Y Tîm Monitro a Chydymffurfio

Mae'r Tîm Monitro a Chydymffurfio’n delio ag ymholiadau ynglŷn â monitro ymroddiad a phresenoldeb i bob myfyriwr ac maent yma hefyd i'ch helpu chi gyda'r holl anghenion sydd gennych sy’n ymwneud â chydymffurfio a Fisâu Myfyrwyr. 

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Addysg Ryngwladol i sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo bod croeso iddo/iddi a'u bod yn cael gwybodaeth gyson a chywir.

Ein horiau swyddfa yw dydd Llun i ddydd Gwener 9:00am i 5pm.

Dyma ein cyfeiriad e-bost: academicengagement@bangor.ac.uk.

Rheolwr Monitro a Chydymffurfiaeth Brifysgol yw Lynne Hughes. Mae Lynne yn rheoli'r Tîm Monitro a Chydymffurfiaeth.

I  ymholiadau Presenoldeb/Ymgysylltu Myfyrwyr Israddedig Cartref; UE a rhyngwladol, cysylltwch â Heledd Selwyn. Mae Heledd yn monitro presenoldeb y Myfyrwyr Israddedig ac Ôl-raddedig a Addysgir.

Ar gyfer Ymholiadau Cyffredinol am Fisa Myfyrwyr/Mewnfudo a Monitro, cysylltwch â Bronwen Hayes neu Jonny Hughes y gellir cysylltu â nhw drwy'r mewnflwch a rennir.

Rhaid i bob myfyriwr gadw at reolau a rheoliadau'r Brifysgol am eu bod yn gysylltiedig â rheolau'r Swyddfa Gartref i fyfyrwyr sydd â Fisâu Myfyrwyr (Haen 4) a gofynion y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Cawsoch wybod am y rheolau a'r rheoliadau hynny cyn i chi ddod i’r Brifysgol.

Cyfrifoldebau

Rhaid i'r Brifysgol gadw at y gofynion canlynol, a bennir gan Adran Fisâu a Mewnfudo’r Deyrnas Unedig:

  • Cadw manylion cyswllt cywir ar gyfer myfyrwyr sydd â Fisâu Myfyrwyr (Haen 4).
  • Rhoi rhifau Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS) i fyfyrwyr sy'n gallu cwblhau’r cwrs o’u dewis yn unig.
  • Rhoi rhifau Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS) i fyfyrwyr sy'n gymwys i gwblhau eu cwrs o fewn y terfynau amser a ganiateir ar eu Fisâu Myfyrwyr (Haen 4) yn unig.
  • Cadw copïau wedi eu sganio o basbortau, fisâu/cardiau Preswylio Biometrig, Dogfennau Matriciwleiddio, Gwarantau/Tystysgrifau Ariannol a Thystysgrifau Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) i fyfyrwyr sy'n meddu ar Fisâu Myfyrwyr (Haen 4) yn unol ag Amserlen Cadw Cofnodion y Brifysgol.
  • Derbyn myfyrwyr sydd â Fisâu Myfyrwyr (Haen 4) dilys neu gais dilys am gwrs ym Mhrifysgol Bangor, neu dderbyn mathau eraill o fisâu neu geisiadau os ydynt yn caniatáu iddynt astudio yn y Deyrnas Unedig. 
  • Monitro presenoldeb ac ymroddiad y myfyrwyr o ran y cwrs academaidd.
  • Rhoi manylion am unrhyw drydydd parti i UKVI, yn y Deyrnas Unedig neu mewn gwlad arall, a’i helpodd i recriwtio myfyrwyr (asiantau tramor).

