Gwybodaeth am y project:
Mae lymffocytau T yn cael eu llywodraethu gan gloc moleciwlaidd dyddiol sy'n gyrru rhythmau yn y ffordd maen nhw'n defnyddio egni ac yn ymateb i bathogenau neu gelloedd canser. Mae pwyntiau gwirio imiwnedd fel PD-1 a CTLA-4 yn gweithredu fel breciau ar gelloedd T, gan eu hatal rhag ymosod ar feinwe iach, ac maent yn gweithio'n rhannol trwy fodylu metabolaeth celloedd T. Mae'r ddwy system yn gweithredu ar yr un peirianwaith cellog, ond mae sut maen nhw'n rhyngweithio yn parhau i fod heb ei archwilio i raddau helaeth. Defnyddir cyffuriau sy'n rhyddhau'r breciau moleciwlaidd hyn i drin canser, ac mae'n ymddangos bod cleifion sy’n eu cael yn gynharach yn y dydd yn ymateb yn well na'r rhai a gafodd driniaeth yn y prynhawn, gan ddatgelu effaith circadaidd nad oes mecanwaith wedi'i sefydlu ar ei chyfer. Mae'r project hwn yn profi'r rhagdybiaeth bod osgiliad circadaidd ym metaboledd celloedd T yn pennu canlyniadau ymgysylltiad derbynyddion pwynt gwirio. Byddwch yn adeiladu modelau cyfrifiadurol o fetaboledd celloedd T dynol ar draws y cylchred circadaidd, yn eu defnyddio i ragweld pa enynnau sy'n cysylltu rheolaeth cloc a phwynt gwirio, ac yn profi'r rhagfynegiadau hynny'n arbrofol mewn celloedd T dynol gan ddefnyddio golygu genynnau, proffilio metabolaidd cytometrig llif, dadansoddi fflwcs allgellol a biobrofion cyd-feithrin swyddogaethol.
Mae'r efrydiaeth yn cynnig hyfforddiant rhyngddisgyblaethol, gan gyfuno modelu cyfrifiadurol ag imiwnoleg ymarferol a bioleg celloedd, gyda chefnogaeth tîm goruchwylio sy'n cwmpasu bioleg pwynt gwirio imiwnedd, bioleg gyfrifiadurol a ffenoteipio metabolaidd, gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Lerpwl.
Cymhwystra
Hanfodol: O leiaf gradd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2:1) (neu gyfwerth) mewn imiwnoleg, biocemeg, bioleg celloedd, gwyddor fiofeddygol, bioleg gyfrifiadurol, neu ddisgyblaeth gysylltiedig. Brwdfrydedd dros weithio ar draws amgylcheddau cyfrifiadurol a labordy. Sgiliau cyfathrebu cryf ar lafar ac ar bapur. Gallu gweithio’n annibynnol ac o fewn tîm cydweithredol.
Dymunol: Profiad labordy mewn meithrin celloedd, cytometreg llif neu fioleg foleciwlaidd. Profiad o raglennu (Python, R neu MATLAB), neu barodrwydd i ddysgu. Amlygiad blaenorol i fetabolaeth, imiwnoleg neu fioleg systemau. Profiad o drin neu ddadansoddi setiau data biolegol mawr. Nid oes angen unrhyw brofiad modelu blaenorol, gan y bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.
Ymholiadau
Rydym yn croesawu ac yn annog ymholiadau anffurfiol. Cysylltwch â Dr Paul Kennedy (p.kennedy@bangor.ac.uk, Prifysgol Bangor) am ragor o wybodaeth am y project cyn gwneud cais.
Supervisory Team
Dr Paul Kennedy
Paul's research focuses on molecular pathways which govern epithelial-immune cell interactions, specifically in the context of tumour microenvironments and autoinflammatory disorders.