Llyfr Newydd sy’n Dathlu Hanner Canrif o UMCB gyda Chefnogaeth Cronfa Bangor ac Undeb y Myfyrwyr
Mae llyfr newydd sy'n adrodd hanes Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) yn cael ei gyhoeddi'r haf hwn i nodi pen-blwydd y sefydliad yn 50 oed. Ers ei sefydlu ym 1976, mae UMCB wedi cynrychioli myfyrwyr Cymraeg eu hiaith ym Mhrifysgol Bangor, gan chwarae rhan ganolog wrth hyrwyddo iaith, diwylliant a chymuned Gymraeg y brifysgol.
Mae’r gyfrol Brwydr ar y Bryn: 50 mlynedd o UMCB, a olygwyd gan Arwel Vittle a'i chyhoeddi gan Y Lolfa, yn dwyn ynghyd straeon, profiadau ac atgofion y staff a’r myfyrwyr hynny sydd wedi helpu i lunio cymuned Gymraeg Bangor, ers sefydlu UMCB ym 1976.
Mae'r llyfr yn archwilio datblygiad y sefydliad dros bum degawd, o’r ymgyrchu dros y Gymraeg yn niwedd y 1970au a dechrau'r 1980au i'w rôl ym mywyd myfyrwyr heddiw. Drwy’r defnydd o atgofion personol, lluniau a hanesion, mae'r gyfrol yn edrych yn ôl ar gyfnod o newid sylweddol i addysg uwch a’r bywyd Cymraeg ym Mangor.
Mae ail ran y gyfrol yn olrhain taith UMCB o’r 1990au hyd heddiw, trwy gyfraniadau gan gyn-Lywyddion ac aelodau, gan gynnwys Mirain Llwyd Morgan, Gethin Morgan, Lleucu Myrddin, Bethan Williams, David Wilton, Mabon ap Gwynfor AS, Mair Rowlands AS a Huw Williams. Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys cerdd i nodi’r achlysur gan Peredur Lynch, a fu’n Llywydd UMCB rhwng 1984 a 1985.
Gyda'i gilydd, mae'r cyfraniadau hyn yn creu cofnod o'r unigolion, y digwyddiadau a'r cerrig milltir sydd wedi siapio’r gymuned o fyfyrwyr Cymraeg ym Mangor dros yr hanner canrif ddiwethaf. Mae'r llyfr yn dathlu cyfraniad parhaus UMCB i hyrwyddo'r iaith, y diwylliant a chynrychiolaeth Gymraeg a hynny drwy edrych yn ôl ar yr heriau a'r llwyddiant sydd wedi diffinio hanes y sefydliad.
Bydd y llyfr ar gael i’w archebu ymlaen llaw ddiwedd Gorffennaf a chaiff ei lansio’n swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Mercher, 5 Awst, am 3.00pm ym Mhabell y Cymdeithasau.
Dywedodd Ross Griffiths, Llywydd UMCB 2026–27:
Mae Undeb Bangor yn hynod ddiolchgar i’r cyn-fyfyrwyr sydd wedi cefnogi Cronfa Bangor. Diolch i'w haelioni nhw, bydd Brwydr ar y Bryn: 50 mlynedd o UMCB yn helpu i ddathlu a gwarchod 50 mlynedd o hanes UMCB a gwneud yn siŵr y bydd y bennod bwysig yma o dreftadaeth Prifysgol Bangor yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol. Diolch am wneud y prosiect hwn yn bosibl.
Gweler bod y llyfr bellach allan i’w rag-archebu cyn y lansiad yn yr Eisteddfod a gweler isod gopi o’r clawr
https://www.ffolio.wales/products/9781800998537
https://www.amazon.co.uk/Brwydr-Bryn-Hanes-UMCB-1976-2026/dp/1800998538
Mae Cronfa Bangor yn dibynnu ar roddion gan gyn-fyfyrwyr, a chaiff ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr. Prif ddiben y gronfa yw darparu elfen ychwanegol at brofiad myfyrwyr.