Cyhoeddodd yr Athro Christian Dunn, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ym Mhrifysgol Bangor, hyn yn The Daily Telegraph, gan ddadlau y dylid amddiffyn cynefinoedd gwlyptiroedd rhag datblygiad oherwydd eu cyfraniad pwysig at storio dŵr a lleihau'r risg o lifogydd.
Esboniodd yr Athro Dunn y gellir ystyried gwlyptiroedd fel atebion ar sail natur gan eu bod yn defnyddio prosesau naturiol i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol fel llifogydd, sychder a llygredd dŵr, ac maent hefyd yn darparu manteision i fioamrywiaeth, storio carbon a llesiant pobl.
Meddai: “Os yw darn o dir wedi ei nodi fel gwlyptir - sy’n golygu bod angen pâr o wellingtons arnoch i’w groesi - ni ddylem ystyried mai ei ddraenio, ei lenwi ac adeiladu arno yw’r peth gorau i’w wneud. Dylid ei ddiogelu i'r eithaf.”
Collwyd dros 75 y cant o arwynebedd gwlyptir gwreiddiol y Deyrnas Unedig ers 1700. Gall gwlyptiroedd weithredu fel sbyngau naturiol, ac arafu llif stormydd a dal gormodedd dŵr yn y dirwedd am hirach, gan hefyd helpu cynefinoedd i aros yn wlypach yn ystod cyfnodau sych.
Mae'r Athro Dunn yn dadlau y dylid ystyried gwlyptiroedd yn rhan o seilwaith cenedlaethol hanfodol Prydain, ochr yn ochr â dulliau confensiynol o ddiogelu rhag llifogydd.
Meddai hefyd: “Byddai adeiladu tai a dinistrio’r seilwaith naturiol sy’n helpu amddiffyn y tai hynny rhag llifogydd yn dangos diffyg gweledigaeth ofnadwy.”
Daw'r alwad yn dilyn haf o sychder a chyfraddau glaw eithriadol o isel ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'r Athro Dunn yn dadlau y gall yr un dirwedd fod mewn perygl o sychder a llifogydd, yn enwedig os yw'r systemau naturiol a arferai storio ac arafu dŵr wedi cael eu dinistrio.
Mae'n galw am roi'r un flaenoriaeth strategol i adfer a chreu gwlyptiroedd â meysydd eraill o wydnwch cenedlaethol, gydag atebion ar sail natur yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â pheirianneg gonfensiynol i helpu'r Deyrnas Unedig i addasu i dywydd cynyddol eithafol.
“Ystyriwyd yn y gorffennol bod dinistrio gwlyptiroedd Prydain yn llwyddiant peirianneg,” meddai’r Athro Dunn. “Mae eu hadfer bellach yn fater o ddiogelwch cenedlaethol.”
Darllenwch fwy am syniad yr Athro Dunn o 'lain wlyb':
https://www.telegraph.co.uk/gift/54684a40847a83e9
Colofn yr Athro Dunn yn The Daily Telegraph ar bwysigrwydd gwlyptiroedd:
https://www.telegraph.co.uk/gift/3bc6321cc551f9fb
Os hoffech ddysgu mwy am bwysigrwydd gwlyptiroedd ac atebion ar sail natur, edrychwch ar rai o'r cyrsiau gradd israddedig ac ôl-radd yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol: https://www.bangor.ac.uk/sens