Chwaraewyr rygbi benywaidd yn cymryd rhan mewn gêm

Cefnogaeth lles chwaraewyr i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad dan 18 gan ymchwilwyr o Fangor

Mae aelodau o Gyfnewidfa Gwybodaeth Rygbi Prifysgol Bangor (RuKX) wedi bod yn cynnal clinigau lles chwaraewyr ar gyfer y timau cenedlaethol sy’n cymryd rhan ym Mhencampwriaethau Chwe Gwlad Merched dan 18 oed.

Llun: Omega Photography

 

Mae menywod bellach yn cyfrif am chwarter y boblogaeth fyd-eang sy’n chwarae rygbi, ond o ran risg anafiadau a lles, ni ellir eu hystyried mewn ffordd syml, fel fersiynau llai o ddynion. Yn hytrach na gorfodi’r strategaethau lles presennol sydd wedi’u datblygu ar gyfer dynion ar gêm y menywod, mae angen inni ddeall yr anafiadau penodol a’r risgiau lles sy’n effeithio ar fenywod. Bydd hynny’n ein galluogi i ddatblygu strategaethau atal wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer chwaraewyr benywaidd.
Dr Julian Owen,  Ysgol Seicoleg a Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol Bangor

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?