Mae gweithgarwch cyfrifiaduro wedi bod yn mynd ymlaen ym Mhrifysgol Bangor ers nifer o flynyddoedd a dysgwyd gradd cyfrifiadureg yma am dros ddegawd. Yn Awst 2006, y sefydlwyd yr Ysgol Cyfrifiadureg, (adran o fewn yr Ysgol Gwybodeg oedd hi cynt) ac erbyn heddiw rydym yn cael ein hadnabod fel yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg - cymuned fywiog o staff academaidd, israddedigion ac ôl-raddedigion a gweithwyr ymchwil ôl-ddoethurol.

Gweithredu rhaglen ymchwil ddeinamig

Rydym yn gweithredu rhaglen ymchwil ddeinamig sy’n elwa ar gryfderau ac arbenigedd penodol ein staff a’n hamgylchedd ymchwil. Mae gweithgarwch ymchwil ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar ddwy brif thema:

Thema 1: Darganfod Gwybodaeth
Thema 2: Efelychu a Delweddu

Themâu

Mae’r themâu hyn i’w gweld yn gryf yn y prif heriau mewn cyfrifiadureg; yr EPSRC Research Landscape; a’r rhaglen EU FP7 ICT.

Rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i roi’r hyfforddiant sydd ei angen am yrfa mewn technoleg gwybodaeth yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae ein rhyngweithiadau gydag amrywiaeth eang o gwmnïau yn sicrhau bod ein cyrsiau gradd yn adlewyrchu tueddiadau cyfredol a datblygiadau diweddar yn eu pynciau. Ceir ystafelloedd cyfrifiaduron yn yr Ysgol ac offer arbenigol arall (fel ein Labordy Rhithwir) a ddefnyddir i gefnogi ac atgyfnerthu gwybodaeth a chysyniadau a gyflwynir yn ystod darlithoedd a thiwtorialau. Yn ogystal, rydyn ni’n ceisio sicrhau bod ein myfyrwyr yn defnyddio caledwedd a meddalwedd o safon diwydiant o gychwyn eu hastudiaethau ac rydyn ni’n parhau i fuddsoddi mewn systemau cyfrifiadurol newydd a’r meddalwedd ddiweddaraf i gefnogi’n haddysgu.

Gan fod ein staff yn gweithio gyda chwmnïau drwy brojectau ymchwil ar y cyd, cynlluniau cwmni dysgu ac fel ymgynghorwyr, gall myfyrwyr fod yn sicr eu bod yn cael eu dysgu gan gyfrifiadurwyr a mathemategwyr proffesiynol, gweithredol. Mae ein cyrsiau gradd BSc wedi eu hachredu gan y British Computer Society. Yn nhrydedd flwyddyn eich gradd israddedig, byddwch yn treulio amser yn gweithio ar eich project unigol; gwneir y rhain yn aml ar y cyd gyda chwmni, gan roi profiad ymarferol gwerthfawr yn y diwydiant. Mae ein myfyrwyr yn canfod hyn yn fantais sylweddol wrth wneud cais am swyddi. Gall y Brifysgol hefyd helpu i ddod o hyd i swyddi yn ystod gwyliau yn ogystal â phrofiad gwaith diwydiannol â thâl am flwyddyn ar gyfer myfyrwyr addas.

Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o raddau ôl-radd - hyfforddedig a thrwy ymchwil. Gall gradd ôl-radd wella’ch rhagolygon cyflogaeth ymhellach, ac mae’n werth ei hystyried.

Myfyriwr yn gweithio mewn labordy Peirianneg Electronig a Chyfrifiadure

EIN HADNODDAU DYSGU

Person yn gweithio ar gylched drydanol

ADNODDAU YMCHWIL YN YR YSGOL CYFRIFIADUREG A PHEIRIANNEG

CYFLEOEDD I YMUNO Â NI

Swyddi a Chyfleoedd

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

School of Computer Science and Electronic Engineering, Bangor University, Dean Street, Bangor, LL57 1UT

Sut i ddod o hyd i ni

School of Computer Science and Electronic Engineering, Bangor University, Dean Street, Bangor, LL57 1UT

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?