Ynglŷn â’r rhaglen
Mae rhythmau yn hanfodol i fywyd ar y ddaear. O facteria i fodau dynol, mae organebau mewn cytgord â chylchredau amgylcheddol rhagweladwy sy'n pennu pryd maent yn bwyta, yn gorffwys, yn symud, yn atgenhedlu ac yn cyfathrebu, gan ddylanwadu ar ryngweithiadau ecolegol a llwybrau esblygiadol. Mae rhythmau circadaidd yn gwneud i ffisioleg ac ymddygiad gyd-fynd â chylchdroadau 24 awr y ddaear. Mae rhythmau circalanwol yn strwythuro bywyd arfordirol ar sail trai a llif y llanw. Mae cylchred y lleuad yn cydlynu digwyddiadau hanes bywyd mawr mewn ecosystemau daearol a dyfrol. Mae rhythmau circaflynyddol (tymhorol) yn sail i amseriad amrywiaeth eang o brosesau organebol gan gynnwys atgenhedlu, gaeafgysgu a mudo. Mae golau, sŵn a mathau eraill o lygredd, ynghyd â newidiadau mewn tymheredd a phatrymau tywydd sy'n cael eu gyrru gan newid hinsawdd, yn dad-gydamseru clociau mewnol ar sail arwyddion allanol.
Mewn byd sy'n gynyddol drefol a digidol, mae rhythmau bywydau pobl hefyd yn cael eu heffeithio'n ddirfawr. Mae golau artiffisial wedi newid pryd a sut rydym yn gweithio ac yn gorffwys, yn cynhyrchu bwyd ac yn rhyngweithio ag eraill. I bobl, mae erydiad strwythurau amserol naturiol yn arwain at ganlyniadau sy'n amrywio o amhariad ar gwsg ac iechyd meddwl gwael i gynhyrchiant amaethyddol is ac effaith andwyol ar ddiogelu’r cyflenwad bwyd. Mae deall y tarfu hyn ar y rhythmau a sut gall cymdeithasau ac ecosystemau addasu neu adfer yn hanfodol i gynnal bioamrywiaeth, swyddogaeth ecosystemau a lles dynol mewn byd sy'n newid yn gyflym.
Bydd Rhaglen Hyfforddiant Doethurol Rhythms of Life Leverhulme yn meithrin dealltwriaeth o brosesau rhythmig, o osgiliadau cellog i batrymau gweithgaredd byd-eang, sut maent yn gweithredu ac yn rhyngweithio, sut mae pethau’n tarfu arnynt a sut y gallant addasu. Trefnir yr ymchwil ar draws tair thema ganolog, gyda phob project doethurol yn ymdrin ag o leiaf dwy:
1) Sylfaen rhythmau: mecanweithiau genetig, cellog a ffisiolegol sy'n sail i rythmau naturiol, sut mae rhythmau'n esblygu a'r grymoedd ffisegol sy'n eu llywodraethu.
2) Rhythmau mewn byd sy'n newid: effeithiau newid amgylcheddol cyflym a achosir gan ddyn ar weithrediad, gwydnwch ac addasiad rhythmau biolegol, ar draws graddfeydd unigol, poblogaeth ac ecosystem.
3) Y gilfach rythmig ddynol: sut mae bodau dynol wedi creu cilfach unigryw sydd wedi datgysylltu ein dibyniaeth ar lawer o rythmau naturiol y ddaear, a sut mae'r anghydweddiad hwn yn effeithio ar ymddygiad dynol, lles, diogelwch bwyd, diwylliant a gweithrediad cymdeithasau.
Mae’r ysgoloriaethau’n ariannu hyd at bedair blynedd o astudiaeth ddoethurol amser llawn gyda grant cynnal ar lefelau sylfaenol UKRI ac yn cynnwys £10,000 i gefnogi anghenion ymchwil a hyfforddiant unigol. Mae 8 ysgoloriaeth ar gael bob blwyddyn.
Byddwn yn hysbysebu’r projectau doethurol cyntaf ddiwedd 2026, i fyfyrwyr gofrestru ym mis Hydref 2027. Bydd rhagor o fanylion am y projectau sydd ar gael a chyfarwyddiadau ymgeisio ar gael ar y wefan hon. Bydd myfyrwyr doethurol newydd yn dechrau ym mis Hydref 2027, 2028 a 2029.
Ein nod yw recriwtio myfyrwyr ar y llwybr Meistr + PhD i gofrestru ar eu cwrs MSc dewisol ym mis Hydref 2027 a 2028. Bydd dyddiadau cau a chyfarwyddiadau ar gyfer ceisiadau ar gael ar y wefan hon.