Dyma’r prif gyfrifoldebau

  • Presenoldeb: Rhaid i fyfyrwyr fod yn bresennol ymhob digwyddiad sydd ar yr amserlen. Os na allwch fod yn bresennol a bod amgylchiadau lliniarol, e.e. salwch, rhaid i chi roi nodyn ar FyMangor.  Os ydych yn ansicr sut i roi nodyn ar FyMangor cysylltwch â ni, a bydd aelod o'r Tîm yn hapus i'ch helpu chi. [Dolen i’r Polisi Ymroddiad Academaidd]
  • Preswyliaeth: Yn ôl rheolau'r Brifysgol, mae'n rhaid i fyfyrwyr fyw o fewn taith resymol i Fangor. Bydd hynny’n sicrhau y cewch chi’r profiad gorau posib fel myfyriwr ac mi gewch chi ddefnyddio adnoddau helaeth y Brifysgol.
  • Talu Ffioedd: I rai sy’n meddu ar Fisâu Myfyrywr mae hyn yn cynnwys y Ffioedd Dysgu ac, os ydych yn byw yn un o Neuaddau Preswyl y Brifysgol, ffioedd y Neuadd.  Bydd angen i chi dalu 50% o'ch ffioedd cyn ichi gyrraedd Bangor ac ar ôl cyrraedd, bydd angen i chi sefydlu Cynllun Talu gyda'r Swyddfa Gyllid am y gweddill.  Caiff taliadau ffioedd dysgu Myfyrwyr Cartref eu prosesu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Gwybodaeth Defnyddiol

  • Bydd yn rhaid i chi gwblhau eich cofrestriad myfyriwr ar-lein (cawsoch e-bost oddi wrth y Brifysgol sy’n cynnwys y manylion).  Os na chawsoch e-bost, cysylltwch â: cofrestru@bangor.ac.uk a byddent yn ail-anfon y manylion atoch.
  • Ar ôl cwblhau hynny bydd angen i chi fynd i un o'r digwyddiadau Cofrestru yn y Brifysgol. Os na allwch wneud hynny bydd yn rhaid i chi gwblhau Prawf Gwirio Hunaniaeth gydag aelod o'r Tîm Monitro, cysylltwch â ni i drefnu hynny.
  • Cofiwch: bydd yn rhaid i chi fod wedi talu 50% o'ch ffioedd cyn eich Prawf Gwirio Hunaniaeth yn unol â Pholisi'r Brifysgol
  • Mae Polisi'r Brifysgol ar breswylio’n yw bod y rhaid i chi fwy or fewn taith cymudo resymol  i Fangor.

Dewch â'r dogfennau canlynol gyda chi i'ch prawf gwirio hunaniaeth: 

  • Pasbort
  • Vignette wedi ei Stampio
  • Eich llythyr oddi-wrth y Swyddfa Gartref yn ein hysbysu o ble y dylid codi eich Cerdyn Preswylio Biometrig (BRP) - os yw eich cerdyn yn y Swyddfa Bost casglwch hwn cyn dod i gael Gwiriad ID 
  • Copi o'ch cytundeb cynllun talu (ni fydd yn rhaid i chi ddangos hwn os byddwch eisoes wedi talu eich ffioedd)
  • Os ydych yn fyfyriwr ôl-radd hyfforddedig/ôl-radd ymchwil neu PhD, bydd yn rhaid i chi ddangos eich tystysgrif wreiddiol gan eich Prifysgol flaenorol

Caiff presenoldeb mewn darlithoedd ei fonitro bellach trwy system ar-lein y Brifysgol neu drwy sganio eich Cerdyn Adnabod Myfyriwr a llaw.  Gofynnir i fyfyrwyr fewngofnodi yn ystod digwyddiadau ar yr amserlen gyda system PIN sy'n uwchlwytho eich presenoldeb yn awtomatig i FyMangor. Gall y Tîm Monitro, tiwtoriaid modiwlau a myfyrwyr weld y data hwnnw’n ddiweddarach y diwrnod hwnnw.  Gall myfyrwyr gofnodi’r rhesymau dros beidio â bod yn bresennol, e.e. salwch neu amgylchiadau lliniarol eraill ar FyMangor. Sylwch, serch hynny, na fydd unrhyw sylwadau a ychwanegir wrth ymyl eich cysylltiadau coll yn arwain at newid eich presenoldeb.

