Person testing samples in a lab

Gweinidog iechyd yn agor labordy monitro dŵr gwastraff newydd

Bu Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan AS, yn ymweld â Phrifysgol Bangor i agor y cyfleuster ymchwil monitro dŵr gwastraff newydd.

 

Roedd data dŵr gwastraff yn allweddol o ran gwella ein dealltwriaeth o ledaeniad COVID-19 yng Nghymru. Mae’n parhau i roi data allweddol inni sy’n ein galluogi ni i olrhain y feirws drwy ein cymunedau tra bod ffynonellau data eraill yn y DU, fel Arolwg Heintiau COVID-19 y Swyddfa Ystadegau Gwladol, wedi’u tynnu’n ôl.

“Rwy’n falch iawn, trwy’r cyfleuster gwych hwn a’r tîm yma, y ​​gallwn gymhwyso’r hyn a ddysgwyd i gael mewnwelediad amhrisiadwy fydd yn llywio sut rydym yn ymateb i lawer o glefydau trosglwyddadwy eraill nawr ac yn y dyfodol.

Eluned Morgan AS,  Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?