Athro a myfyrwraig yn cael eu derbyn i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Mae’r Eisteddfod wedi cyhoeddi enwau'r rheini fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni sy’n cynnwys athro, myfyrwraig, a nifer o gyn-fyfyrwyr.
Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig I Gymru, ein hiaith a’u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Braf yw cael cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod, fore Llun, 4 Awst a bore Gwener, 8 Awst.
Mae’r Athro Enlli Thomas a Lili Mai Jones ymysg y rheini a gaiff eu hanrhydeddu.

Mae Enlli yn Ddirprwy Is-ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol. Mae’r iaith Gymraeg wedi bod yn ganolog i’w gyrfa fel darlithydd ac ymchwilydd ac mae ei chyfraniad i’r Gymraeg o fewn y Brifysgol ac yn genedlaethol wedi bod yn helaeth.
Mae Lili yn astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth. Mae hi’n rhan o’r chwyldro pêl-droed menywod yng Nghymru. Yn chwarae i Academi Clwb Wrecsam ers yn 12 oed, chwaraeodd am ddau dymor i glwb Everton cyn ailymuno â Wrecsam ac mae wedi ennill nifer o gapiau rhyngwladol dros ei gwlad ar lefel dan 15 a dan 17 oed.
Bydd nifer o gyn-fyfyrwyr yn cael eu hanrhydeddu i'r Orsedd, gan gynnwys yr Athro Emeritws Hywel Wyn Owen (PhD Cymraeg 1983), Dylan Rhys Jones (Addysg 2014), Gwyn Anwyl (Gwyddorau Cyfrifiadurol 2002), Mared Lewis (Ysgrifennu Creadigol 2019), Dilwyn Price (CERT 1972) a Geraint Cynan (Cerddoriaeth 1983).