Israddedigion

Caiff data am fyfyrwyr israddedig ei fonitro'n rheolaidd ac, yn unol â Pholisi Monitro Presenoldeb y Brifysgol, anfonir negeseuon e-bost awtomatig o system y Brifysgol at fyfyrwyr yng Ngham 1 neu 2, bydd problemau presenoldeb sy'n uwch na Cham 2 yn arwain at e-bost gan y Tîm Monitro a Chydymffurfio a bydd ebost Cam 3 yn rhoi wythnos i chi ymrwymo i’ch astudiaethau unwaith yn rhagor.  Yna, os methwch ag ailymrwymo fe’ch gwahoddir i gyfarfod Gam 4 a gynhelir fel â’r gyda’r Pennaeth Gweinyddu Myfyrwyr.

Ôl-Radd Hyfforddedig

Caiff presenoldeb myfyrwyr Ôl-Radd Hyfforddedig ei fonitro'n rheolaidd.  Bydd myfyrwyr sy'n methu â mynd i ddigwyddiadau’r amserlen yn unol â Pholisi Ymroddiad Academaidd y Brifysgol yn derbyn negeseuon e-bost awtomatig a gynhyrchir gan system y Brifysgol yn nodi na fuont yn bresennol. Cynghorir y myfyrwyr i gwrdd â'u Tiwtor Personol os ydynt yn mynd trwy amgylchiadau anodd.  Bydd y Tiwtor Personol yn cofnodi hynny ar FyMangor a bydd y Tîm Monitro’n cael gweld y cofnod hefyd.  Bydd y Tîm yn cysylltu â myfyrwyr sy'n dal i golli digwyddiadau wedi’u hamserlennu i ddod i gyfarfodydd ffurfiol i egluro eu rhesymau dros beidio â bod yn bresennol.  

Myfyrwyr Ymchwil Ôl-radd /PhD

Rhaid i oruchwylwyr gyfarfod â'u Hymgeiswyr Ymchwil Ôl-Radd o leiaf unwaith bob pythefnos. Os na ellir trefnu cyfarfod, rhaid defnyddio dull cysylltu arall, e.e. tros e-bost, Skype, ac yn y blaen. Rhaid i'r cyfarfodydd hynny, a phob dull arall o gysylltu, alluogi’r Prif Oruchwyliwr i gadarnhau bod yr ymgeisydd yn ymrwymo i’r rhaglen astudio. Rhaid cofnodi pob cyfarfod/cysylltiad, fel sy'n ofynnol gan Bolisi Ymgysylltiad Academaidd y Brifysgol. 

E-byrth

  • Ni chaiff Myfyrwyr Deiliaid Fisa (Haen 4) fynd drwy e-byrth oherwydd bydd angen stampio dyddiad ar eich Vignette fel prawf o fynediad i'r Deyrnas Unedig, ac os nad oes stamp arno, bydd angen i chi roi prawf o'r dyddiad y daethoch i'r Deyrnas Unedig e.e. tocyn byrddio. 
  • Ceir dros 250 o e-byrth mewn 15 o feysydd awyr a rheilffordd yn y Deyrnas Unedig i allu teithio’n gyflymach i'r Deyrnas Unedig.
  • Fel rheol, cewch ddefnyddio e-byrth:
    • os oes gennych symbol biometreg ar glawr eich pasbort
    • os ydych yn 12+ oed (rhaid i bobl ifanc 12 i 17 oed fod yng nghwmni oedolyn)
  • naill ai:
    • yn ddinesydd Prydeinig
    • yn ddinesydd gwlad yn UE, Awstralia, Canada, Gwlad yr Iâ, Japan, Liechtenstein, Seland Newydd, Norwy, Singapore, De Corea, y Swistir neu UDA
    • yn aelod o'r Gwasanaeth Teithwyr Cofrestredig
  • Ni chaiff pobl sy'n teithio gyda chardiau adnabod ddefnyddio'r e-byrth.

A gaf i newid fy nghwrs?

Mae rheolau llym ynglŷn â newid cwrs ac yn y rhan fwyaf o achosion, rhaid i chi wneud cais am Fisa newydd.

