Rhwydwaith LHDTC+ y brifysgol ar restr fer Gwobr Genedlaethol
Mae’r Rhwydwaith LHDTC+ ar gyfer staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn falch o fod wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Grŵp Rhwydwaith LHDTCRhA+ Eithriadol yng Ngwobrau Anrhydeddau'r Enfys 2026, gan gydnabod ymrwymiad parhaus y grŵp i adeiladu cymuned gynhwysol a chefnogol ar y campws.
Mae Gwobrau Anrhydeddau’r Enfys yn dathlu unigolion, sefydliadau a grwpiau cymunedol ledled y Deyrnas Unedig sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol at hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb LHDTCRhA+. Mae cyrraedd y rhestr fer yn gosod rhwydwaith y brifysgol ochr yn ochr â rhai o'r mentrau LHDTCRhA+ mwyaf effeithiol yn y wlad.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Rhwydwaith LHDTC+ wedi cyflwyno ystod eang o weithgareddau gyda'r nod o feithrin ymdeimlad o berthyn, gwelededd a chefnogaeth i staff a myfyrwyr LHDTCRhA+. O ddigwyddiadau meithrin cymuned i waith eiriolaeth sy'n llywio polisi ac ymarfer sefydliadol, mae'r rhwydwaith wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gryfhau diwylliant cynhwysol y brifysgol.
Cyhoeddir enillwyr Gwobrau Anrhydeddau'r Enfys 2026 yn ddiweddarach eleni. Ni waeth beth fo'r canlyniad, mae cyrraedd y rhestr fer yn tynnu sylw at effaith gynyddol cymuned LHDTC+ y brifysgol a'r gwaith parhaus a wna i sicrhau y gall pawb deimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi, ac yn gallu bod yn nhw eu hunain.
Llongyfarchiadau i bawb sy'n ymwneud â'r Rhwydwaith LHDTC+ ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon.