Mae'r rhestrau'n cael eu llunio gan y cwmni dadansoddeg addysg uwch byd-eang Quacquarelli Symonds (QS) gan ddefnyddio methodoleg sy'n canolbwyntio'n bennaf ar berfformiad ymchwil ac enw da rhyngwladol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae QS wedi ehangu'r fethodoleg i asesu cynaliadwyedd, cyflogadwyedd ac ymgysylltiad byd-eang hefyd.
Mae rhestr eleni yn cynnwys mwy na 1500 o brifysgolion ar draws 106 o systemau addysg uwch, gan gynnwys 93 yn y Deyrnas Unedig.
Gwelwyd perfformiadau cryf ar draws nifer o ddangosyddion, gan gynnwys Cynaliadwyedd, a welodd y Brifysgol yn dringo 12 lle i safle 183 yn y byd. Mae’r dangosydd hwn yn gwerthuso effaith gymdeithasol ac amgylcheddol prifysgolion yn unol â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Mae Myfyrwyr Rhyngwladol yn faes arall lle perfformiodd y Brifysgol yn gryf, gan gyrraedd safle 317, sydd ymhlith y 30% uchaf yn fyd-eang.
O ran y dangosydd Staff Rhyngwladol, gwellodd y Brifysgol 38 lle i gyrraedd safle 477 yn fyd-eang. Ar gyfer Cydnabyddiaeth fesul Aelod Staff, cyflawnwyd safle yn y 25% uchaf yn fyd-eang, gyda'r Brifysgol yn cyrraedd safle 436.
Rhwng popeth, cyrhaeddodd y Brifysgol safle byd-eang o 567, a safle 52 yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd yr Athro Oliver Turnbull, Is-brofost (Ymgysylltu Byd-eang), “Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchu’r ymdrechion parhaus ar draws y Brifysgol i wella ein perfformiad yn y rhestrau hyn. Rydym wedi gwneud cynnydd trawiadol mewn rhai meysydd allweddol, ac yn parhau i gynnal safon uchel mewn meysydd eraill. Mae ein perfformiad arbennig o nodedig mewn Cynaliadwyedd yn dangos ein rhagoriaeth hirhoedlog yn y maes hwn, a'n penderfyniad i wella o un flwyddyn i’r llall.”