Gold Sparkling image

Gan ddymuno llawenydd i chi dros yr ŵyl

Stori Nadoligaidd

Yn dilyn llwyddiant ein fideo Nadoligaidd yn 2021, roeddem eisiau dathlu arwyr heb eu cydnabod yn ein cymuned gyda’n cynhyrchiad yn 2022.


Cafodd y ffilm fer ei ffilmio dros ddwy noson ym mis Tachwedd, a buom yn gweithio ochr yn ochr â Follow Films, cwmni cynhyrchu o Wrecsam.

Mae ein stori yn dechrau gyda’r teulu Metcalfe yn eu cartref yn ysgrifennu llythyrau at Siôn Corn. Mae cnoc ar y drws yn torri ar eu traws, a blwch dirgel wedi ei roi ar garreg eu drws. Maent yn rhyfeddu at yr hyn y maent yn ei ddarganfod y tu mewn, ac maent yn mynd ati i ledaenu llawenydd yr ŵyl o amgylch y ddinas, gan ymweld â chaplan ysbyty a chyflwynydd radio, athro ysgol ddawns gymunedol, llyfrgellydd prifysgol, criw llong ymchwil y Prince Madog a chynorthwyydd labordy ymchwil yn y brifysgol. Ond a fydd eu hantur fach yn rhoi Nadolig hudolus i'r gymuned yn unol â dymuniad y plant?

[00:01] Bachgen 10 oed a merch 7 oed yn gorwedd wrth y tân yn eu cartref yn ysgrifennu llythyrau at Siôn Corn. Mae'r ystafell wedi ei haddurno at y Nadolig.
[00:05] Mae’r llythyr yn cynnwys y geiriau: “Annwyl Siôn Corn, hoffwn i bawb gael Nadolig hudolus, oddi wrth Nancy.” Gwelir disgleirdeb hudolus ar yr amlen. Mae cerddoriaeth Nadoligaidd yn cael ei chwarae.
[00:07] Clywn gnoc ar y drws 
[00:10] Mae'r bachgen a'r ferch yn y drws, ac yn edrych y tu allan. 
[00:13] Maent yn gweld bod blwch wedi ei adael ar garreg y drws. Maent yn codi'r blwch ac yn ei agor a gwelant gynnwys y blwch yn disgleirio ac yn pefrio.
[00:19] Mae’r mam a'u tad yn ymuno â hwy. Mae'r bachgen a'r ferch yn nodio ar ei gilydd.
[00:27] Y teulu cyfan yn gwisgo’u cotiau a’u capiau’n, yna’n rhedeg i fyny'r stryd yn cario'r blwch. 
[00:30] Rydym yn eu gweld yn rhedeg y tu allan i adeilad mawr o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. 
[00:31] Gwelwn y ferch fach yn rhedeg ar hyd rhodfa yn y llyfrgell ac yn rhoi blwch arian gyda rhuban o’i gwmpas i lyfrgellydd. 
[00:42]  Mae'r llyfrgellydd yn agor y blwch ac yn edrych yn hapus wrth i ddisgleirdeb befrio o'r blwch.
[00:45]  Teulu yn rhedeg ar hyd stryd breswyl.
[00:47]  Gwelwn flaen ysbyty. Yna gwelwn ddrws i orsaf radio ysbyty. Gwelir golau coch ‘ar yr awyr’ gyda’r geiriau ‘yn fyw. Meic’.
[00:52] Rydym yn gweld cyflwynydd radio yn gwisgo clustffonau ac yn eistedd o flaen microffon. Mae'n clywed cnoc ar y drws ac yn mynd i'w ateb. Mae'n edrych o gwmpas ond nid oes neb yno. Mae'n gweld blwch arian wrth ei draed ac yn ei agor, ac yn edrych wrth ei fodd.
[1:05] Mae'r teulu'n rhedeg i fyny at adeilad ysgol ddawns. Gwelwn y ferch fach yn rhedeg i mewn i’r adeilad, ar draws ystafell lle mae plant yn cael gwers dawnsio ac yn rhoi blwch arian i athrawes yr ysgol ddawns sy'n agor y blwch. Mae’r athrawes yn edrych yn llawn syndod ac wrth ei bodd pan fydd yn ei agor.
[1:16] Gwelir y teulu yn rhedeg i fyny allt serth. Mae'r tad yn stopio i gael ei wynt ac mae'r teulu'n ei annog i ddal ati.
[1:22] Rydym yn gweld ymchwilydd mewn labordy yn edrych i mewn i ficrosgop. Mae anrheg yn cael ei gwthio ar y ddesg wrth ei hymyl. Mae'n ei agor ac yn edrych wrth ei bodd.
[1:34] Gwelwn long ymchwil, wedi ei hangori ar lanfa ac mae'r teulu'n rhedeg i lawr y lanfa tuag ati. Y tu mewn i’r llong gwelwn aelod o’r criw yn olwyndy’r llong. Mae'r ferch fach yn gadael blwch arian iddo. Mae'n ei agor ac yn edrych wrth ei fodd.
[1:49] Gwelwn borth coffa a'r teulu yn cerdded i lawr ychydig o risiau wrth ochr adeilad modern. Maent yn stopio, gan longyfarch ei gilydd am ddosbarthu’r blychau mor gyflym.
[1:55] Mae golau disglair yn dod allan o'r blwch sy’n cael ei gario gan y ferch fach ac yn saethu tuag at goeden Nadolig sydd wedi ei goleuo y tu ôl iddynt.
[2.00] Mae'r teulu'n rhedeg ar ôl y golau disglair ac yn tynnu'r addurniadau disglair o'r blwch, a’u gosod ar y goeden Nadolig.
[2:10] Mae'r teulu'n edrych yn drist yn sydyn wrth i'r addurniadau golli eu disgleirdeb.
[2:29] Yn union wedyn rydym yn gweld y cyflwynydd radio, yr athrawes ddawns, y cynorthwyydd labordy, y llyfrgellydd ac aelod o griw'r llong yn ymddangos gyda'u haddurniadau Nadolig. Mae pawb yn eu rhoi ar y goeden ac maent yn dechrau disgleirio.
2:49] Mae'r camera'n symud i fyny ac yn ôl i ddangos coeden Nadolig ddisglair gyda phobl wedi casglu o'i chwmpas. Mae adeilad y brifysgol i'w weld yn y cefndir.
[2:58] Mae'r neges ar y sgrin yn cynnwys y geiriau canlynol: “Gan ddymuno tymor y Nadolig hudolus”
[3:03] Mae'r sgrin yn troi’n ddu gyda logo Prifysgol Bangor.
 

