Mae £9 miliwn o'r rhaglen hon, sydd werth £24 miliwn, yn dod gan yr Adran dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ), y Weinyddiaeth Amddiffyn ac UK Research and Innovation, mi fydd yn cael ei ategu gan sefydliadau niwclear mawr, gan gynnwys Rolls-Royce Submarines, Awdurdod Ynni Atomig y DU a TWI, a bydd yn hyfforddi hyd at 100 o fyfyrwyr PhD.
Bydd PANDA yn cael ei gyflwyno gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth â Labordy Niwclear Cenedlaethol y Deyrnas Unedig a phrifysgolion Bryste, Birmingham, Caergrawnt, Derby, Coleg Imperial Llundain a Manceinion. Gyda'i gilydd, bydd y partneriaid hyn yn cefnogi cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr sydd yn barod i fodloni anghenion niwclear ac ynni glân y Deyrnas Unedig yn y dyfodol.
Mae hwn yn gam arwyddocaol i Fangor, Gogledd Cymru a’r Deyrnas Unedig. Drwy PANDA, byddwn yn byrhau'r amser y mae'n ei gymryd i ymchwilydd droi syniad da yn rhywbeth sy'n darparu budd gwirioneddol i gymdeithas. Byddwn yn hyfforddi hyd at 100 o raddedigion doethurol yn y dulliau mwyaf modern ac yn rhoi iddynt y sgiliau arweinyddiaeth i allu arloesi a chyflawni effaith uniongyrchol pan fyddant yn ymuno â rhaglenni niwclear amrywiol y Deyrnas Unedig yn y dyfodol agos iawn.
Y tu hwnt i ymchwil technegol, mae PANDA yn rhoi pwyslais ar baratoi graddedigion doethurol ar gyfer diwydiant. Ochr yn ochr â gwyddoniaeth a pheirianneg niwclear uwch, bydd myfyrwyr PANDA yn derbyn hyfforddiant mewn rheoli projectau, cyllidebu, ymwybyddiaeth reoleiddiol, cyfathrebu a sgiliau arweinyddiaeth ehangach. Mae'r dull cyfannol hwn yn sicrhau bod graddedigion wedi eu paratoi'n drylwyr ar gyfer cyflogaeth mewn sector sy'n ehangu'n gyflym ac sy'n gofyn am ragoriaeth dechnegol a gallu proffesiynol.
Er mwyn bodloni maint gofynion niwclear y Deyrnas Unedig, bydd PANDA yn gweithredu ochr yn ochr â'r gwobrau ffocws doethurol eraill yn y maes niwclear a gyhoeddwyd heddiw. Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn aelod o Wobrau Ffocws Doethurol DRIVERS a SATURN II (dan arweiniad Coleg Imperial Llundain a Phrifysgol Manceinion yn y drefn honno).
Ychwanegodd yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil, “Mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan flaenllaw wrth lunio dyfodol niwclear y Deyrnas Unedig drwy ei harweinyddiaeth yn y rhaglen genedlaethol fawr hon. Mae angen mawr am y math o sgiliau y byddwn yn eu darparu er mwyn cyflwyno technoleg arloesol, y cyntaf o'i bath, megis adweithyddion modiwlaidd bach Rolls Royce yn Wylfa. Mae'r gwaith hwn yn gosod Prifysgol Bangor ar flaen y gad o ran arloesi niwclear yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang ac yn tanlinellu rôl y Brifysgol wrth lunio'r genhedlaeth nesaf o ynni glân.”
“Byddwn yn darparu goruchwyliaeth o’r radd flaenaf, yn hwyluso’r gwaith o gydweithio â sefydliadau niwclear blaenllaw ac yn darparu llwybrau effeithiol i yrfaoedd lefel uchel o fewn sector sy'n ganolog i ffyniant y Deyrnas Unedig yn y dyfodol”.
Mae PANDA yn derbyn ceisiadau am gyfleoedd doethurol wedi eu hariannu'n llawn, ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, i ddechrau ym mis Hydref 2026.
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.bangor.ac.uk/cy/panda