Students and staff at the Christmas social 2023

Dwli’r Nadolig: Israddedigion yn Cynnal Parti Nadolig Bythgofiadwy

Cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg ddigwyddiad cymdeithasol diwedd blwyddyn i’r staff a’r myfyrwyr. Daeth dros gant o staff a myfyrwyr i ymuno yn yr hwyl ac roedd yn ddigwyddiad cofiadwy.

Uchafbwynt arall oedd y cwis. Rhannodd pobl yn dimau a rhoi iddynt enwau unigryw. “Team Ralph” a orfu ac Academics Anonymous (grŵp o academyddion) yn ail, a Jingle Byte (prentis gradd a myfyrwyr PhD).

Roedd y cwis yn cynnwys sawl rownd o amrywiol weithgareddau. Un o’r tasgau oedd "Pwdin Lluniau Academig", cymysgedd clyfar o olygfeydd ffilm Nadoligaidd a wynebau academaidd a oedd yn hynod ddoniol a phawb yn chwerthin yn braf yn ceisio dyfalu’r cyfuniadau rhyfeddol. Cododd pawb o'u seddi i "ddod o hyd i'r milwyr coll" mewn helfa brysur am filwyr tegan a oedd yn cuddio'n strategol ar hyd y lle. Ychwanegodd y cwis gwybodaeth gyffredinol elfen o gystadleuaeth gyfeillgar i'r prynhawn. Roedd gêm "beth sydd yn y bocs", a phawb yn rhoi eu dwylo mewn blychau dirgel o deganau a bwyd, ac yn dyfalu'r cynnwys mewn cyffro a dychryn.

Roedd pizza, brownis, diodydd, coffi a the, a daeth y garfan ryngwladol â choffi Arabaidd a melysion i bawb eu mwynhau. Y staff a’r myfyrwyr yn chwerthin ac yn cellwair gyda'i gilydd. Mynegodd Dr. Daniel Roberts, uwch ddarlithydd, a Chyfarwyddwr Ymgysylltiad Myfyrwyr yr ysgol, ei frwdfrydedd dros y digwyddiad

Lluniau

Yn fy mlynyddoedd innau yma, dyma’r parti staff/myfyrwyr gorau a welodd yr ysgol erioed. Llwyddodd Pranav a Ben i greu awyrgylch a oedd yn ymgorffori ysbryd yr ŵyl ac yn meithrin ymdeimlad o gymuned. Mae llwyddiant y parti Nadolig yn dangos pwysigrwydd meithrin ymdeimlad o gymuned yma ym Mangor. Bu eu hymroddiad a’u creadigrwydd yn fodd i ddod â llawenydd i’w cyfoedion a gosod safon uchel i ddigwyddiadau’r dyfodol ym Mhrifysgol Bangor

Daniel Roberts,  Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg Electronig

I gloi, dywedodd Dr Roberts:

A’r semester yn dirwyn i ben, a’r myfyrwyr yn paratoi i adael am wyliau’r Nadolig, edrychwn ymlaen at flwyddyn arall o ddysgu a hwyl yma yn yr ysgol.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?