Myfyriwr MSc Dadansoddeg Data Busnes yn Cwblhau Interniaeth Diwydiant gyda Chwmni Cynllunio Ariannol
Mae myfyriwr ôl-radd o Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor wedi cwblhau interniaeth ddau fis yn llwyddiannus gyda'r cwmni cynllunio ariannol 75Point3 Cyf sydd wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru, gan ennill profiad gwerthfawr mewn cymhwysiad ymarferol dadansoddeg data, deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio busnes.
Fe wnaeth Youssef Remmal, sy'n astudio MSc mewn Dadansoddeg Data Busnes yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, ymuno â'r cwmni cynllunio ariannol annibynnol ym Mae Colwyn fel rhan o gyfle interniaeth myfyrwyr a'i galluogodd i gymhwyso sgiliau a ddatblygodd yn ystod ei astudiaethau mewn amgylchedd busnes proffesiynol.
Yn ystod y lleoliad, gweithiodd Youssef ar brojectau a oedd yn canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial, awtomeiddio a gwella llif gwaith, gan ennill profiad uniongyrchol o sut mae sefydliadau'n defnyddio technolegau newydd i wella prosesau busnes a chefnogi gwneud penderfyniadau.
Wrth adfyfyrio ar y profiad, dywedodd Youssef Remmal:
"Rydw i wedi mwynhau'r interniaeth gyda 75Point3 yn fawr iawn. Rydw i wedi dysgu cymaint, yn enwedig am ddeallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio, ac rydw i hefyd wedi cael y cyfle i roi ar waith yr hyn a ddysgais yn ystod fy astudiaethau.
"Rydw i hefyd yn ddiolchgar iawn i'r Clinig Busnes am fy nghefnogi drwy gydol y broses gyfweld, ac i'm darlithydd am fy atgyfeirio. Mae'r cyfle hwn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i mi. Mae wedi fy helpu i ddeall yn well beth mae cwmnïau'n chwilio amdano a'r sgiliau sydd eu hangen arnaf i barhau i'w datblygu ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol."
Tynnodd yr interniaeth sylw at y cysylltiadau cryf rhwng Ysgol Fusnes Albert Gubay a chyflogwyr rhanbarthol, gan roi cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau perthnasol i'r diwydiant ac ennill profiad ymarferol yn y gweithle ochr yn ochr â'u hastudiaethau academaidd.
Bu i Stephen Jones, Cyfarwyddwr 75Point3 Cyf, ganmol cyfraniad Youssef yn ystod y lleoliad:
"Yn gyffredinol, rwy'n credu ei fod wedi bod yn ymarfer gwerth chweil ac mae'n ymddangos bod Youssef wedi mwynhau'r lleoliad yn fawr hefyd. Mae wedi bod yn rhan o brojectau diddorol, yn enwedig o ran defnyddio Power Automate, AI a Copilot i awtomeiddio llif gwaith a symud gwybodaeth rhwng systemau."
Mae profiadau fel hyn yn helpu myfyrwyr Ysgol Fusnes Albert Gubay i feithrin hyder, datblygu rhwydweithiau proffesiynol a gwella eu cyflogadwyedd drwy weithio gyda sefydliadau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt.
Wedi'ch ysbrydoli gan brofiad Youssef? Archwiliwch gyfleoedd astudio ôl-raddedig yn Ysgol Fusnes Albert Gubay a datblygwch y sgiliau, y cysylltiadau diwydiant a'r profiad ymarferol i fynd â'ch gyrfa i'r lefel nesaf. Darganfyddwch ein cyrsiau ôl-raddedig.
Am ragor o wybodaeth am Glinig Busnes Ysgol Fusnes Albert Gubay ewch i'r ddolen yma.