Management Guidance and Monetary Policy Transmission in the Eurozone
Athro Cyfrifeg a Chyllid yn Ysgol Fusnes Prifysgol Sussex yw Gonul Colak. Mae ganddo hefyd broffesoriaeth ffracsiynol yn yr Adran Gyllid yn Ysgol Economeg Hanken. Yn ddiweddar, bu’n ysgolhaig gwadd yn Ysgol Fusnes Stern ym Mhrifysgol Efrog Newydd, Prifysgol Fordham, ac Ysgol Fancio Ganolog Istanbwl, Banc Canolog Twrci yn Nhwrci. Cyn hynny bu'n dal swyddi academaidd ym Mhrifysgol Talaith Florida a Phrifysgol Talaith Wichita. Bu Gonul Colak yn gadeirydd ar Ysgol Gyllid y Graddedigion (GSF) yn y Ffindir a bu’n aelod o fwrdd y Rhwydwaith Cyllid Nordig (NFN). Bu’n gwasanaethu fel cyfarwyddwr y rhaglen PhD mewn cyllid yn Ysgol Economeg Hanken. Ar hyn o bryd mae'n aelod o fwrdd ymgynghorol rhyngwladol Ysgol Fusnes Prifysgol Sebelas Maret yn Indonesia. Ar hyn o bryd mae'n gwasanaethu fel golygydd cyswllt i’r Journal of Financial Stability. Mae gan Gonul gyhoeddiadau mewn cyfnodolion o fri fel y Review of Financial Studies, Journal of Financial Economics, Journal of Financial and Quantitative Analysis, Review of Accounting Studies, Journal of Financial Intermediation, a’r Journal of Corporate Finance. Yn ôl Scopus cafodd ei waith cyhoeddedig ei ddyfynnu oddeutu 700 o weithiau, ac mae rhai ohonynt mewn cyfnodolion mawr eu heffaith.