Gall y Gwasanaethau Llety ddarparu geirdaon ar gyfer preswylwyr presennol a chyn-breswylwyr sydd wedi byw mewn llety a reolir gan Brifysgol Bangor.
Darperir geirdaon i gefnogi ceisiadau am lety ac fe'u seilir ar wybodaeth a gedwir gan y Gwasanaethau Llety.
Pa Wybodaeth y Gellir Ei Chynnwys?
Gall geirdaon llety gynnwys:
- Cadarnhad o'r llety yr oedd y preswylydd yn byw ynddo.
- Dyddiadau'r cyfnod preswylio.
- Cadarnhad bod y cytundeb llety wedi'i gwblhau yn unol â'i delerau a'i amodau.
- Gwybodaeth am unrhyw faterion sy'n ymwneud â'r llety ac oedd yn weddill ar ddiwedd y denantiaeth, lle bo hynny'n berthnasol.
- Cadarnhad a fyddai Prifysgol Bangor yn ystyried cynnig llety i'r preswylydd yn y dyfodol.
Pa Wybodaeth Na Fydd yn Cael Ei Chynnwys?
Ni fydd y Gwasanaethau Llety yn darparu:
- Barn bersonol na geirdaon cymeriad.
- Gwybodaeth nad yw'n ymwneud â'r cytundeb llety.
- Sylwadau sy'n seiliedig ar ddamcaniaethau neu ragdybiaethau.
- Gwybodaeth academaidd, ddisgyblu, ariannol neu wybodaeth arall y Brifysgol nad yw o fewn cylch gwaith y Gwasanaethau Llety.
Sut i Ofyn am Eirda
Dylid anfon ceisiadau am eirdaon llety i'r Gwasanaethau Llety.
Wrth wneud cais, dylid darparu:
- Enw llawn y preswylydd.
- Dyddiadau'r cyfnod y bu'r preswylydd yn byw mewn llety Prifysgol (os ydynt yn hysbys).
- Enw a manylion cyswllt y sefydliad neu'r unigolyn sy'n gofyn am yr eirda.
- Manylion ynghylch ble y dylid anfon yr eirda.
Cydsyniad a Diogelu Data
Mae geirdaon llety yn cael eu darparu yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol. Efallai y bydd angen i'r Gwasanaethau Llety gael cadarnhad bod y preswylydd wedi rhoi ei gydsyniad, neu fel arall wedi awdurdodi rhyddhau ei wybodaeth, cyn y gellir darparu geirda.
Rhagor o Wybodaeth
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Gwasanaethau Llety: