas)

Archfarchnadoedd

  • Morrisons - taith gerdded 5 munud (Bangor Uchaf)
  • Asda - taith gerdded 10 munud (canol y ddinas)
  • Aldi - taith gerdded 10 munud (canol y ddinas)
  • Lidl - taith gerdded 10 munud (canol y ddinas)
  • M&S - taith gerdded 10 munud (canol y ddinas)
  • Icealand - taith gerdded 10 munud (canol y ddinas)
  • Farmfoods - taith gerdded 25 munud (Ffordd Caernarfon)
  • Tesco - taith gerdded 30 munud (Ffordd Caernarfon)
  • Waitrose - taith gerdded 30 munud (Porthaethwy)

Siopau

  • Siop Ffriddoedd - ar y safle
  • Siopau lleol - taith gerdded 5 munud (Bangor Uchaf)
  • Stryd Fawr - taith gerdded 10 munud (canol y ddinas)
  • Siopau y tu allan i'r dref - taith gerdded 20 munud (Ffordd Caernarfon)

Bariau a chlybiau

  • Bar Uno - ar y safle
  • Academi - taith gerdded 10 munud (canol y ddinas)
  • Mae bariau, tafarndai a chlybiau eraill wedi'u lleoli ledled Bangor, ym Mangor Uchaf a chanol y ddinas

Campfa, chwaraeon a ffitrwydd

  • Canolfan chwaraeon Brailsford - ar y safle
  • Caeau chwarae Treborth - taith gerdded 20 munud (wedi'i lleoli wrth ymyl Pont Menai)
  • Ystafell ffitrwydd Santes Fair - taith gerdded 15 munud (Pentref Santes Fair)

Caffis

  • Bar Uno - ar y safle
  • Caffi Cegin - taith gerdded 10 munud (Pontio, canol y ddinas)
  • Caffi Teras - taith gerdded 5 munud (Prif Adeilad y Brifysgol, Bangor Uchaf)
  • Siop a chaffi Barlows - taith gerdded 15 munud, St Mary’s Village
  • Mae caffis lleol wedi'u lleoli ledled Bangor ym Mangor Uchaf a chanol y ddinas ac ym Mhorthaethwy

Bwytai a phrydiau cludo

  • Taith gerdded 5 munud, ym Mangor Uchaf
  • Taith gerdded 10 munud, yng nghanol y ddinas
  • Taith gerdded 20 munud, ar Ffordd Caernarfon
  • Taith gerdded 35 munud, ym Mhorthaethwy

Gofal Iechyd

  • Meddygfa - taith gerdded 2 funud
  • Fferyllfa - taith gerdded 5 munud (Bangor Uchaf)
  • Ysbyty - taith gerdded 25 munud

Trafnidiaeth

  • Safle bws - y tu allan
  • Gorsaf Drenau - taith gerdded 5 munud
  • Safle Tacsi - Yn yr orsaf reilffordd ac yng nghanol y ddinas
     

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?