Fy ngwlad:

En-suite Fawr

En-suite Fawr (12.78m²-16.76m²)

Location icon Pentref Ffriddoedd
Addas ar gyfer: Dychwelyd Israddedig, Israddedig, Dychwelyd Ôl-raddedig, Ôl-raddedig
Please Select Your Criteria for accurate information:
I am a
, starting in
View rooms for all student types and all start dates.
O £185 yr wythnos
0.6 milltir o Brif Adeilad y Celfyddydau
Maint yr ystafell 12.78m²-16.76m²
Cegin A rennir rhwng 6-8
Gwely sengl (90cm x 190cm)
Ystafell Ymolchi En-suite

Mae ystafelloedd En-suite Mawr (12.78m²-16.76m²) Modern yn cynnig profiad bywiog a chyfleus ym Mhentref Ffriddoedd. Maent yn ystafelloedd sengl cyfforddus gydag ystafell ymolchi breifat. Mae pob ystafell wedi ei dodrefnu ac yn cynnwys y cyfleusterau hanfodol.

Mae’r math yma o ystafell ar gael mewn amrywiaeth o fathau o fflat, gan gynnwys fflatiau safonol cymysg, fflatiau di-alcohol a fflatiau i ferched yn unig, yn dibynnu ar gategori’r myfyriwr a’r argaeledd. Caiff ystafelloedd eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

*Ddim yn fyfyriwr Dychwelyd Israddedig? Newid Math o Fyfyriwr
En-suite Fawr
Ar y dudalen hon:

Cymrwch Daith Rithiol o’r ystafell hon

Archwiliwch yr ystafell hon o gysur eich soffa. Am brofiad ymdrochol.

Defnyddiwch eich penwisg VR ar sgrin lawn. Defnyddiwch y saethau cyfeiriadol i edrych o gwmpas ac i chwyddo i mewn i weld mwy o fanylion. Mae’r eicon cartref yn mynd â chi’n ôl i’r pwynt cychwyn. Os oes gan y daith daith dywysedig, defnyddiwch y botwm chwarae i ddechrau.
 

Costau a Threuliau Ystafell - Faint fydd y gost i fyw yma?

Dyw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau cyllidebu. Amlinellir isod y costau rhentu, hyd y cytyndeb a'r costau ychwanegol dewisol ar gyfer y math yma o lety.

Dychwelyd Israddedig Costau & Hyd y cytundeb - 2026-27

(*Ddim yn fyfyriwr Dychwelyd Israddedig, astudio yn 2026-27? Newid Math o Fyfyriwr)
Rent yr wythnos: £185
Cyfanswm rent: £7,743.57
Hyd y cytundeb: 42 wythnos
Dyddiadau'r Cytundeb: 20/09/2026 - 10/07/2027

Costau ychwanegol Dewisol - 2026-27

(*Ddim yn fyfyriwr Dychwelyd Israddedig, astudio yn 2026-27? Newid Math o Fyfyriwr)
  • Tocyn parcio blynyddol: I'w gadarnhau
  • Goriad blynyddol i storfa beics gyda tho: £20
  • Golchdy: £2 i olchi dillad / £1 i sychu dillad

Beth sy'n cael ei gynnwys yn y gost

All bills (water, heating, electricity)
Contents insurance
Gym
High speed Wi-Fi
Timely repairs and maintenance
Weekly cleaning of kitchen and public areas
All bills (water, heating, electricity)
Contents insurance
Gym
High speed Wi-Fi
Timely repairs and maintenance
Weekly cleaning of kitchen and public areas

Cyfleusterau Ystafell / Neuadd

Ystafell Wely

Gwely a matres
Silff lyfrau
Desg
Cadair desg
Droriau
Basn ymolchi a drych
Lamp desg
Cwpwrdd dillad

Ystafell Ymolchi

Basn ymolchi
Drych
Cawod gyda llen neu ddrws
Toiled

Cegin

Bwrdd bwyta a chadeiriau
Oergell/rhewgell
Tegell
Meicrodon
Popty a hob
Sinc
Storfa
Tostiwr

Offer Glanhau a Domestig

Padell lwch a brwsh
Bwrdd smwddio
Mop a bwced
Storfa
Hwfer
Cyfleusterau gwastraff ac ailgylchu

