Green block of colour

Cydnabod project gwlyptir Prifysgol Bangor mewn gwobrau cenedlaethol

Mae project gan staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor i greu gwlyptir wedi ennill clod mawr mewn seremoni wobrwyo amgylcheddol fawr.

Syniad Dr Christian Dunn oedd Canolfan Gwlyptir Caer ac mae wedi ennill canmoliaeth fawr yng Ngwobrau CIEEM, am ddangos yr arferion gorau o ran ymgysylltu â’r rhanddeiliaid.

Bydd y project yn arwain at greu ecosystemau gwlyptir gwerthfawr mewn parc gwledig poblogaidd ar gyrion Caer.

Yn ogystal â manteision y gwlyptir i fioamrywiaeth, bydd y project yn helpu gwaredu llygredd o nant, a bydd yn cyfrannu at greu nifer o fuddion cymunedol ac addysgol.
 

Dr Dunn, sy’n Ddarllennydd yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor, a ddyfeisiodd y syniad. Bu yn ei ddatblygu gydag aelodau o grŵp Friends of the Countess of Chester Country Park, lle caiff y gwlyptir ei ddatblygu.

Yna cafodd y cwmni amgylcheddol ymgynghorol, Binnies, ei gomisiynu gan y Land Trust sy’n berchen ar y parc, i wneud astudiaeth ddichonoldeb a dyluniad amlinellol y Ganolfan. Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr sy’n ariannu’r gwaith trwy gronfa arbennig i wella cyflwr amgylchedd dŵr.

Mae nifer o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi helpu casglu data hanfodol ar gyfer yr astudiaeth fel rhan o'u projectau ymchwil israddedig ac ôl-radd.
 

Dywedodd Dr Dunn: “Mae’n wych gweld Canolfan Gwlyptir Caer yn cael ei chydnabod fel hyn gan y Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol.

“Rwy'n falch iawn bod y syniad a gefais ychydig flynyddoedd yn ôl bellach wedi magu cymaint o fomentwm a bod cymaint o sefydliadau a phobl wych yn ei gefnogi.

“Ar ôl cwblhau’r gwaith byddwn wedi creu cynefin o wlyptir gwych ger yr ysbyty yng Nghaer y gall pobl ei fwynhau a lle gall bywyd gwyll ffynnu."

Bu myfyrwyr Prifysgol Bangor yn allweddol yn natblygiad y project ac mae hynny’n dangos pa mor wych yw ein myfyrwyr a pha mor dda yw eu hymchwil.

Dr Christian Dunn,  Ddarllennydd yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor
Saith  person mewn ty gwydr, dwy ferch pum dyn. Dau ddyn a merch yn gafael tystysgrif yn eistedd ar main a'r gweddill y tu cefn.
Dr Christian Dunn ( rhes ail o'r chwith) a staff Binnies, Asiantaeth Amgylchedd, Cheshire West a Chyngor Caer a Conservation Volunteers Merseyside gydau'r Gwobr am Ganolfan Glwyptir Caer.

Yn ogystal â’r Land Trust, Friends of the Countess of Chester Country Park, Binnies a Phrifysgol Bangor, rhai o brif bartneriaid eraill y project yw Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Gorllewin Sir Gaer a Chaer a’r Gwirfoddolwyr Cadwraeth.

Cynhaliwyd seremoni wobrwyo’r Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol (CIEEM) yn Birmingham ar Mehefin 28.

I ddysgu mwy am ddatblygiad Canolfan Gwlyptir Caer dilynwch Dr Christian Dunn ar Twitter: @christiandunn

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?