IEEE VIS conference opening

Data’n mynd am y De: Uchafbwyntiau IEEE VIS ym Melbourne

Academyddion Prifysgol Bangor mewn cynhadledd Ddelweddu fawr: Sefydliad y Peirianwyr Trydanol ac Electroneg VIS 2023. Daeth academyddion ac ymchwilwyr o bedwar ban byd i’r gynhadledd

Cynhadledd flynyddol am ddelweddu data yw IEEE VIS. Caiff y gynhadledd ei threfnu gan wirfoddolwyr sy’n cynrychioli’r IEEE (Sefydliad Peirianwyr Trydanol ac Electroneg). Eleni, roedd yn hemisffer y de am y tro cyntaf erioed, ym Melbourne Awstralia. Daeth cynrychiolwyr o bedwar ban byd. Eleni, cynhaliwyd VIS (y Gynhadledd Delweddu a Dadansoddeg Weledol) o 21 - 28 Hydref, 2023. 

Roedd Melbourne yn teimlo’n gartrefol iawn; un diwrnod roedd hi'n bwrw glaw, haul a gwres drannoeth, ac roedd y  a'r bobl leol yn wresog eu croeso. Cefais sgyrsiau gwych ynglŷn ag ymchwil gyda nifer o cynrychiolwyr. Roedd yn un o'r cynadleddau Delweddu gorau erioed.

Jonathan C. Roberts,  Athro Delweddu

Daeth pedwar o academyddion ac ymchwilwyr o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg i'r gynhadledd. Aron Owen, myfyriwr PhD sy'n astudio dylunio delweddu; Dr Peter Butcher (darlithydd mewn Rhyngweithio Cyfrifiadurol Dynol), Dr Panagiotis Ritsos (Uwch Ddarlithydd mewn Delweddu) a'r Athro Jonathan Roberts (Athro mewn Delweddu).

Dywedodd yr Athro Roberts

WBuom mewn nifer o weithgareddau, cyhoeddasom dri o bapurau cyfnodolion, pedwar papur poster, buom yn cyd-gadeirio ffrwd y papurau byrion, buom yn helpu cynnal gweithdy Addysg a Delweddu, a buom yn y colocwiwm doethurol. Roedd yn gynhadledd brysur a chyffrous. Roedd pawb dan deimlad ar ôl y cyflwyniad coffa hyfryd, ar ddechrau’r gynhadledd, gan yr Athro Min Chen, i’n cydweithiwr yr Athro Nigel John, a fu farw, ac a fu gynt yn Athro ym Mhrifysgol Bangor.

Cyflwynodd Panos a Pete ddau bapur cyfnodolyn: “Wizualization:   Cyflwynodd Jonathan ei bapur cyfnodolyn dan y teitl “Challenges and Opportunities in Data Visualization Education: A Call to Action” a bu’n gyd-gadeirydd rhaglen ar Raglen y Papurau Byr, a’r gweithdy Addysg a Delweddu (EduVis).

Cafodd Aron y fraint o gael ei wahodd i gyfranogi yn y colocwiwm doethurol.

Yn ogystal, cyflwynodd y grŵp bedwar cyflwyniad poster a dau bapur gweithdy:

  •  Unveiling the Potential of VisDice in Visualization Design
  • Less is more: Focused Design and Problem Framing in Visualisation – Developing the ColloCaid Collocation Editor
  • RAMPVIS: Answering the Challenges of Building Visualization Capabilities for Large-scale Emergency Responses
  • DUVis: A visual analytics tool for supporting trans-disciplinary projects
  • A method for Critical and Creative Visualisation Design-Thinking
  • Creating storytelling visualizations for the Covid-19 pandemic using Feature-Action Design Patterns

Roedd y colocwiwm doethurol yn wych; bu’n fodd imi gyflwyno fy ymchwil i ymchwilwyr rhyngwladol. Y cyflwyniad poster oedd yr uchafbwynt imi. Daeth degau o bobl ataf a gofyn imi am fy ymchwil. Roedd yn wych cael rhyngweithio gyda phobl wrth ymyl y poster

Aron Owen,  Myfyriwr PhD yn astudio Delweddu Dylunio

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?