CAL:ON Cymru yn cael croeso cynnes gan Bwyllgor y Senedd
Yr wythnos diwethaf, rhoddodd yr Athro Manon Jones o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor a Dr Cameron Downing o Brifysgol Efrog, prif ymchwilwyr CAL:ON Cymru, gyflwyniad i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd. Buont yn amlinellu cenhadaeth CAL:ON Cymru, y ganolfan ragoriaeth newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer addysgu llythrennedd, sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Bangor. Cafodd eu cyflwyniad dderbyniad gwresog gan aelodau'r pwyllgor trawsbleidiol.
Dywedodd yr Athro Jones :
“Cawsom ein calonogi’n fawr gan yr ymateb cadarnhaol gan y Pwyllgor a chan y gydnabyddiaeth drawsbleidiol gref o ba mor bwysig yw llythrennedd i gyfleoedd bywyd plant. Roedd yn gyfle gwerthfawr i esbonio sut y bydd CAL:ON Cymru yn cefnogi athrawon ac ysgolion ledled Cymru gydag offer ymarferol, wedi’u llywio gan ymchwil i wella canlyniadau llythrennedd.”
Mae CAL:ON Cymru yn mynd i'r afael â mater brys llythrennedd yng Nghymru drwy ddarparu pecyn cymorth cydlynol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i ysgolion sy'n cynnwys dysgu proffesiynol, deunyddiau addysgu ac offer asesu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'r ganolfan yn datblygu canllawiau cenedlaethol a modiwlau dysgu proffesiynol, yn creu rhaglenni iaith a llythrennedd sy'n rhoi mynediad i athrawon at adnoddau o ansawdd uchel i’r ystafell ddosbarth, ac yn dylunio asesiadau i helpu i ganfod anghenion dysgwyr a monitro cynnydd.
Yn gynharach yn yr wythnos, cyhoeddodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yr Egwyddorion ar gyfer Addysgu Iaith a Llythrennedd yng Nghymru a'r Datganiad o Fwriad ar gyfer Darllen Cynnar, a fydd yn arwain sut mae llythrennedd yn cael ei addysgu ledled y wlad. Cynhyrchwyd y dogfennau hyn gan y Panel Arbenigwyr Llythrennedd, grŵp o uwch academyddion o bob cwr o'r DU sy'n cynnwys yr Athro Jones a Dr Downing.