Cydweithrediad academaidd rhwng Prifysgol Mae Fah Luang ac Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor
Mae cydweithrediad cyffrous wedi’i sefydlu rhwng Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor a Phrifysgol Mae Fah Luang yng Ngwlad Thai, sy’n cynnwys cydweithio agos rhwng Canolfan Ragoriaeth Ymchwil Iechyd Llwythau’r Mynydd-dir (CEHR) a’r Ganolfan Heneiddio a Dementia ym Mangor. Mae’r cyfle i gydweithio ym meysydd iechyd y cyhoedd a chymunedau gwledig yn fenter gyffrous iawn.
Lleiafrifoedd ethnig sy'n byw ym mynyddoedd Gwlad Thai yw’r llwythau hyn, yn enwedig felly yng ngogledd Gwlad Thai (Canolfan Anthropoleg y Dywysoges Maha Chakri Siridhorn, 2019). Mae chwe phrif grŵp: Akha, Lahu, Karen, Hmong, Yao, a Lisu. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod mwy na 3.5 miliwn o bobl y llwythau mynydd yn byw yng Ngwlad Thai, yn enwedig ar y gororau rhwng Gwlad Thai a Myanmar a Laos. (Sefydliad Iechyd y Byd, 2019).

Llun gan: The Center of Excellence for the Hill Tribe Health Research (CEHR), Thailand.
Bu'r fenter gydweithredol hon rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Mao Fah Luang yn canolbwyntio ar hybu partneriaeth mewn meysydd o ddiddordeb ac arbenigedd cyffredin trwy gymunedau ymchwil ôl-radd y ddwy brifysgol. Bu hynny’n llwyfan nid yn unig i gymryd rhan mewn gweithgareddau ôl-radd ymchwil cydweithredol megis cyfres fisol o seminarau ymchwil ôl-radd ond hefyd i drefnu teithiau cyfnewid i ôl-raddedigion ymchwil a gwneud projectau ar y cyd, yn ogystal â hyrwyddo projectau ymchwil ar y cyd. Mae'r fenter yn adeiladu ar broject doethurol cyfredol sy'n canolbwyntio ar archwilio’r stigma a welir ymhlith cymunedau llwythau’r mynydd-dir ynghylch HIV/AIDS gan Onn Laingoen o Brifysgol Mao Fah Luang. Cynhaliwyd seminarau am amrywiaeth o bynciau gyda chyflwyniadau ar y cyd gan staff academaidd Prifysgol Bangor a Phrifysgol Mao Fah Luang a chan fyfyrwyr ôl-radd ymchwil. Ymhlith y seminarau roedd sesiynau methodoleg megis ‘A different lens and the insider perspective - developing 'Participatory Case Study Work’ ym maes Astudiaethau Heneiddio, ‘Dementia, Parkinson’s and COPD as exemplars’, ‘Sexually transmitted infections – drivers and mitigations of risk’ ac ‘Exploring the area of sexual violence towards women and facilitating support, including a feasibility study to evaluate the opportunities for enhancing care provision in cervical screening for women in Wales who have experienced sexual violence and/or sexual abuse’.

Caiff hyn ei harwain ym Mhrifysgol Bangor gan Dr Sion Williams, yr Athro Gill Windle a Dr Catrin Hedd Jones a chan yr Athro Cynorthwyol Dr Tawatchai Apidechkul a Dr Siwarak Kitchanapaiboon ym Mhrifysgol Mao Fah Luang. Yn ei hanfod mae’r bartneriaeth yn tynnu ar gryfderau academaidd yr Ysgol yn ogystal ag ar y gefnogaeth a ddarperir gan yr Ysgol Ddoethurol, wedi ei hwyluso gan yr Athro Andrew Hiscock a Dr Ross Roberts.
Mae’r fenter yn seiliedig ar bartneriaeth hirdymor gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Mao Fah Luang, yng Ngwlad Thai, i feithrin cysylltiadau ymchwil ôl-radd agosach a datblygu agenda ymchwil ynghylch heneiddio, dementia, datblygu iechyd rhywiol, a thrais rhywiol yn erbyn merched, fel meysydd o ddiddordeb cyffredin i gymunedau gwledig yng Ngwlad Thai a Chymru.”