 Dyma ganllawiau'r Swyddfa Gartref : 

  • Mae canllawiau Fisâu Myfyrwyr (Haen 4) yn nodi'r canlynol ynglŷn â newid cwrs.
  • Os gwnaethoch gais am eich fisa cyfredol ar 6 Ebrill 2016 neu wedi hynny, chewch chi ddim newid cwrs heb ganiatâd gennym i ddechrau ar y cwrs newydd os yw pob un o'r canlynol yn berthnasol:
    mae eich noddwr yn Ddarparwr Addysg Uwch â statws noddwr myfyrwyr (Haen 4);
    • mae gan eich noddwr hanes o gydymffurfio;
    • mae’r cwrs newydd ar lefel gradd neu uwch;
    • nid yw’r cwrs newydd ar lefel is na'r cwrs cyfredol;
    • gallwch gwblhau’r cwrs newydd o fewn cyfnod eich fisa bresennol;• os cawsoch fisa Haen 4 (Cyffredinol) o'r blaen, mae’r noddwr yn cadarnhau'r naill neu'r llall o'r canlynol:
    - mae’r cwrs newydd yn gysylltiedig â'r cwrs blaenorol y cawsoch ganiatâd i fod yn Fyfyriwr (Haen 4)(Cyffredinol) ar ei gyfer, sy'n golygu ei fod naill ai'n gysylltiedig â'ch cwrs blaenorol, yn rhan o'r un grŵp pwnc, neu mae'n cynnwys arbenigedd dyfnach
     -    neu mae’r cwrs blaenorol a'r cwrs newydd ar y cyd yn eich cefnogi o ran eich dyheadau gwirioneddol yn eich gyrfa.

Os byddwch yn bodloni unrhyw un o'r amodau uchod ac yn gymwys i newid eich cwrs, rhaid cwblhau’r cwrs newydd o fewn cyfnod eich fisa bresennol; yr unig eithriad i hynny yw os ydych yn gwneud cais i ail-sefyll arholiadau neu ailadrodd modiwlau neu os oes angen cyfnod fisa pellach arnoch oherwydd eich bod wedi ail-sefyll arholiadau neu ailadrodd modiwlau ar gyfer y cwrs cyfredol.

Bydd yn rhaid i chi gynnig tystiolaeth eich bod wedi sefyll arholiadau/modiwlau wrth wneud cais am fisa. Ni chaniateir i chi ddefnyddio'r ddarpariaeth hon i ymgymryd â rhan(nau) o'r cwrs am y tro cyntaf.

A gaf i Newid i Brifysgol arall yn y Deyrnas Unedig?

Os ydych eisiau astudio mewn Prifysgol arall rhaid i chi ddychwelyd adref i wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol honno.  Yna bydd yn rhaid inni ddod â'ch Fisa i ben a bydd disgwyl ichi ddychwelyd adref. 

Cewch wneud cais newydd o'ch cartref.  

Beichiogrwydd

Mae rheolau’r Swyddfa Gartref i fyfyrwyr sy’n cael babanod ar ôl iddynt gyrraedd y Deyrnas Unedig yn glir a gaiff myfyrwyr gymryd cyfnod o absenoldeb, fodd bynnag, mae Polisi’r Brifysgol yn rhoi 30 diwrnod or absenoldeb mamolaeth i fyfyriwr a bydd angen i’r myfyriwr gwblhau o fewn cyfnod y Fisa bresennol.  Yn ôl rheolau'r Swyddfa Gartref ni allwn ddarparu estyniad fisa i'r myfyrwyr hynny.

Ni fydd babanod a gaiff eu geni yn y Deyrnas Unedig i ddeiliaid Fisa Myfyrwyr yn cael eu cydnabod yn Brydeinwyr a byddant yn cymryd cenedligrwydd y fam.

Dolenni Defnyddiol

Cyfnod Astudio a Therfynau Amser

Dylech wneud pob ymdrech i gwblhau eich gradd o fewn amserlen eich Fisa bresennol.  Ni chaiff estyniadau eu caniatáu bob amser i Fyfyrwyr ac efallai y bydd angen i chi ddychwelyd adref i'w cwblhau ac yna ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y Fisa Graddedigion. 

