Cwrs dwys yn gymorth i’r cynorthwywyr
Bydd 14 gynorthwywyr dosbarth yn dychwelyd i’w hysgolion cynradd ar hyd y gogledd-ddwyrain gyda sgiliau Cymraeg newydd, a hynny wedi iddynt gwblhau cwrs dysgu iaith dwys dan ofal staff Canolfan Bedwyr yn ddiweddar.
Mae aelodau’r dosbarth yn gweithio mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn siroedd Conwy, Fflint, Dinbych a Wrecsam gyda’r mwyafrif helaeth heb sgiliau Cymraeg blaenorol.
Dros gyfnod o bum wythnos yn y Ganolfan Iaith yn Llanelwy, mae’r cynorthwywyr wedi treulio dyddiau llawn yn dysgu patrymau iaith a geirfa newydd ar gwrs lefel Mynediad, sydd wedi ei ddatblygu’n benodol ar eu cyfer gan diwtoriaid Canolfan Bedwyr, sef Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor.
Mae’r cwrs yn rhan o gynnig y Cynllun Sabothol, sef cynllun sydd wedi ei gyllido gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflwyno’r Gymraeg i’r gweithlu addysg trwy gyrsiau dysgu iaith dwys. Yr un yw nod yr holl gyrsiau, sef gyrru aelodau staff yn ôl i’w hysgolion gyda’r sgiliau angenrheidiol i gyflwyno’r Gymraeg i’w disgyblion a’u cydweithwyr.

Cyflwynwyd eu tystysgrifau i’r cynorthwywyr yn ystod eu sesiwn olaf gan Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr. Meddai: "Mae’r cynnydd y mae’r cynorthwywyr wedi’i wneud dros bum wythnos yn rhyfeddol ac yn tystio i’w hymdrechion nhw a’r tiwtoriaid sydd wedi eu dysgu. Fe fyddan nhw'n gallu dychwelyd i'w hysgolion a defnyddio patrymau Cymraeg syml gyda disgyblion a chefnogi eu cydweithwyr i gyflwyno'r Gymraeg fel rhan o'r cwricwlwm. Dyma’r union gefnogaeth y bydd ei hangen ar ysgolion wrth i Fil Addysg Llywodraeth Cymru nesáu at ddod yn realiti newydd i’r sector addysg.”
Wrth dderbyn ei thystysgrif, meddai Tamsin Jones, sy’n gweithio fel cynorthwyydd yn Ysgol Cynfran, Llysfaen: “Dw i wedi cael yr amser gorau yn dysgu Cymraeg dros bump wythnos. Mae’r tiwtoriaid a’r ddysgwyr eraill yn hyfryd ac yn amyneddgar. Mae'r gwersi’n hwyl ac yn defnyddiol a dw i wedi dysgu llawer o sgiliau iaith newydd. Dw i wedi mwynhau pob dydd, yn enwedig ein dydd allan i gastell Ruthin. Roedd yn gyfle gwych i ni ddefnyddio ein sgiliau newydd!”