En-suite | Clasur | Siaradwyr a Dysgwyr Cymraeg (9.94m²)
Mae ystafelloedd En-suite (9.94m²) Clasur ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn cynnig profiad bywiog a chyfleus ym Mhentref Ffriddoedd. Maent yn ystafelloedd sengl cyfforddus gydag ystafell ymolchi breifat. Mae pob ystafell wedi ei dodrefnu ac yn cynnwys y cyfleusterau hanfodol.
Cymrwch Daith Rithiol o’r ystafell hon
Archwiliwch yr ystafell hon o gysur eich soffa. Am brofiad ymdrochol.
Defnyddiwch eich penwisg VR ar sgrin lawn. Defnyddiwch y saethau cyfeiriadol i edrych o gwmpas ac i chwyddo i mewn i weld mwy o fanylion. Mae’r eicon cartref yn mynd â chi’n ôl i’r pwynt cychwyn. Os oes gan y daith daith dywysedig, defnyddiwch y botwm chwarae i ddechrau.
Costau a Threuliau Ystafell - Faint fydd y gost i fyw yma?
Dychwelyd Israddedig Costau & Hyd y cytundeb - 2026-27
Costau ychwanegol Dewisol - 2026-27
- Tocyn parcio blynyddol: I'w gadarnhau
- Goriad blynyddol i storfa beics gyda tho: £20
- Golchdy: £2 i olchi dillad / £1 i sychu dillad
Beth sy'n cael ei gynnwys yn y gost
Cyfleusterau Ystafell / Neuadd
Ystafell Wely
Ystafell Ymolchi
Cegin
Offer Glanhau a Domestig
Cyfleusterau yn Pentref Ffriddoedd
Pam dewis Pentref Ffriddoedd
- Gyda tua 1,960 o ystafelloedd, mae'n cynnig awyrgylch prysur a chymuned fywiog.
- Mewn amgylchedd dymunol, mae'r amgylchedd byrlymus hwn yn lle delfrydol i setlo yma fel myfyriwr.
- Wedi'i leoli'n gyfleus yn agos at y rhan fwyaf o adeiladau'r Brifysgol, siopau, bywyd nos, a chysylltiadau trafnidiaeth.
- Mae rhai ystafelloedd yn cynnig golygfeydd ysblennydd o fynyddoedd Eryri.
- Mae'r cyfleusterau'n cynnwys ystafelloedd cyffredin a Bar Uno.
- Mae prif ganolfan chwaraeon y Brifysgol, sydd wedi'i lleoli ar y safle, yn annog ffordd iach ac egnïol o fyw.
- Rydym yn tanysgrifio i God Llety Myfyrwyr Prifysgolion y DU, sydd wedi'i gynllunio i ddiogelu eich hawliau i lety diogel o ansawdd da.
Mae'r ystafell yma ar gael yn:
Sgwrsio gyda ni
Hygyrchedd yn ein Neuaddau
Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cyfforddus a chynhwysol ar gyfer pob myfyriwr. Mae 17 ystafell hygyrch ym Mhentref Ffriddoedd.
Mae ein neuaddau'n cynnig y nodweddion hygyrch hyn:
- Ystafelloedd llawr gwaelod gyda mynediad heb risiau
- Ystafelloedd hygyrch i gadeiriau olwyn gyda drysau awtomatig
- Ystafelloedd gwlyb gyda rheiliau cydio a chadeiriau cawod
- Mae llinyn galw argyfwng ym mhob ystafell hygyrch ym Mhentref Ffriddoedd
- Rhai ystafelloedd gwlyb wedi'u cyfarparu â thoiledau Closomat
- Oergelloedd meddyginiaeth ar gael ar gais
- Cymhorthion clyw: clustogau dirgrynol a larymau fflachiol
Cysylltwch â ni gydag unrhyw ymholiad.
Cyfleusterau Chwaraeon
Lleolir prif ganolfan Chwaraeon y Brifysgol ym mhentref Ffriddoedd. Mae campfa deulawr, campfa codi pwysau, dwy neuadd chwaraeon, dôm chwaraeon, cyrtiau sboncen a wal ddringo.
Ymhlith y cyfleusterau mae:
- Cyrtiau badminton
- Cwrt pump bob ochr
- Cyrtiau pêl foli
- Cyrtiau pêl-fasged
- Cyrtiau pêl rwyd
- Hoci dan do
- Tenis Bwrdd
- Criced Dan Do
- Bowlio Dan Do
- Trampolinio
Lleoliad Pentref Ffriddoedd
Pentref Ffriddoedd yw ein pentref myfyrwyr mwyaf, wedi ei leoli ym Mangor Uchaf. Mae'n bellter cerdded o tua 5-10 munud o'r orsaf drenau a Phrif Adeilad Prifysgol. Mae canol y ddinas yn 10-15 munud ar droed.
Mae yma siop, golchfeydd ac ystafelloedd cyffredin. Dyma lle byddwch chi'n dod o hyd i far-caffi Bar Uno a'r brif ganolfan chwaraeon - Canolfan Brailsford. Mae diogelwch ar y safle 24 awr y dydd ac mae tîm o fentoriaid i'ch cynorthwyo yn ystod eich amser yma.