Wedi'i gynnal yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg, daeth y digwyddiad â 20 o fyfyrwyr o bob cwr o'r Ysgol ynghyd i archwilio roboteg a datblygu datrysiadau arloesol gan ddefnyddio breichiau robotig Quanser QArm Mini, a ddarparwyd yn garedig gan Quanser sy'n partneru â phrifysgolion ledled y byd i ddarparu ecosystemau labordy uwch ym meysydd systemau rheoli, roboteg a systemau awtonomig. Noddwyd y digwyddiad gan Quanser hefyd, gan roi gwobrau gwerth £175 i'r ddau dîm gorau. Cynigiodd yr hacathon gyfle unigryw i gyfranogwyr gael profiad ymarferol gyda roboteg addysgol o safon ddiwydiannol wrth weithio mewn timau amlddisgyblaethol i ddatrys heriau ymarferol
Dechreuodd yr hacathon ddydd Llun gyda chyfres o ymarferion labordy ymarferol yn cyflwyno myfyrwyr i lwyfan QArm Mini. Dysgodd timau sut i raglennu'r breichiau robotig gan ddefnyddio naill ai MATLAB neu Python, gan ganiatáu i gyfranogwyr weithio gyda thechnolegau sy'n berthnasol i’w cefndir a'u diddordebau. Er mai dim ond ychydig o brofiad blaenorol gyda chaledwedd robotig oedd gan lawer o fyfyrwyr, fe wnaethant ddeall yr hanfodion yn gyflym a dechrau datblygu syniadau uchelgeisiol ar gyfer cystadleuaeth y diwrnod canlynol.
Ddydd Mawrth, rhoddodd timau eu sgiliau newydd ar brawf drwy greu systemau robotig a gynlluniwyd i gyflawni tasgau ymarferol, gyda phwyntiau ychwanegol yn cael eu dyfarnu am arloesedd a pha mor "cŵl" oeddent. Dangosodd y projectau amrywiaeth drawiadol o ddulliau technegol a meddwl creadigol.
Ymhlith y projectau roedd cynorthwyydd mecanyddol a reolir â llais sy'n gallu adnabod wynebau a gwrthrychau, gan arddangos integreiddio roboteg â thechnegau deallusrwydd artiffisial modern. Datblygodd tîm arall robot sy'n chwarae pêl-fasged, ynghyd â chylch pêl-fasged wedi'i ddylunio'n arbennig a’i greu ag argraffydd 3D. Aeth trydydd tîm ati i greu system soffistigedig i gasglu darnau a oedd yn defnyddio technoleg adnabod cod QR i nodi cydrannau a phennu eu cyfeiriad cyn eu trin â'r fraich robotig.
Y project buddugol oedd system robotig arweinydd-dilynwr, a wnaeth argraff ar y panel beirniadu gyda'i soffistigeiddrwydd technegol a'i gymhwysedd yn y byd go iawn. Dangosodd y project sut y gallai un fraich robotig gyfarwyddo symudiadau braich arall, gan dynnu sylw at gysyniadau a geir yn gyffredin mewn awtomeiddio diwydiannol uwch a roboteg gydweithredol.
Canmolodd Dr Peter Butcher, a gyd-drefnodd y digwyddiad, y brwdfrydedd a'r dyfeisgarwch a ddangoswyd gan y myfyrwyr drwy gydol yr hacathon.
Roedd yn wych cael gweithio gyda grŵp mor frwdfrydig o fyfyrwyr o bob adran yn yr ysgol dros y ddau ddiwrnod. Fel bob amser, roedd creadigrwydd y myfyrwyr yn amlwg yn eu datrysiadau. Roedd yn drawiadol iawn gweld pa mor gyflym y daeth y timau i arfer â chaledwedd anghyfarwydd. Profodd y QArm Minis i fod yn amlbwrpas dros ben, gan alluogi pedwar project cwbl unigryw. Diolch i James Russell o Quanser a wnaeth y digwyddiad yn bosibl.
Mae llwyddiant yr Hacathon Roboteg yn tynnu sylw at ymrwymiad yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg i ddarparu profiadau ymarferol a pherthnasol i'r diwydiant i fyfyrwyr, sy'n ategu eu hastudiaethau academaidd. Drwy weithio gyda thechnoleg roboteg arloesol a mynd i'r afael â heriau peirianneg penagored, datblygodd y cyfranogwyr sgiliau gwerthfawr mewn rhaglennu, datrys problemau, gwaith tîm a chreu prototeipiau’n gyflym.
Gyda chefnogaeth gref gan bartneriaid yn y diwydiant megis Quanser, a'r brwdfrydedd a ddangoswyd gan fyfyrwyr, dangosodd y digwyddiad y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor wrth arddangos yr ysbryd arloesol sy'n parhau i ffynnu yn yr Ysgol.
Diolch yn arbennig i'r myfyrwyr gwirfoddol rhagorol o'r Gymdeithas Roboteg a helpodd i wneud y digwyddiad yn llwyddiant, i Sean Price, cyn-fyfyriwr yr Ysgol, ac i James Russell, Peiriannydd Gwerthu Maes yn Quanser a fenthycodd y citiau roboteg QArm Mini i'r Ysgol, a drefnodd y gwobrau, ac a aeth ati i fentora’r myfyrwyr yn ystod y digwyddiad.
Ffotograffau o'r digwyddiad
Enillwyr