Bangor Campus

Cofio Lloyd Jones

Ganwyd Lloyd Jones yn 1924 yn Kingston, Pennsylvania i rieni Cymreig a ymfudodd o Gymru. 

Yn ddyn busnes llwyddiannus, ac yn aelod gweithgar o'i gymuned, gwelodd Lloyd Jones gyfle i gyfrannu at ddatblygiad eraill drwy sefydlu gwaddol elusennol yn y National Welsh-American Foundation yn 1986. Byddai'r gwaddol elusennol yn rhoi grant gwobrwyo i entrepreneuriaid ifanc rhagorol sy'n graddio o Brifysgol Bangor.  Ers 2000, mae 37 o fyfyrwyr wedi derbyn gwobrau sy'n cyfateb i bron i $100,000 wrth i'r gwaddol barhau i dyfu yn seiliedig ar gyfraniadau a buddsoddiadau parhaus a wnaeth Lloyd dros nifer o flynyddoedd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?