Llwybrau cynnydd a phartneriaethau Addysg Uwch mewn Addysg Bellach rhanbarthol

Mae'r Brifysgol yn gweithio'n agos gydag Addysg Bellach ranbarthol ac mae ganddi berthynas strategol â  Grŵp Llandrillo Menai (GLlM) and Choleg Cambria.
 
Mae'r cysylltiadau hyn yn darparu gwahanol lwybrau i addysg uwch ar draws y rhanbarth i'r rheini sy'n well ganddynt ddewisiadau amgen i'r ddarpariaeth a arweinir gan y Brifysgol.
Mae'r berthynas hirsefydlog â GLlM yn darparu mynediad i fwy na 40 o raglenni addysg uwch sy'n rhychwantu graddau Sylfaen i ôl-radd, gan gwmpasu ystod eang iawn o bynciau o raglenni mewn gwasanaethau cyhoeddus fel Iechyd, Plismona ac Addysg hyd at amrywiol lwybrau busnes a llawer o rai eraill. Mae'r berthynas strategol fwy diweddar â Choleg Cambria yn dod â mwy o fynediad i Addysg Uwch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru wrth i'r portffolio o raglenni Addysg Uwch dyfu yn y rhanbarth hwnnw.
 
Drwy weithio gyda'n gilydd rydym yn adeiladu cynefindra ag Addysg Uwch ac yn mynd ati i ddatblygu gweithgareddau ar y cyd i helpu myfyrwyr i weld y camau nesaf posibl wrth iddynt symud trwy'r lefelau addysgol, ac yn y pen draw, i yrfaoedd yn y rhanbarth.  Mae ein cydweithrediadau hefyd yn sicrhau ein bod yn dilyn yr un llwybrau, ac mewn rhai achosion, gallant ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr ddechrau ar eu hastudiaeth mewn Addysg Bellach ac yna symud i'r Brifysgol i gwblhau eu rhaglenni.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?