Raglen Hyfforddiant Doethurol Rhythms of Life Leverhulme - Cyfleoedd PhD
🎉 Mae ein projectau PhD cyntaf bellach yn FYW! ⏰🌍
Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod bellach yn recriwtio ar gyfer y cyfleoedd cyntaf i wneud PhD cyffrous drwy Raglen Hyfforddiant Doethurol Rhythms of Life Leverhulme Prifysgol Bangor, a gyllidir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme.
O amseriad ymateb imiwn a rhythmau clyw dynol, i esblygiad gloÿnnod byw, awyrlywio adar, tonnau gwres morol a hyd yn oed mudo dynol cynhanesyddol — mae'r projectau hyn yn arddangos yr amrywiaeth anhygoel o gwestiynau ymchwil y gellir eu harchwilio trwy lens rhythmau biolegol.
Beth sy'n eu cysylltu nhw i gyd? Uchelgais a rennir i ddeall sut mae rhythmau'n siapio bywyd ar y Ddaear, sut y cânt eu tarfu arnynt gan newid amgylcheddol, a beth mae hynny’n ei olygu i ecosystemau, iechyd pobl a chymdeithas.
🔬 Rydym yn chwilio am ymchwilwyr chwilfrydig a brwdfrydig sydd eisiau gweithio ar draws ffiniau disgyblaethol, mynd i'r afael â chwestiynau ymchwil cyffrous a dod yn rhan o gymuned ymchwil ryngddisgyblaethol newydd fywiog ym Mhrifysgol Bangor.
🎓 Mae wyth ysgoloriaeth PhD wedi'u hariannu'n llawn ar gael yn 2027 trwy broses ddethol gystadleuol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyd at bedair blynedd o gyllid, gan gynnwys ariantal, ffioedd dysgu a £10,000 ar gyfer ymchwil a hyfforddiant.
🌍 Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr o’r Deyrnas Unedig a myfyrwyr rhyngwladol!
📅 Dyddiad dechrau: Hydref 2027
⏳ Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 11 Ionawr 2027, 5pm GMT
🔗 Archwiliwch y projectau a darganfod sut i wneud cais