CAS newydd i Fyfyrwyr sy'n Parhau

Os ydych yn fyfyriwr sy'n parhau, efallai y bydd angen CAS newydd arnoch chi:

  • ailadrodd/ailsefyll modiwlau
  • dychwelyd ar ôl Cyfnod o Absenoldeb
  • uwchraddio i raglen radd integredig (fodd bynnag, mae rheolau'n berthnasol i'r cais hwnnw a bydd angen i chi fodloni gofynion y Swyddfa Gartref)
  • parhau â chwrs gradd ar ôl ailadrodd/ailsefyll
  • ymgeisydd PhD/MPhil yn gofyn am estyniad amser i gyflwyno/ailgyflwyno/sefyll arholiad llafar

Mae'n rhaid gwneud cynnydd academaidd er mwyn i chi gael CAS i'r cwrs newydd a hynny sy'n penderfynu a gewch chi wneud cais yn y Deyrnas Unedig am fisa Haen 4 newydd.

Bydd eich cais yn bodloni'r meini prawf cynnydd academaidd:

  • Os ydych yn gwneud cais am gwrs ar lefel uwch na'r cwrs blaenorol (e.e. gwneud cais am radd Meistr ar ôl cwblhau gradd Baglor).
  • Os ydych yn gwneud cais am gwrs ar yr un lefel â'r cwrs blaenorol (e.e. gwneud cais am ail radd Meistr) ac mae'r ddau gwrs yn gysylltiedig neu bydd y ddau gwrs gyda'i gilydd yn cefnogi’r nodau sydd gennych o ran gyrfa.
  • Os nad ydych wedi cwblhau eich cwrs blaenorol ond mae'r Tîm Derbyniadau o'r farn bod eich rheswm dros astudio’n ddilys.

Ni fydd eich cais yn bodloni'r meini prawf cynnydd academaidd:

  • Os ydych yn gwneud cais am gwrs ar lefel is na'r cwrs blaenorol (e.e. gwneud cais am radd Baglor ar ôl cwblhau gradd Meistr).
  • Os na wnaethoch chi gwblhau’r cwrs blaenorol ac mae'r Tîm Derbyniadau o'r farn nad yw eich rheswm dros astudio’n ddilys.

Tra byddwch yn fyfyriwr yn y Brifysgol ar gwrs gradd neu uwch, caniateir i chi weithio'n rhan-amser o dan eich Fisa Myfyriwr.   Mae UKVI yn ystyried bod gwaith yn cynnwys gwaith cyflogedig a gwaith gwirfoddol (gweler amodau llawn y fisa am ragor o fanylion).  Yn ystod y tymor, cewch weithio hyd at 20 awr yr wythnos.   Mae'r 20 awr yn cynnwys unrhyw waith taledig a hefyd unrhyw oriau gwaith gwirfoddol di-dâl.  Cyfanswm yr oriau yw'r 20 awr - nid yw fesul swydd.  Os oes gennych swyddi lluosog rhan-amser, ni ddylai cyfanswm oriau'r holl waith y byddwch yn ei wneud fod yn fwy nag 20 awr yr wythnos yn ystod y tymor.  Os ydych yn Fyfyriwr Israddedig cewch weithio hyd at 40 awr yr wythnos yn ystod y gwyliau (y tu allan i'r tymor).  Cyfyngir Myfyrwyr Ôl-radd i 20 awr yr wythnos ar bob adeg.

Pan fyddwch yn gwneud gwaith, boed yn y Brifysgol neu rywle arall, bydd angen i chi roi cod i'r cyflogwyr a gewch oddi wrth y Swyddfa Gartref, eich pasbort a Thystysgrif Cofrestru gan y Brifysgol sy'n cadarnhau dyddiadau eich tymhorau.   Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar bob cyflogwr yn y Deyrnas Unedig i sicrhau bod caniatâd gennych i weithio yn y Deyrnas Unedig a dyna pam mae angen y dogfennau hynny arnoch i'w dangos cyn i chi ddechrau gweithio.  Rhaid iddynt wneud copïau o'ch holl ddogfennau i brofi i UKVI eu bod wedi gwirio eich hawl i weithio.

Cofiwch wrth dderbyn gwaith bod unrhyw oriau gwirfoddol a wnewch chi yn rhywle yn cyfrif tuag at yr 20 awr o waith a ganiateir i chi wneud bob wythnos.

