CANOLFAN BRAILSFORD
Wedi'i leoli ar Ffordd Ffriddoedd, mae gan Ganolfan Brailsford ystod eang o gyfleusterau chwaraeon dan do ac awyr agored.
Beth sydd ar gael yng Nghanolfan Brailsford?
Mae campfa fawr wedi'i lleoli dros ddau lawr, campfa codi pwysau o'r enw Platfform 81, dwy neuadd chwaraeon, dôm chwaraeon, cyrtiau sboncen a wal ddringo.
Ymhlith y cyfleusterau mae:
- Cyrtiau badminton
- Cwrt pump bob ochr
- Cyrtiau pêl foli
- Cyrtiau pêl-fasged
- Cyrtiau pêl rwyd
- Hoci dan do
- Tenis Bwrdd
- Criced Dan Do
- Bowlio Dan Do
- Trampolinio
Campfa Llawr Uchaf
Gyda golygfa wych o'r mynyddoedd a gwerth mwy na £350,000 o gyfarpar newydd, mae Canolfan Brailsford yn cynnig hyfforddiant ffitrwydd heb ei ail. Bellach mae gan Ganolfan Brailsford dair ystafell ffitrwydd ar gyfer hyfforddiant gwrthiant a chardiofasgwlaidd.
Ar y llawr uchaf mae 50 o beiriannau eithafol-fodern Lifefitness Discovery, a phob un ohonynt yn cynnwys consol wedi'i fewnosod â sgrîn-gyffwrdd gyda theledu byw, mynediad i'r we a chyrsiau rhedeg Lifescape. Gall y defnyddwyr redeg drwy goedwigoedd yn Ne'r Almaen neu drwy fryniau a cheunentydd Parc Cenedlaethol Yosemite heb orfod gadael amgylchoedd aerdymherus Canolfan Brailsford.
Gall ymarferwyr bersonoli'u sesiwn drwy fewngofnodi i'r peiriant gyda'u cerdyn aelodaeth, ffôn-smart neu gyfrif personol. Gallwch ddilyn eich cynnydd gan ddefnyddio'r ap LFConnect, sydd ar gael ar gyfer Android, iOS ac ar-lein. Mae gan phob peiriant Lifefitness gysylltwyr ar gyfer dyfeisiau Apple ac Android yn ogystal â clustffonau Bluetooth diwifr.
Campfa Llawr Gwaelod
Gyda chyfarpar newydd sbon ‘Hammer Strength’ plate-loaded a ‘Signature selectorized’ cyfarpar cryfder, mae’r gampfa isaf yn cynnig ymarfer cryfder fel dim arall. Gyda dau pwli ddeuol addasadwy, detholiad dwbl o ddymbelau, peiriant smith, dau rac cwrcwd a chyflenwad digonol o ddisgiau, mae’r gampfa llawr gwaelod yn darparu amryw o gyfarpar sy'n addas ar gyfer unrhyw raglen hyfforddi. Gyda chod QR ar phob peiriant, gall ymarferwyr sganio ac arbed eu canlyniadau i'w cyfrif LFConnect.
Platfform 81
Mae ein campfa yn ychwanegu at ein cyfleusterau gampfa sydd eisoes yn helaeth yng Nghanolfan Brailsford. Bydd y gampfa yn cael ei gynnwys fel rhan o'ch pecyn aelodaeth, ac ‘rydym yn cynnal dau ddosbarth newydd cyffrous FIIT a HIIT yn y cyfleuster newydd (gweler gwybodaeth Dosbarth ar y wefan).
Galwch logi'r gampfa ar gyfer hyfforddiant tîm. Ebostiwch brailsford@bangor.ac.uk am fanylion.
Wal Ddringo
“Wal Livingstone”. Mae 10 Rhaff Top yn rhoi mynediad i dros 30 o lwybrau o 'DIFF' i 7c, ar waliau panelog o bron yn fertigol i uwch serth. Mae wal clogfaen yn rhoi sgôp am anawsterau o phob lefel, uwchben matiau diogelwch.