Mae Rhythms of Life yn cyfuno cefnogaeth oruchwyliol gynhwysfawr â model hyfforddi arloesol, sy'n seiliedig ar garfan, wedi ei gynllunio i ddatblygu arweinwyr y dyfodol sy'n gallu gweithio ar draws ffiniau disgyblaethol traddodiadol yn y byd academaidd a thu hwnt. Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi gan dimau goruchwylio rhyngddisgyblaethol, mentoriaid cyfoed a mentoriaid rhaglenni a mynediad at strwythurau ymchwil a lles ôl-radd sefydledig Prifysgol Bangor. Un o gryfderau nodedig Rhythms of Life yw ei ddull integredig o hyfforddi a meithrin carfannau. Rydym yn strwythuro hyn o amgylch tri maes cydgysylltiedig: arbenigedd pwnc a rhuglder rhyngddisgyblaethol; cydweithio ac arweinyddiaeth; a chyfathrebu proffesiynol â chynulleidfaoedd arbenigol a chyhoeddus.
Bydd pob myfyriwr (gan gynnwys y rhai ar y llwybr Meistr+) yn dechrau eu hamser ym Mangor gyda chwrs preswyl deuddydd Welcome to Rhythms yng Ngwarchodfa Awyr Dywyll Parc Cenedlaethol Eryri, i gyflwyno’r myfyrwyr i'r rhaglen a'i huchelgeisiau deallusol cyffredinol. Byddwn yn darparu trosolwg ar y rhaglen hyfforddi a datblygiad proffesiynol gynhwysfawr y maent yn ymuno â hi. Bydd gweithgareddau cymdeithasol meithrin carfan yn anelu at dorri'r garw a'r rhwystrau ymhlith myfyrwyr a staff a gosod y seiliau i gymuned lewyrchus.
Bydd y gweithgareddau hyfforddi helaeth yn cynnwys seminarau rhyngddisgyblaethol, gweithdai gwyddor data amserol, ymarfer ymchwil moesegol, defnydd cyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial, encilion arweinyddiaeth ac ysgrifennu, a chefnogaeth benodol i geisiadau llwyddiannus am grantiau, cymrodoriaethau a cheisiadau academaidd neu swyddi eraill. Cefnogir rhwydweithio proffesiynol yn fewnol (trwy gynhadledd flynyddol y myfyrwyr) ac yn allanol (trwy siaradwyr gwadd rheolaidd). Mae gweithgareddau cymdeithasol creadigol a chynhwysol, a phrojectau grŵp i ymgysylltu â'r cyhoedd yn atgyfnerthu cydlyniant y garfan wrth ddatblygu hyder a hunaniaeth broffesiynol. Gyda'i gilydd, mae'r model hyfforddiant integredig a chymunedol hwn yn sicrhau bod myfyrwyr Rhythms of Life yn graddio gyda doethuriaethau rhagorol a hefyd gyda'r sgiliau, y rhwydweithiau a'r profiad sydd eu hangen arnynt i ddylanwadu ar ddyfodol ymchwil y maes ac i fod yn llysgenhadon rhyngddisgyblaethol mewn unrhyw sector.
Ysgoloriaethau PhD
Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar o leiaf radd israddedig 2:1 mewn pwnc sy'n berthnasol i'w project dewisol. Mae cymhwyster lefel meistr yn ddymunol ond nid yw'n ofynnol.
Ysgoloriaethau Meistr+ PhD
Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar o leiaf radd israddedig 2:1 mewn pwnc sy'n berthnasol i'w rhaglen MSc dewisol. I fod yn gymwys i wneud ysgoloriaethau Meistr + PhD, rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol:
- Bod yn fyfyriwr sy'n byw yn y Deyrnas Unedig
- Ddim yn meddu eisoes ar radd Meistr o Brifysgol Bangor
- Bod o gefndir incwm isel gyda thystiolaeth o fod wedi derbyn benthyciad cynhaliaeth llawn neu fenthyciad cymorth arbennig yn ystod eu hastudiaethau israddedig, er enghraifft.
a/neu fod yn un o'r categorïau ethnigrwydd canlynol:
- Du Affricanaidd
- Du Caribïaidd
- Du – Arall
- Cymysg – Gwyn a Du Caribïaidd
- Cymysg – Gwyn a Du Affricanaidd
- Cefndir cymysg arall (gan gynnwys Du Affricanaidd, Du Caribïaidd a Du - Arall)
Dros gyfnod y rhaglen, gellir cynnig hyd at 10 ysgoloriaeth ddoethurol i fyfyrwyr rhyngwladol. Bydd yr ysgoloriaethau rhyngwladol hyn yn cynnwys yr un gefnogaeth ariannol ag ysgoloriaethau'r Deyrnas Unedig. Yn ogystal, bydd ysgoloriaethau rhyngwladol yn cynnwys y ffioedd rhyngwladol llawn ac yn cyfrannu at gostau fisa a mewnfudo. Er mwyn cyfrannu at ymdrechion i ddad-wladychu ymchwil a datblygu partneriaethau teg gyda chydweithwyr rhyngwladol, byddwn yn anelu at recriwtio o leiaf draean o’r myfyrwyr rhyngwladol o'r De Byd-eang.
