Mae’r cyflwynydd, sydd wedi ennill gwobrau BAFTA, yn fwyaf adnabyddus am y rhaglenni Deadly 60, Expedition a Blue Planet Live. Ymunodd â thîm dysgu Prifysgol Bangor yn 2020 ac ers hynny mae wedi bod yn ymwelydd rheolaidd â'r brifysgol.
Mae Steve wedi traddodi darlithoedd i gannoedd o fyfyrwyr ac aelodau'r cyhoedd ym Mangor, ar bynciau'n amrywio o wenwyn, siarcod a nadroedd i gadwraeth bywyd gwyllt a sut beth ydy gweithio yn y diwydiant rhaglenni natur.
Yn ystod ei gyfnod gyda Phrifysgol Bangor, mae wedi mynd â myfyrwyr i snorcelu oddi ar arfordir Ynys Môn ac i weld bywyd gwyllt ar hyd arfordir gogledd Cymru, wedi trefnu cyfleoedd i fyfyrwyr Bangor yn Sw Caer, ac wedi trefnu profiadau cefn llwyfan unigryw i fyfyrwyr yn ystod ei daith fyw.
Mae Steve hefyd wedi cyhoeddi gwaith gwyddonol gydag academyddion Bangor ar ôl ffilmio rhaglen ddogfen yn Suriname ar y berthynas rhwng adar gwartheg enfawr a thapiriaid De America.
“Mae Bangor yn lle arbennig iawn i mi,” meddai Steve, a gafodd radd er anrhydedd gan Brifysgol Bangor am ei wasanaeth i addysg yn 2023.
“Mae gan y brifysgol arbenigedd yn y gwyddorau amgylcheddol a naturiol, ond yr hyn sy’n sefyll allan fwyaf i mi yw brwdfrydedd y myfyrwyr a’r staff.
“Ond sut allech chi beidio â bod yn frwdfrydig am Brifysgol Bangor? Mae'r darlithwyr yn frwdfrydig, mae'r ymchwil gyda’r gorau yn y byd a dyma'r lleoliad gorau yn y Deyrnas Unedig i unrhyw un sydd â diddordeb yn y byd naturiol.
“Rwy’n falch dros ben o gael fy ngwneud yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor.”
“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi gallu treulio amser gyda myfyrwyr dros y blynyddoedd diwethaf, boed hynny mewn darlithfa, allan ar y dŵr neu’n siarad am fywyd gwyllt a chadwraeth. Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o gymuned Bangor ac rwy'n edrych ymlaen at wneud hyd yn oed mwy o bethau gyda'n gilydd." Meddai Steve.
Meddai’r Athro Christian Dunn, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol: “Mae’n fraint cael croesawu Steve fel Athro er Anrhydedd, rydym yn hynod ffodus i’w gael yn rhan o’n hysgol.
“Mae Steve yn amlwg yn un o’r cyflwynwyr natur mwyaf adnabyddus yn y wlad, ond yr hyn efallai na fydd pobl yn ei wybod yw pa mor hael y mae gyda’i amser a’i wybodaeth. Mae wir yn malio am ein myfyrwyr. Mae'n dod i Fangor, yn rhoi darlithoedd, yn mynd â myfyrwyr allan i'r maes ac yn creu cyfleoedd iddynt na fyddent yn eu cael fel arfer.
“Mae ein myfyrwyr wedi tyfu i fyny yn gwylio Steve ac wedi cael eu hysbrydoli ganddo i astudio sŵoleg, cadwraeth a gwyddorau naturiol. Dros y blynyddoedd diweddar, mae wedi cwrdd â channoedd ohonyn nhw yma ym Mangor, ac wedi eu hysbrydoli i gyd.
“Mae hefyd yn naturiaethwr hynod wybodus. Mae'r ffaith ein bod wedi cyhoeddi ymchwil gwyddonol gyda'n gilydd yn dangos ehangder cyfraniad Steve at y brifysgol. Mae'n llysgennad ac yn eiriolwr gwych dros Fangor ac rwy’n falch dros ben ei fod wedi derbyn y swydd newydd hon.”
Bydd penodiad Steve Backshall yn Athro er Anrhydedd yn parhau ei berthynas hirhoedlog â Phrifysgol Bangor a’r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, gan gefnogi addysgu, ymchwil, ymgysylltu â'r cyhoedd a chyfleoedd i fyfyrwyr.