Photograph of Aberystwyth, the sea and Welsh Coast., from Constitution hill

Cyflwyno papurau yng Nghynhadledd Graffeg Gyfrifiadurol a Chyfrifiadura Gweledol 2023

Cynhaliwyd y gynhadledd Graffeg Gyfrifiadurol a Chyfrifiadura Gweledol ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 14 a 15 Medi 2023. Daeth cynrychiolwyr o bob cwr o'r byd i’r gynhadledd. Cyflwynodd academyddion a myfyrwyr eu gwaith yn y gynhadledd a buont yn trafod cyfeiriadau newydd ym maes cyfrifiadura gweledol.

Mae cyfrifiadura gweledol yn faes cyffrous ac mae'n chwarae rhan allweddol yn helpu pobl ddeall setiau data mawr a chymhleth, neu ddefnyddio’r system weledol ddynol i alluogi pobl i fwynhau lluniau hardd a gynhyrchir gan gyfrifiaduron. Mae cyfrifiadura gweledol yn defnyddio graffeg gyfrifiadurol, i helpu pobl greu trosolwg o'u data, ac mae’n galluogi pobl i ddeall lluniau o ddata’n weledol, a fyddai’n anodd eu deall fel rheol.

Cynhaliwyd cynhadledd 2023 ym Mhrifysgol Aberystwyth, o dan ofal Dr Helen Miles. Trefnwyd y rhaglen gan Dr David Hunter (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Peter Vangorp (Prifysgol Utrecht).

Cyflwynodd ymchwilwyr a myfyrwyr o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg ddau bapur byr a dau bapur poster, fel a ganlyn:

  • Immersive WebXR Data Visualisation Tool. Gan E. G. Ogbonda 
  • Interweaving Data and Stories: A Case Study on Unveiling the Human Dimension of U.S. Refugee Movements through Narrative Visualisation. By E. G. Ogbonda, J. C. Roberts, and P. W. S. Butcher 

Papurau poster:

  • Less is more: Focused Design and Problem Framing in Visualisation – Developing the ColloCaid Collocation Editor. By J. C. Roberts, P. W. S. Butcher, G. Rees, R. Lew, N. Sharma, and A. Frankenberg-Garcia 
  • Crafting Visual Narratives: A Case Study on Developing an Engaging Visualisation Poster Using U.S. Immigration Data. By E. G. Ogbonda, P. W. S. Butcher, and J. C. Roberts

Roedd yn anrhydedd aruthrol cyflwyno fy ngwaith. Mwynheais y gynhadledd. Roedd yn brofiad anhygoel cwrdd â phobl o bob cwr o’r byd. Bu’n fodd i ehangu fy nghanfyddiad i o effaith fyd-eang y technolegau gweledol.

Glory Ogbonda,  Dywedodd Glory Ogbonda, myfyriwr Gradd Meistr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg,

Roedd gan y gynhadledd ddau brif siaradwr. Bu Dr Rafał Mantiuk o Brifysgol Caergrawnt, a Phrifysgol Bangor cyn hynny, yn siarad ynglŷn â gwaith yn High Dynamic Range a sut mae datblygu technoleg i alluogi pobl i gipio ac atgynhyrchu modelau a delweddau graffeg gyfrifiadurol o ansawdd uchel. Yn yr ail brif araith, bu Dr. Mai Elshehaly, academydd o City University, yn traddodi sgwrs am ddelweddu data a sut mae gweithio gyda llunwyr polisi i ddefnyddio delweddu i'w helpu nhw wneud penderfyniadau. Teitl ei sgwrs hithau oedd “From Data to Policy and Back – The Hidden Role of Visualisation in Decision-Making".

Mae'n arferol cynnal cinio a noson gymdeithasol yn y gynhadledd. Eleni, trefnodd Prifysgol Aberystwyth daith ar Reilffordd Craig-glais Aberystwyth. Saif Craig-glais ym mhen gogleddol promenâd Aberystwyth. Mae'n codi’n drawiadol o'r môr. Mae gan bobl y dewis i gerdded i fyny'r llwybr gwyntog, neu deithio ar reilffordd Craig-glais. Dywedodd yr Athro Roberts “Er bod y llyfryn yn disgrifio ‘golygfeydd ysblennydd a di-dor o Aberystwyth, Bae Ceredigion ac ar ddiwrnod braf, 26 o gopaon mynyddoedd Cymru’ ni allem weld fawr ddim, oherwydd bu’n bwrw glaw’n ddidostur. Ond bu’r cwmni, y miri a’r bwyd yn fodd i wneud iawn am y gwlybaniaeth y tu allan”.

Dywedodd yr Athro Jonathan Roberts: 

Roedd yn hyfryd cwrdd â hen gydweithwyr a gwneud ffrindiau newydd, a gwych oedd cael cyflwyno ein gwaith ar ColloCaid (golygydd testun cydleoli ac offeryn delweddu), y mae ganddo bellach dros 10,000 o ddefnyddwyr. Hefyd, roedd yn wych cael set o arddangosiadau gan dîm Aberystwyth. Rwy'n eu llongyfarch ar gyflwyno’r demos a dangos eu gwaith inni. Daeth y robotiaid, y ffugiad o’r Mars rover, amrywiol gamerâu ac arddangosiadau Rhithrealiti â’r digwyddiad gwych i ben.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?