"Mae'n anrhydedd ac yn fraint cael fy rhoi yng ngofal y gwaith o arwain y cam nesaf yn nhwf a datblygiad y brifysgol arbennig hon. Mae gen i weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Prifysgol Bangor, sy'n canolbwyntio ar fod yn brifysgol dan arweiniad ymchwil, sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, ac yn darparu profiad eithriadol iddynt, gydag enw rhagorol yn rhyngwladol, tra, ar yr un pryd, ei bod wedi ei gwreiddio yn y gymuned leol, ac yn niwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg."
 

Yr Athro Edmund Burke

Mae’r Athro Burke wedi treulio ei holl yrfa ym maes addysg uwch ar drywydd rhagoriaeth academaidd. Mae wedi dal swyddi uwch ym Mhrifysgol Nottingham, Prifysgol Stirling, Prifysgol y Frenhines Mary yn Llundain yn ogystal, yn fwyaf diweddar, ag ym Mhrifysgol Caerlŷr, lle chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o gefnogi gwelliant sylweddol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddar, a olygodd fod Prifysgol Caerlŷr wedi codi 23 o safleoedd i'r 30 uchaf yn y Deyrnas Unedig. Mae ganddo broffil ymchwil rhyngwladol nodedig mewn Ymchwil Weithredol. Mae ei ymchwil yn ymwneud â methodolegau cefnogi penderfyniadau deallus mewn amgylcheddau cymhleth ar y rhyngwyneb rhwng cyfrifiadureg a mathemateg. Mae'n Gymrawd o'r Academi Beirianneg Frenhinol ac yn Llywydd y Gymdeithas Ymchwil Weithredol.

Fel arweinydd sefydliadol, mae wedi dangos gweledigaeth strategol ac effeithiolrwydd gweithredol drwy sbarduno mentrau newydd, rheoli rhaglenni newid cymhleth a chreu twf sylweddol a chynaliadwy. 

Meddai Marian Wyn Jones, Cadeirydd y Cyngor: “Ry’ni’n edrych ymlaen i weld Edmund yn ymuno â ni yn dilyn cyfnod o gydweithio gyda’r Is Ganghellor presennol. Hoffwn ddiolch i’r Athro Iwan Davies am ei arweiniad eithriadol dros y tair blynedd ddiwethaf,a bydd hwnnw’n sail cadarn ar gyfer llwyddiant pellach.” 

Ychwanegodd yr Athro Davies: “Rwy’n llongyfarch yr Athro Burke ar ei benodiad yn Is Ganghellor nesaf Prifysgol Bangor. Mae wedi bod yn fraint eithriadol i gael gwasanaethu’r sefydliad gwych hwn a dymunaf pob llwyddiant iddo fe ag i gymuned y Brifysgol yn gyfan.”

Mae gan Brifysgol Bangor enw rhagorol yn y sector addysg uwch, gan ddenu myfyrwyr o dros 120 o wledydd. Mae’r Brifysgol ymysg yr ugain uchaf yn y DU o ran boddhad myfyrwyr yn yr NSS 2022, yn y 15 uchaf trwy’r byd yng nghynghrair prifysgolion yr UI GreenMetric ac, yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 yn ddiweddar, cydnabuwyd bod 85% o'r ymchwil a wna yn rhagorol yn rhyngwladol neu gyda’r gorau yn y byd. Yn sgil y cyhoeddiad yn ddiweddar y bydd Ysgol Feddygol annibynnol ar gyfer Gogledd Cymru yn cael ei sefydlu ym Mhrifysgol Bangor yn fuan, mae pob argoel y bydd y brifysgol yn adeiladu ymhellach ar ei llwyddiannau diweddar. 

 


 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?