teulu yn sefyll wrth y drws ffrynt

Ein Sêr - Y Teulu Cwrdd â'r teulu Metcalfe

Roeddem yn gwybod ein bod eisiau dod â’r teulu Metcalfe yn ôl ar ôl iddynt serennu yn ffilm y llynedd.  Roedd yn hyfryd gweithio â hwy, fyddech chi byth yn gwybod nad ydynt yn actorion proffesiynol!

Mae’r rhieni, Lisa a Stuart, yn gyn-fyfyrwyr o Fangor a gyfarfu tra’n astudio yn y brifysgol, ac mae’r ddau bellach yn gweithio yn y GIG.  Mae eu merch Nancy bellach yn 7 oed, a’u mab Alfie yn 10 oed, a chafodd y ddau lawer o hwyl yn gwneud y ffilm – antur Nadoligaidd sy’n dod â theimlad cynnes i’n cymuned wych.

Fy hoff ran oedd bod yn y tŷ Nadoligaidd clyd ac ar y cwch. Roeddwn i'n teimlo'n gyffrous, yn hapus ac yn ffodus iawn i wneud y ffilm!

Nancy Metcalf,  Seren ein ffilm Nadoligaidd

Y Cyflwynydd Radio Elvis

Cyflwynydd radio yn Ysbyty Gwynedd
Mae Wynne Roberts wedi bod yn brif gaplan yn Ysbyty Gwynedd ers dros 25 mlynedd ac mae’n gymeriad adnabyddus nid yn unig yn y gymuned leol, ond ledled Cymru.  

Yn ogystal â’i swydd lawn amser fel prif gaplan, mae Wynne hefyd yn cyflwyno ar radio’r ysbyty, ac mae wedi bod yn perfformio fel Elvis Presley ers 2017, gan ddenu torfeydd o hyd at 6,000 o bobl! Mae Wynne wedi cyfuno ei dair gyrfa i ymgysylltu â chynulleidfaoedd, yn cynnwys cleifion sydd â chyflyrau cronig a phobl sy’n byw gyda dementia. 
Mae ymdrechion Wynne i helpu'r rhai o'i gwmpas wedi cael rhywfaint o sylw eisoes, cyflwynwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig iddo gan y Frenhines Elizabeth II am ei waith elusennol.

Fel person lleol, wedi ei eni a'i fagu ym Mangor, a hefyd yn gyn-fyfyriwr o'r Brifysgol, roedd yn anrhydedd cael bod yn rhan o'r ffilm Nadoligaidd hyfryd hon.  Fel yr Elvis Cymraeg, dwi’n dymuno Nadolig gwyn (nid glas!) i chi gyd!