Lefel Astudio Cyfnod Gwyliau
Cwrs Saesneg cyn-sesiynol Dim
Rhaglen Sylfaen Ryngwladol (Cyn-Feistri) Gwyliau Nadolig, Gwyliau Pasg
Israddedig Gwyliau Nadolig, Gwyliau Pasg, Gwyliau Haf
Ôl-Raddedig A Addysgir Gwyliau Nadolig, Gwyliau Pasg
Ymchwil Ôl-raddedig Rhaid i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig fod yn astudio ym Mangor am 44 wythnos y flwyddyn academaidd. Rhaid cymryd gwyliau pan fo'n briodol yn unol â'ch ymchwil ac unrhyw ddigwyddiadau addysgu.

Mae llawer o fyfyrwyr rhyngwladol yn dewis byw oddi ar y campws. Maent yn aml yn byw gyda pherthnasau neu ffrindiau i arbed arian ac er mwyn bod mewn amgylchedd cefnogol wrth astudio yn y Deyrnas Unedig. Mae'r ddau’n bwysig ond mae pethau eraill y dylech roi cyfrif amdanynt yn ogystal wrth ystyried pa mor bell o'r Brifysgol y mae'n briodol byw.

Y Gost

Gall cost teithio yn y Deyrnas Unedig fod yn uchel iawn. Os ydych chi'n dod o wlad lle mae teithio'n gymharol rad, efallai y bydd teithio pellteroedd hir i'r Brifysgol yn llawer drutach na'r disgwyl.

Amser

Gall fod tagfeydd ar ffyrdd a rheilffyrdd y Deyrnas Unedig, yn enwedig ar amseroedd teithio brig yn y bore a gyda'r nos. Os ydych chi'n bwriadu teithio i'r Brifysgol ac adref wedyn ar y ffordd neu'r trên, gallai fod yn ddiwrnod hir a blinedig iawn.

Yr effaith ar eich astudiaethau

Ein nod yw eich helpu chi sicrhau’r canlyniad gorau posibl o'ch amser gyda ni ond gallai teithio pellteroedd hir i'r Brifysgol wneud hynny’n fwy anodd os byddwch:

  • Yn cyrraedd yn hwyr i’r dosbarthiadau – os bydd hynny’n digwydd yn rheolaidd, byddwch mewn perygl o fynd ar ei hôl hi, ac o gael eich marcio’n absennol.
  • Yn colli dosbarthiadau’n gyfan gwbl – os bydd hynny’n digwydd yn rhy aml, byddai’n rhaid inni eich cyfeirio at y Swyddfa Gartref oherwydd y byddech yn torri telerau eich fisa a Pholisi Ymroddiad Academaidd y Brifysgol.
  • Yn lleihau eich mynediad i'r llyfrgelloedd - byddai hynny’n cyfyngu ar yr amser sydd gennych ar gyfer ymchwil pwysig ac astudio preifat.
  • Cyfyngu ar eich gallu i gwrdd â’r tiwtoriaid – mae derbyn adborth ar eich gwaith a help a chyngor, pan fo angen, yn allweddol i lwyddo.
  • Cyfyngu mynediad i weithgareddau/cymdeithasau/digwyddiadau a chymdeithasu â myfyrwyr eraill.

Ein Hargymhelliad

Am yr holl resymau hynny byddem yn disgwyl, os byddwch yn penderfynu byw oddi ar y campws, y dylech fyw o fewn tua 40 milltir (65 km) i'r Brifysgol, neu 60 munud o amser teithio, o ddrws i ddrws.

Ychwanegu lleoliad gwaith 

Fel deiliad fisa Myfyriwr caniateir i chi ymgymryd â lleoliad gwaith/blwyddyn mewn diwydiant neu gyfnod yn astudio dramor fel rhan o'r cwrs, ar yr amod ei fod yn rhan annatod o'r cwrs a’i fod wedi'i asesu.  Bydd y Brifysgol yn parhau i fod yn gyfrifol amdanoch chi drwy gydol y lleoliad gwaith/blwyddyn mewn diwydiant neu astudio dramor. 