Ar gyfer cyrsiau dringo ymwelwch a thudalen ‘Beth sydd ymlaen’.
Cae Synthetig / Astro Turf
Mae'r wyneb pob tywydd yn cynnig cae pêl-droed maint llawn neu ddwy gêm ymarfer, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer Hoci hefyd.
Mae'r cae Synthetig wedi'i oleuo'n llawn gan lifoleuadau.
Caeau Pêl-droed Glaswellt
Mae gennym ddau gae, ac mae gan un ohonynt lifoleuadau ar gyfer gemau gyda'r nos a sesiynau hyfforddi.
TREBORTH
Wedi'i leoli ar gyrion Bangor, mae gan Treborth gyfleusterau awyr agored, gan gynnwys trac athletau.
Cyfleusterau Chwaraeon Treborth
Trac Athletau a Caeau Chwarae
Beth sydd ar gael yn Nhreborth?
Yn Nhreborth, mae gennym y cyfleusterau canlynol:
- Trac athletau - trac wyth lôn, wedi'i adeiladu i'r safonau uchaf, gyda chyfleusterau ac offer ar gael ar gyfer pob digwyddiad. Mae'n addas ar gyfer ymarfer a chystadleuaeth ar bob lefel.
- Pedwar cae glaswellt ar gael i'w llogi - ar gyfer pêl-droed, rygbi neu bêl-droed Americanaidd. Mae'r caeau o safon uchel a gellir eu haddasu i gaeau llai ar gyfer gemau ieuenctid.
Gweler ein Cynllun yma. - Pafiliwn, yn cynnig cyfleusterau newid, ac ardal wylio gaeedig a pheiriannau gwerthu ar gyfer lluniaeth.
SAFLE'R NORMAL
Beth sydd ar gael yn Safle'r Normal?
Mae'r cyfleusterau hyn ar gael ar gyfer hamdden bob nos ar ôl 6pm, ac ar benwythnosau.
Yn Safle'r Normal mae gennym y cyfleusterau canlynol:
- Neuadd Chwaraeon - sy'n cynnwys pedwar cwrt Badminton, Pêl-foli, Pêl-rwyd, Pêl-fasged a cyrtiau Pum-bob-ochr, Criced a Saethyddiaeth.
- Campfa - a ddefnyddir ar gyfer clybiau Ki-Aikido, Judo, Karate, Ffensio, bocsio Thai a Tae-Kwon-Do.
GAMPFA SANTES FAIR
Mae’r gampfa wedi ei leoli yng nghalon Pentre Myfyrwyr Santes Fair ac ar gael yn gyfan gwbl ar gyfer breswylwyr Santes Fair.
Be sydd ar gael yn Gampfa Santes Fair?
Mae’r gampfa wedi ei gyfarparu gyda ystod eang o beiriannau gwrthiant a chardiofasgwlaidd eithafol-fodern gan Pulse Fitness, sydd yn cynnig ymarfer corff cyflawn. Mae’r peiriannau wedi eu ffitio gyda thechnoleg consol a fydd yn eich galluogi i ddefnyddio app ‘Pulse Move’ i gadw trac ar gynnydd eich rhaglen ffitrwydd. Mae’r app yn cynnig cyfarwyddyd ymarfer i ddechreuwyr, tra’n cynnig canlyniadau fwy manwl i’r rhai mwy datblygedig, sy’n cynnig profiad ymarfer gwych i ein myfyrwyr.
Yn y gampfa cewch ddefnyddio 3 x Melin Draed, 3 Peiriant Ymarfer-Traws,. 3 x Beic Unionsyth, 1 x Peiriant Rhwyfo Concept 2, 1 x Gwasg Coesau, 1 x Ymestyniad/Cwrl Coes, 1 x Gwasg Ysgwydda, 1 x Gwasg y Frest, 1 x Rhwyfo Eisteddog, 1 x Peiriant Cebl (Pulley).