Oherwydd gofynion ariannu, nid yw myfyrwyr rhyngwladol yn gymwys i’r llwybr Meistr + PhD.
Yn ogystal â phrojectau doethurol a hysbysebir, rydym yn croesawu ymgeiswyr i weithio gyda goruchwylwyr posib i ddatblygu eu syniadau ymchwil eu hunain sy'n cyd-fynd â themâu Rhythms of Life. Bydd dyddiadau cau a chyfarwyddiadau ar gyfer ceisiadau dan arweiniad myfyrwyr ar gael ar y wefan hon. Yn y lle cyntaf, adolygwch ein rhestr o oruchwylwyr posib a chysylltwch ag aelodau staff perthnasol i drafod eich syniadau.
Bwrdd Rheoli Rhythms of Life
Cyfleoedd PhD
Hysbysebir projectau PhD i garfan 2027 yma yn yr hydref yn 2026.
Cyfleoedd PhD
Hysbysebir projectau PhD i garfan 2027 yma yn yr hydref yn 2026.
Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y projectau sydd ar gael.
Mae chwe ysgoloriaeth Meistr+ (M+) ar gael i fyfyrwyr Du neu o gefndir incwm isel sy'n byw yn y Deyrnas Unedig dros gyfnod y rhaglen. Mae ysgoloriaethau M+ yn cynnig 5 mlynedd o gyllid, gan gynnwys ffioedd a grant cynhaliaeth i bob blwyddyn. Gall myfyrwyr gofrestru ar nifer o gyrsiau Meistr hyfforddedig ym Mhrifysgol Bangor.
Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais.
Mae chwe ysgoloriaeth Meistr+ (M+) ar gael i fyfyrwyr Du neu o gefndir incwm isel sy'n byw yn y Deyrnas Unedig dros gyfnod y rhaglen. Mae ysgoloriaethau M+ yn cynnig 5 mlynedd o gyllid, gan gynnwys ffioedd a grant cynhaliaeth i bob blwyddyn. Gall myfyrwyr gofrestru ar nifer o gyrsiau Meistr hyfforddedig ym Mhrifysgol Bangor.
Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais.
Darllen am ein diddordebau ymchwil a'n harbenigedd. Mae'r aelodau staff academaidd canlynol yn oruchwylwyr posib i brojectau doethurol a thraethodau hir MSc i ymgeiswyr ar y llwybr Meistr + PhD. Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr ac os hoffech ddatblygu cynnig gydag aelodau staff eraill, cysylltwch â hwy i drafod eich diddordebau a'ch syniadau.
Mae’r meysydd ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ym Mhrifysgol Bangor yn eithriadol o eang ac yn rhychwantu amrywiaeth helaeth o wyddorau amgylcheddol a biolegol, o fioleg foleciwlaidd i brosesau ecosystemau a phopeth rhwng y ddau begwn.
Cliciwch ymai weld y rhestr lawn o staff academaidd.
Un nodwedd o'r ymchwil yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion ym Mhrifysgol Bangor yw'r dull rhyngddisgyblaethol o weithredu sy'n hollbwysig i fynd i'r afael â'r heriau cynyddol a chymhleth sy'n wynebu'r byd, gan gynnwys newid amgylcheddol byd-eang, colli bioamrywiaeth, dirywiad pridd a defnydd anghynaladwy o adnoddau naturiol.
Cliciwch yma i weld y rhestr lawn o staff academaidd.
Mae’r Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon yn dod â dwy o adrannau rhagorol Prifysgol Bangor ynghyd: Seicoleg a Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer. Mae ein hymchwil, sydd gyda’r gorau yn y byd, yn cynnwys niwrowyddoniaeth wybyddol, ymyriadau clinigol, llesiant seicolegol, perfformiad elît, gweithgarwch corfforol, iechyd a ffisioleg ddynol gymhwysol, ac mae’n cael effaith sylweddol ar y byd go iawn.
Cliciwch yma i weld y rhestr lawn o staff academaidd.
Mae’r Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon yn dod â dwy o adrannau rhagorol Prifysgol Bangor ynghyd: Seicoleg a Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer. Mae ein hymchwil, sydd gyda’r gorau yn y byd, yn cynnwys niwrowyddoniaeth wybyddol, ymyriadau clinigol, llesiant seicolegol, perfformiad elît, gweithgarwch corfforol, iechyd a ffisioleg ddynol gymhwysol, ac mae’n cael effaith sylweddol ar y byd go iawn.
Cliciwch yma i weld y rhestr lawn o staff academaidd.
Ym Mangor, ymchwil yw sylfaen ein haddysgu. Gallwch astudio amrywiaeth eang o gyrsiau, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, sydd wedi ei seilio ar yr ymchwil byd eang rydym yn ei wneud yn y maes hwn.
Ym Mangor, ymchwil yw sylfaen ein haddysgu. Gallwch astudio amrywiaeth eang o gyrsiau, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, sydd wedi ei seilio ar yr ymchwil byd eang rydym yn ei wneud yn y maes hwn.