Mae’r gyfrol Brwydr ar y Bryn: 50 mlynedd o UMCB, a olygwyd gan Arwel Vittle a'i chyhoeddi gan Y Lolfa, yn dwyn ynghyd straeon, profiadau ac atgofion y staff a’r myfyrwyr hynny sydd wedi helpu i lunio cymuned Gymraeg Bangor, ers sefydlu UMCB ym 1976.
Bydd y gyfrol yn cael ei chyhoeddi ym Mhabell y Cymdeithasau am 3pm ddydd Mercher, 5 Awst ble bydd Ross Griffiths, Llywydd presennol UMCB yn cyflwyno Arwel Vittle, awdur a golygydd y gyfrol fydd yn holi cyn-Lywyddion ac aelodau amlwg o’r Undeb, gan gynnwys Mair Rowlands AS, Huw Williams a Glyn Tomos ac eraill.
Ross Griffiths, UMCB President 2026–27, said: “Undeb Bangor is incredibly grateful to the alumni who have supported the Bangor Fund. Thanks to their generosity, Brwydr ar y Bryn: 50 mlynedd o UMCB will help celebrate and preserve 50 years of UMCB’s history and ensure this important part of Bangor University’s heritage can continue to inspire future generations.”
Dywedodd Ross Griffiths, Llywydd UMCB 2026–27, “Mae Undeb Bangor yn hynod ddiolchgar i’r cyn-fyfyrwyr sydd wedi cefnogi Cronfa Bangor. Diolch i'w haelioni nhw, bydd Brwydr ar y Bryn: 50 mlynedd o UMCB yn helpu i ddathlu a gwarchod 50 mlynedd o hanes UMCB a gwneud yn siŵr y bydd y bennod bwysig yma o dreftadaeth Prifysgol Bangor yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol. “
Ers ei sefydlu ym 1976, mae UMCB wedi cynrychioli myfyrwyr Cymraeg eu hiaith ym Mhrifysgol Bangor, gan chwarae rhan ganolog wrth hyrwyddo iaith, diwylliant a chymuned Gymraeg y brifysgol.
Mae'r llyfr yn archwilio datblygiad y sefydliad dros bum degawd, o’r ymgyrchu dros y Gymraeg yn niwedd y 1970au a dechrau'r 1980au i'w rôl ym mywyd myfyrwyr heddiw. Drwy’r defnydd o atgofion personol, lluniau a hanesion, mae'r gyfrol yn edrych yn ôl ar gyfnod o newid sylweddol i addysg uwch a’r bywyd Cymraeg ym Mangor.
Mae ail ran y gyfrol yn olrhain taith UMCB o’r 1990au hyd heddiw, trwy gyfraniadau gan gyn-Lywyddion ac aelodau, gan gynnwys Mirain Llwyd Morgan, Gethin Morgan, Lleucu Myrddin, Bethan Williams, David Wilton, Mabon ap Gwynfor AS, Mair Rowlands AS a Huw Williams. Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys cerdd i nodi’r achlysur gan Peredur Lynch, a fu’n Llywydd UMCB rhwng 1984 a 1985.
Dywedodd Mair Rowlands Aelod Senedd dros Bangor Conwy Môn, a chyn Lywydd a Phrif Weithredwr UMCB, "Mae'r lansiad hwn yn gyfle gwych i ddathlu 50 mlynedd o hanes UMCB a'r cyfraniad arbennig y mae wedi'i wneud i fywyd Cymraeg Prifysgol Bangor a Chymru gyfan. Ar ôl blynyddoedd o waith ar y gyfrol, mae'n bleser gweld y straeon a'r atgofion yn cael eu dwyn ynghyd mewn cofnod mor bwysig. Edrychaf ymlaen at drafod yr hanes hwnnw yn yr Eisteddfod, ond hefyd at edrych ymlaen at ddyfodol UMCB a'i rôl barhaus wrth gefnogi a chynrychioli myfyrwyr Cymraeg Bangor."
Gyda'i gilydd, mae'r cyfraniadau hyn yn creu cofnod o'r unigolion, y digwyddiadau a'r cerrig milltir sydd wedi siapio’r gymuned o fyfyrwyr Cymraeg ym Mangor dros yr hanner canrif ddiwethaf. Mae'r llyfr yn dathlu cyfraniad parhaus UMCB i hyrwyddo'r iaith, y diwylliant a chynrychiolaeth Gymraeg a hynny drwy edrych yn ôl ar yr heriau a'r llwyddiant sydd wedi diffinio hanes y sefydliad.
Bydd y llyfr ar gael i’w archebu ymlaen llaw ddiwedd Gorffennaf a chaiff ei lansio’n swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Mercher, 5 Awst, am 3.00pm ym Mhabell y Cymdeithasau.
Dywedodd Ross Griffiths, Llywydd UMCB 2026–27:“Mae Undeb Bangor yn hynod ddiolchgar i’r cyn-fyfyrwyr sydd wedi cefnogi Cronfa Bangor. Diolch i'w haelioni nhw, bydd Brwydr ar y Bryn: 50 mlynedd o UMCB yn helpu i ddathlu a gwarchod 50 mlynedd o hanes UMCB a gwneud yn siŵr y bydd y bennod bwysig yma o dreftadaeth Prifysgol Bangor yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol. “
Dywedodd Arwel Vittle sydd wedi ysgrifennu a golygu’r llyfr: “Roedd cael ysgrifennu a golygu hanes UMCB yn fraint. Roedd sefydlu'r Undeb Gymraeg ym Mangor yn rhan bwysig o ymdrechion yn yr 1970au a'r 1980au i amddiffyn y Gymraeg yn y Brifysgol a'r ardal gyfagos. Roedd yn gyfnod cyffrous iawn o brotestio sy’n werth ei chofio, ac roedd llawer o gyn-aelodau’r Undeb yn barod iawn i rannu eu hatgofion am y protestio adeg blynyddoedd cynnar UMCB.
Yn yr ail ran rwyf wedi golygu ysgrifau gan wyth o gyn-Lywyddion ac aelodau UMCB dros y blynyddoedd, ac maen nhw hefyd yn rhannu eu profiadau difyr dros y blynyddoedd ac yn sôn sut y gwnaeth myfyrwyr Cymraeg Bangor sefyll gyda’i gilydd dros eu hiaith, eu diwylliant a’u cymuned. Ar ben hynny mae Peredur Lynch, Llywydd UMCB 1984-85 wedi llunio cerdd arbennig iawn i ddathlu 50 mlwyddiant yr Undeb. Mae’r cyfan rwy'n credu yn creu cyfrol deilwng i gofio cyfraniad mawr UMCB nid yn unig i fywyd Prifysgol Bangor ond i Gymru’n gyffredinol.”
Caiff Cronfa Bangor ei chyllido drwy roddion gan gyn-fyfyrwyr a chaiff ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr.
Dysgwch ragor am Gronfa Bangor yma.