Cyfleusterau yn Pentref Ffriddoedd

Diogelwch 24/7
Bar Uno
Raciau beiciau (am ddim), storfa beiciau dan do (£20)
Ystafelloedd cyffredin
Ystafell gyfrifiaduron
Wi-Fi cyflym
Golchdy
Parcio cyfyngedig (angen trwydded)
Ardal awyr agored ar gyfer BBQ a gemau
Mynediad cerdyn/allwedd diogel
Uwch Wardeniaid a Mentoriaid Preswyl
Canolfan Chwaraeon / Campfa
Pentref Ffriddoedd Pentref Ffriddoedd

Pam dewis Pentref Ffriddoedd

  • Gyda tua 1,960 o ystafelloedd, mae'n cynnig awyrgylch prysur a chymuned fywiog.
  • Mewn amgylchedd dymunol, mae'r amgylchedd byrlymus hwn yn lle delfrydol i setlo yma fel myfyriwr.
  • Wedi'i leoli'n gyfleus yn agos at y rhan fwyaf o adeiladau'r Brifysgol, siopau, bywyd nos, a chysylltiadau trafnidiaeth.
  • Mae rhai ystafelloedd yn cynnig golygfeydd ysblennydd o fynyddoedd Eryri.
  • Mae'r cyfleusterau'n cynnwys ystafelloedd cyffredin a Bar Uno.
  • Mae prif ganolfan chwaraeon y Brifysgol, sydd wedi'i lleoli ar y safle, yn annog ffordd iach ac egnïol o fyw.
  • Rydym yn tanysgrifio i God Llety Myfyrwyr Prifysgolion y DU, sydd wedi'i gynllunio i ddiogelu eich hawliau i lety diogel o ansawdd da.
Pentref Ffriddoedd

Mae'r ystafell yma ar gael yn:

Glaslyn | Pentref Ffriddoedd

Sgwrsio gyda ni

Mae ein Cynghorydd Neuaddau cyfeillgar yma i'ch helpu fel y gallwch ddewis eich ystafell berffaith.
Hygyrchedd yn ein Neuaddau

Hygyrchedd yn ein Neuaddau

Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cyfforddus a chynhwysol ar gyfer pob myfyriwr. Mae 17 ystafell hygyrch ym Mhentref Ffriddoedd. 

Mae ein neuaddau'n cynnig y nodweddion hygyrch hyn:

  • Ystafelloedd llawr gwaelod gyda mynediad heb risiau
  • Ystafelloedd hygyrch i gadeiriau olwyn gyda drysau awtomatig
  • Ystafelloedd gwlyb gyda rheiliau cydio a chadeiriau cawod
  • Mae llinyn galw argyfwng ym mhob ystafell hygyrch ym Mhentref Ffriddoedd
  • Rhai ystafelloedd gwlyb wedi'u cyfarparu â thoiledau Closomat
  • Oergelloedd meddyginiaeth ar gael ar gais
  • Cymhorthion clyw: clustogau dirgrynol a larymau fflachiol

Cysylltwch â ni gydag unrhyw ymholiad.

Cyfleusterau Chwaraeon

Cyfleusterau Chwaraeon

Lleolir prif ganolfan Chwaraeon y Brifysgol ym mhentref Ffriddoedd. Mae campfa deulawr, campfa codi pwysau, dwy neuadd chwaraeon, dôm chwaraeon, cyrtiau sboncen a wal ddringo.

Ymhlith y cyfleusterau mae:

  • Cyrtiau badminton
  • Cwrt pump bob ochr
  • Cyrtiau pêl foli
  • Cyrtiau pêl-fasged
  • Cyrtiau pêl rwyd
  • Hoci dan do
  • Tenis Bwrdd
  • Criced Dan Do
  • Bowlio Dan Do
  • Trampolinio

Lleoliad Pentref Ffriddoedd

Pentref Ffriddoedd yw ein pentref myfyrwyr mwyaf, wedi ei leoli ym Mangor Uchaf. Mae'n bellter cerdded o tua 5-10 munud o'r orsaf drenau a Phrif Adeilad Prifysgol. Mae canol y ddinas yn 10-15 munud ar droed. 

Mae yma siop, golchfeydd ac ystafelloedd cyffredin. Dyma lle byddwch chi'n dod o hyd i far-caffi Bar Uno a'r brif ganolfan chwaraeon - Canolfan Brailsford. Mae diogelwch ar y safle 24 awr y dydd ac mae tîm o fentoriaid i'ch cynorthwyo yn ystod eich amser yma.