Trosglwyddo i gwrs i gynnwys lleoliad gwaith/blwyddyn neu flwyddyn astudio dramor ar yr un lefel ag yr ydych yn ei hastudio ar hyn o bryd

Os hoffech chi drosglwyddo i raglen ar yr un lefel astudio, gan gynnwys lleoliad gwaith/blwyddyn mewn diwydiant neu flwyddyn astudio dramor, nodwch y canlynol:

  • Bydd gofyn i chi wneud cais am Fisa Myfyriwr newydd os bydd angen blwyddyn/blynyddoedd ychwanegol o astudio at y cwrs newydd.
  • Cewch wneud y cais hwn am fisa yn y Deyrnas Unedig neu yn eich mamwlad.
  • Cewch wneud y cais am fisa naill ai cyn i chi ddechrau ar eich blwyddyn ar leoliad neu ar ôl i chi gwblhau eich blwyddyn ar leoliad, ond chewch chi ddim gwneud y cais yn ystod blwyddyn y lleoliad.

Os gwnewch y cais am fisa cyn i chi ddechrau eich blwyddyn ar leoliad:

  • rhaid i chi sicrhau bod gennych amser i dderbyn y penderfyniad cyn i chi ddechrau ar eich blwyddyn ar leoliad.  Os na wnewch chi hynny, dylech wneud cais am eich fisa ar ôl i chi gwblhau eich lleoliad a chyn dychwelyd i'r Brifysgol i gwblhau eich cwrs.
  • ac rydych yn teithio dramor, rhaid i chi sicrhau bod gennych amser i dderbyn y penderfyniad ynghylch eich cais cyn eich dyddiad teithio arfaethedig i adael y Deyrnas Unedig (os gwnaethoch gais yn y DU) neu ofyn am eich pasbort yn ôl at ddiben teithio (os gwnaethoch gais yn eich mamwlad) yn arwain at dynnu eich cais am fisa yn ôl. 

Os gwnewch y cais am fisa ar ôl cwblhau blwyddyn ar leoliad :

  • rhaid i chi wneud y cais dim mwy na 3 mis cyn dyddiad dechrau’r cwrs sy’n ailddechrau fis Medi os ydych yn gwneud cais yn y Deyrnas Unedig neu 6 mis cyn y dyddiad dechrau os ydych yn gwneud cais y tu allan i’r DU – caiff y dyddiad dechrau ei nodi ar eich CAS.

Trosglwyddo i gwrs sy’n cynnwys blwyddyn ar leoliad ar lefel astudio uwch na'ch cwrs presennol

Os ydych yn ddeiliad Fisa Myfyriwr ac yn dymuno trosglwyddo i raglen ar lefel astudio uwch, e.e. BEng i MEng, gan gynnwys blwyddyn ar leoliad, rhaid i chi wneud cais am fisa newydd cyn i chi drosglwyddo oherwydd byddwch yn astudio ar lefel uwch, nodwch y canlynol:

  • Bydd gofyn i chi wneud cais am fisa Myfyriwr newydd os bydd angen blwyddyn/blynyddoedd ychwanegol o astudio ar gyfer eich cwrs newydd.
  • Cewch wneud y cais hwnnw am fisa yn y Deyrnas Unedig neu yn eich mamwlad
  • Bydd angen i chi wneud y cais am fisa cyn i chi ddechrau'r cwrs newydd os ydych yn aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod eich blwyddyn ar leoliad.
  • Os oes angen ATAS at y cwrs newydd bydd angen i chi wneud cais am ATAS cyn dechrau ar eich cwrs newydd

 Beth sydd nesaf?

  • Ystyriwch ble a phryd y byddwch yn gwneud cais am fisa newydd.
  • Paratowch eich dogfennau cais am fisa, gan gynnwys y dogfennau ariannol, pan fo angen.
  • Gwnewch gais am ATAS (os oes angen).
  • Siaradwch â'ch Ysgol
  • Cyflwynwch eich cais i Newid Cwrs drwy'r Ganolfan Geisiadau ar FyMangor

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?