Rhiannon Owen presenting at the Enterprise By Design final

Cyflwynodd wyth tîm o fyfyrwyr, o dan arweiniad mentoriaid a oedd yn gyn-fyfyrwyr, atebion busnes arloesol i roi sylw i’r heriau ym maes bwyd yn y Gogledd. Bu nifer o fyfyrwyr o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn rhan o'r rhaglen eleni.  

Yn ystod y cyfnod presennol, bu rhaglen Hyfforddiant Arwain Arloesedd Prifysgol Bangor (BUILT) yn cydweithio â’r cwrs Menter trwy Ddylunio (EbD) sydd wedi’i hen sefydlu erbyn hyn. Mae’n dod â myfyrwyr o wahanol bynciau ynghyd i gystadlu mewn timau amlddisgyblaethol i weithio ar her gymunedol. 

Roedd her y semester hwn yn cyd-daro ag ymgyrch Bangor #Bangor25erbyn25, a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, i ymchwilio a deall bwyd yn y Gogledd, gan gynnwys cynhyrchu bwyd, cynaliadwyedd, a chyfleoedd i bobl gynhyrchu eu bwyd eu hunain. Cafodd y cyfranogwyr eu gwerthuso gan banel o feirniaid nodedig.  

Bu cystadlu brwd a daeth Trosi Coffi i’r amlwg fel y buddugwyr, gan ennill calonnau’r beirniaid gyda’u menter ddi-elw. Mynegodd Rhiannon Owen, myfyrwraig technolegau creadigol yn ei thrydedd flwyddyn yn yr ysgol, a oedd yn cynrychioli Trosi Coffi, ei llawenydd, gan ddweud, 

Gwefr o’r mwyaf imi oedd ennill y wobr gyntaf. Bu'r profiad yn ysgogiad imi sefydlu menter gynaliadwy gyda'r nod o hybu siopau coffi, sy’n fodd i drawsnewid gwastraff coffi’n gynnyrch defnyddiol, megis pelenni coffi a sgwrwyr wyneb. Bu’n fraint cael bod yn rhan o’r rhaglen Menter trwy Ddylunio.

Rhiannon Owen,  myfyriwr BSc technolegau creadigol yn ei thrydedd flwyddyn

Cafodd y tîm buddugol grant o £4,000 i ddatblygu eu busnes. Daeth Harvest Horizon, a greodd wasanaeth ac ap arloesol sy’n rhagweld cyfnodau’r cynhaeaf i ffermwyr trwy ddefnyddio synwyryddion tymheredd ar y ddaear, i’r ail safle, gan ennill £1,000 i hybu eu syniad arloesol. 

Dywedodd Dr Andy Goodman, Cyfarwyddwr Arloesi Pontio ac Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg: 

Mae Menter trwy Ddylunio yn darparu profiad trochol sy'n arwain myfyrwyr trwy broses o gymhwyso systemau a meddylfryd dylunio. Myfyrwyr yn cychwyn ar daith ryfeddol. Maent yn prototeipio ac yn profi eu syniadau gyda mewnbwn gan randdeiliaid ac arbenigwyr i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y defnyddwyr. Trwy weithio mewn partneriaeth â BUILT, cafodd ein darpar entrepreneuriaid brofiad digyffelyb o wirioneddau masnachol. Hyfryd oedd gweld datblygiad y myfyrwyr a chlywed eu cyflwyniadau i feirniaid uchel eu parch. Eleni bu’n gyffrous canolbwyntio ar gynhyrchu bwyd yn lleol ledled tirweddau syfrdanol y Gogledd.

Dr Andy Goodman,  Cyfarwyddwr Arloesi Pontio ac Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?