Telerau ac amodau
Mae Prifysgol Bangor yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y wybodaeth a geir yn y Prosbectws Poced hwn yn gywir ar adeg ei argraffu (Chwefror 2025). Mae'r argraffiad hwn o Prosbectws Poced y Brifysgol i israddedigion yn disgrifio'r cyfleusterau a'r cyrsiau y mae'r Brifysgol yn bwriadu eu cynnig yn ystod y flwyddyn academaidd fydd yn dechrau yn hydref 2026. Mae'r Prosbectws Poced a'r gwe-dudalennau'n cael eu paratoi beth amser cyn y flwyddyn academaidd y maent yn ymwneud â hi a gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a geir yn y Prosbectws Poced hwn yn ddefnyddiol, yn deg a chywir pan aeth i gael ei argraffu. Fodd bynnag, gall y wybodaeth hon newid dros amser. Mae’r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i ddarparu'r cyrsiau, hyfforddiant a chefnogaeth ddysgu, cyfleoedd ymchwil a gwasanaethau a chyfleusterau eraill gyda gofal a medr rhesymol ac yn y ffordd a disgrifir yn y Prosbectws Poced hwn.
Fodd bynnag, ni all y brifysgol warantu bod unrhyw gwrs neu gyfleuster yn cael ei ddarparu. Gall rhai amgylchiadau, megis newidiadau staff, cyfyngiadau ar adnoddau a ffactorau eraill nad oes gan y brifysgol unrhyw reolaeth drostynt, megis gweithredu diwydiannol neu newid yn y gyfraith neu lefel y galw am raglen neu fodiwl penodol (nodwch nad yw'r rhestr hon yn un lawn a therfynol), olygu bod rhaid i'r brifysgol dynnu'n ôl neu newid agweddau ar y rhaglenni, y modiwlau a / neu'r gwasanaethau myfyrwyr a / neu'r cyfleusterau y manylir arnynt yn y Prosbectws Poced. Gall hyn gynnwys staffio, cynnwys rhaglen/modiwl, y fan lle dysgir y rhaglen/modiwl neu'r dull addysgu, a'r cyfleusterau a ddarperir I gyflwyno neu gefnogi'r rhaglen, ond heb fod yn gyfyngedig o angenrheidrwydd i'r materion hyn.
Lle bo newid yn anorfod oherwydd amgylchiadau, neu lle mae'n angenrheidiol i'r brifysgol ddod â rhaglen astudio i ben, bydd y brifysgol yn cymryd pob cam rhesymol i leihau'r effaith i'r eithaf. Bydd yr holl ddarpar ymgeiswyr sydd wedi mynegi diddordeb yn y rhaglen berthnasol yn cael eu hysbysu cyn gynted â phosib a rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf hefyd ar wefan y brifysgol (www.bangor.ac.uk/cy). Bydd gan unigolyn hawl i dynnu'n ôl o'r cwrs drwy hysbysu'r brifysgol yn ysgrifenedig o fewn cyfnod
rhesymol o gael ei hysbysu am y newid. Yn ogystal, caiff ymgeiswyr eu hysbysu am unrhyw newidiadau rhwng y Prosbectws Poced a'r cwrs a gwasanaethau arfaethedig ar yr adeg y gwneir cynnig iddynt.
Anogir darpar ymgeiswyr i edrych ar ein gwefan I gael y wybodaeth ddiweddaraf. Nid yw parodrwydd y brifysgol i ystyried cais yn sicrwydd y derbynnir yr ymgeisydd. Derbynnir myfyrwyr i'r brifysgol ar y sail bod y wybodaeth a roddant ar eu ffurflen gais yn gyflawn ac yn gywir. Gall yr holl brisiau a nodir yn y Prosbectws Poced hwn newid a byddwch yn cael eich hysbysu am unrhyw newid o'r fath pan fydd y brifysgol yn cynnig lle i chi. Pe baech yn dod yn fyfyriwr yn y brifysgol, bydd yr hysbysiad hwn yn un o delerau unrhyw gontract rhyngoch chi a'r brifysgol. Bydd unrhyw gynnig o le yn y brifysgol yn amodol ar yr amodau cofrestru myfyrwyr a rheolau a rheoliadau'r brifysgol a gaiff eu diwygio o bryd i'w gilydd. Gellir gweld copi o delerau ac amodau cyfredol y brifysgol ar-lein yn: www.bangor.ac.uk/telerau-ac-amodau neu ar bapur gan y Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG.