Cryfhau Sgiliau Ymchwil a Chysylltiadau Academaidd: Athro o Fangor yn Dychwelyd i Brifysgol Gwyddor Wleidyddol a’r Gyfraith Tsieina!
Yn ddiweddar, cyflwynodd yr Athro Martina Feilzer o Brifysgol Bangor gwrs dwys pythefnos ar Dulliau Ymchwil Cymhwysol ar gyfer Myfyrwyr Meistr a Doethuriaeth ym Mhrifysgol Gwyddor Wleidyddol a’r Gyfraith Tsieina.
Cynhaliwyd y cwrs rhwng 31 Awst ac 11 Medi, gan ddod â myfyrwyr gradd Meistr yn y Gyfraith a myfyrwyr doethuriaeth o Brifysgol Gwyddor Wleidyddol a’r Gyfraith Tsieina ynghyd â darlithydd a myfyriwr doethuriaeth o Brifysgol Astudiaethau Tramor Beijing. Drwy drafodaethau a sesiynau ymarferol, bu’r cyfranogwyr yn archwilio pob cam o ymchwil empirig gymdeithasol-gyfreithiol, o lunio cwestiynau ymchwil a dewis cynllun ymchwil priodol i ddefnyddio dulliau meintiol, ansoddol a chymysg. Roedd y cwrs hefyd yn ymdrin â dadansoddi data, delweddu data a chyflwyno canfyddiadau ymchwil yn effeithiol.
Cafodd y cwrs groeso cynnes gan y cyfranogwyr. Dywedodd un myfyriwr: “Mwynheais y dosbarthiadau’n fawr a dysgais lawer. Rwy’n hoff iawn o’ch ffordd o addysgu.” Disgrifiodd eraill y darlithoedd fel rhai “ystyrlon a diddorol” a chanmolasant arweiniad gwerthfawr yr Athro Feilzer.
Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r Athro Feilzer gyflwyno cwrs ym Mhrifysgol Gwyddor Wleidyddol a’r Gyfraith Tsieina. Dechreuodd ei chydweithrediad â’r brifysgol drwy gysylltiadau a sefydlwyd gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor. Mae’r Sefydliad yn falch o weld y berthynas hon yn parhau i dyfu, gan gryfhau cysylltiadau academaidd rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Gwyddor Wleidyddol a’r Gyfraith Tsieina a chreu cyfleoedd gwerthfawr i rannu gwybodaeth ac arbenigedd ymchwil.