network cable and fibre optic background

Gall datblygiad technolegol fod yn allweddol i oresgyn y cyfyngiadau rhwydwaith 5G presennol

Mae ymchwilwyr o Ganolfan Prosesu Signalau Digidol Prifysgol Bangor wedi torri tir newydd yn natblygiad Trawsdderbynnydd Optegol Pwynt-i-Amlbwynt (P2MP) newydd.

 

Mae twf cyflym traffig data a ysgogir gan ddyfodiad rhwydweithiau 5G-Advance a thu hwnt wedi creu angen dybryd am atebion arloesol a all drawsnewid rhwydweithiau mynediad optegol. Rhaid i'r atebion anghynyddrannol hyn fodloni'r galw cynyddol am ddwysedd cysylltedd, lled band, cost-effeithiolrwydd, cyfnod cyn ymateb (yr oedi wrth dderbyn signalau), dibynadwyedd a diogelwch, tra'n lleihau costau cyfalaf a gweithredol.
 “Rwy’n falch bod y tîm yng Nghanolfan Prosesu Signalau Digidol Prifysgol Bangor, ynghyd â’n cydweithwyr yn Shanghai, yn gwneud cyfraniad pwysig at ddatblygiadau mewn technoleg cyfathrebu digidol.

 

Yr Athro Jianming Tang,  Cyfarwyddwr Gweithredol y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol ym Mhrifysgol Bangor ac arbenigwr mewn ymchwil cyfathrebu optegol

“Bydd y trawsdderbynyddion newydd yn cael eu treialu yn y maes yn rhwydweithiau ffibr ymarferol FibreSpeed ar hyd ffordd yr A55.  Ynghyd â thechnolegau blaengar eraill a ddatblygwyd gan y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol  gan gynnwys canfod signal optegol sy'n cludo data, diogelwch rhwydwaith haen ffisegol a switshis optegol cyflym iawn, bydd y trawsdderbynyddion newydd yn cael eu defnyddio i ffurfio rhwydwaith 5G/6G unigryw, sy'n cydgyfeirio rhwydweithiau ffibr, rhwydweithiau radio a rhwydweithiau diwifr optegol yn ddi-dor, er enghraifft yn ein Labordy Arloesedd Meddygol 5G.  Gall y llwyfan rhwydwaith gefnogi nifer o achosion ar yr un pryd sy’n mynd i’r afael â heriau diwydiannol strategol heddiw ac yfory.”

Cyllidwyd y gwaith hwn yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, Bargen Twf y Gogledd trwy Uchelgais Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, China Scholarship Council, Grant Project Technology Commission of Shanghai Municipality, y National Key Research and Development Programme of China a’r Natural Science Foundation of China.

Darllenwch ragor am Ganolfan Ragoriaeth y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol yma

Mwy am astudio yn ein Ysgol Cyfrifiadureg a Pherianneg Electronig yma 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?