Yr Athrawes Ysgol Ddawns

Athrawes Ysgol Ddawns yn edrych yn syn ar focs anrheg
Credit:Follow Films
Yn ogystal â bod yn hynod o brysur yn dysgu yn ei hysgol, yr Academi Westend Academy, sydd wedi datblygu i fod yn ganolfan celfyddydau perfformio llwyddiannus a chyflawn, mae Natalie Robb hefyd yn gweithio'n ddiflino dros gymuned Bangor. 

Hi yw cadeirydd Grŵp Cymunedol Bangor, sy’n trefnu llawer o ddigwyddiadau yn ninas Bangor, ac mae Natalie hefyd yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd a Chyngor Môn ar nifer o raglenni a digwyddiadau gan gynnwys rhaglenni haf i’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac mae’n rhedeg Clwb Ieuenctid Sgiliau Cymunedol o'r enw 'Hwb Westend Hub' i'r plant ym Mangor er mwyn helpu i'w cadw oddi ar y strydoedd.

“Mae’n anrhydedd mawr i mi gael fy ngwahodd i fod yn rhan o’r ffilm hudolus hon ac rwy’n falch iawn bod ein disgyblion yn gallu bod yn rhan o atgofion Nadolig 2022 i Brifysgol Bangor, sy’n rhan mor bwysig o’r ddinas.”

 

Y Cynorthwyydd Labordy Ymchwil

Cynorthwy-ydd Labordy mewn Labordy
Mae Charlie Hemley yn Swyddog Cefnogi Projectau Ymchwil ar broject Pysgodfeydd Cynaliadwy Cymru yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion ym Mhrifysgol Bangor.  

Graddiodd Charlie mewn Bioleg y Môr a Sŵoleg yn 2017 ac aeth ymlaen i ennill gradd Meistr mewn Gwarchod Amgylchedd y Môr yn 2018 ac mae wedi gweithio yn ei swydd bresennol ym Mhrifysgol Bangor ers 3.5 mlynedd.

Nid yw cael fy ffilmio ar gyfer unrhyw beth yn rhywbeth y byddwn yn ei wneud fel arfer, na’n ei fwynhau ond, yn ysbryd y Nadolig, roedd yn wych bod yn rhan o’r project hwn i’r brifysgol, rhywbeth mor Nadoligaidd, sydd â’r nod o ledaenu llawenydd.  Mae wedi fy ngwneud i deimlo’n Nadoligaidd iawn, mae hynny’n sicr!

Y Llyfrgellydd

llyfrgellydd yn gwenu ar focs anrheg
Mae Sarah Owen yn Uwch Gynorthwyydd Cefnogaeth Llyfrgell ym Mhrifysgol Bangor; ei gwaith yw goruchwylio’r gwasanaeth cefnogi yn y llyfrgell o ddydd i ddydd.   

Mae Sarah wedi gweithio i’r brifysgol ers 27 mlynedd, felly mae’n amlwg wrth ei bodd yma!
Mae Sarah yn hoffi treulio amser gyda’i theulu a’i ffrindiau dros y Nadolig, ym Methesda a’r cyffiniau lle mae’n byw.

Rydw i wir wedi mwynhau bod yn rhan o’r ffilm eleni.  Roedd yn gyfle gwych i ddangos ein llyfrgell hardd a thynnu sylw at Brifysgol Bangor.

Criw’r Prince Madog

Llong ymchwil bwrpasol o'r radd flaenaf a gomisiynwyd gan Brifysgol Bangor yw’r Prince Madog. 

Caiff ei defnyddio ar gyfer ymchwil ac i addysgu a hyfforddi gwyddonwyr eigion y dyfodol y brifysgol. Cyrhaeddodd y llong y brifysgol ym mis Gorffennaf 2001 ac mae wedi cwblhau 170 o deithiau ers hynny.

Mae’r aelod o’r criw Marc Williams wedi bod yn rhan o’r fflyd ers 6 mis, a phan nad yw’n byw ar y Prince Madog fel rhan o’i o'i swydd, mae’n byw yng Nghaergybi, Ynys Môn. Mae Marc wrth ei fodd ag ysbryd y Nadolig, ac yn arbennig wrth ei fodd â Siôn Corn Cyfrinachol y Prince Madog!

Fe wnes i wir fwynhau bod yn rhan o'r ffilm Nadoligaidd a chefnogi fy mhrifysgol leol. Gwych gweld y Prince Madog yn edrych mor anhygoel yn y ffilm.

Sparkling Christmas Tree outside Pontio & Main Arts Building
Credit:Follow Films

Gan ddymuno i chi holl hud a lledrith yr ŵyl!

Gobeithio y byddwch yn hoffi ein ffilm Nadoligaidd eleni.
Diolch i bawb a chwaraeodd eu rhan, ar ac oddi ar y sgrin.
Gan ddymuno i chi holl hud a lledrith yr ŵyl!

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?