Tair wythnos. Tair disgyblaeth. Un cwestiwn mawr.
Mae maes pwnc Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol yng Nghymru, yn cynnig cyfres o gyrsiau byr ar-lein am ddim i fyfyrwyr chweched dosbarth ledled y DU.
Bydd pob cwrs yn archwilio un thema sy’n ysgogi’r meddwl drwy dair lens wahanol: athroniaeth, moeseg a chrefydd. Dros dair nos Sul, bydd myfyrwyr yn herio rhagdybiaethau, yn trafod syniadau ac yn darganfod sut y gall gwahanol ddisgyblaethau fynd i’r afael â’r un mater mewn ffyrdd hollol wahanol.
Cynhelir y sesiynau ar-lein am 6yh ar nosweithiau Sul ac maent yn rhad ac am ddim.
Drwy fynychu tair sesiwn mewn cwrs thematig, byddwch yn derbyn tystysgrif presenoldeb gan Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru.
Meddyliwch yn ddyfnach. Holwch yn fwy beirniadol. Dewch i weld materion drwy safbwyntiau amrywiol.