Welcome table and robot for IET open house event

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o Beirianwyr a Gwyddonwyr gyda'n Digwyddiad Tŷ Agored IET

Cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ddigwyddiad Tŷ Agored IET lle agorwyd ein drysau i’r cyhoedd i arddangos y gorau o fyd cyffrous STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

Ar 14 Mehefin, cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ddigwyddiad Tŷ Agored IET lle agorwyd ein drysau i’r cyhoedd i arddangos y gorau o fyd cyffrous STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

Mae’r Wythnos Tŷ Agored Peirianneg yn elfen o ymgyrch Engineer a Better World IET (Y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg), sydd â’r nod o ysbrydoli plant i archwilio maes cyfareddol STEM a chael blas bach ar yr amrywiaeth eang o broffesiynau arloesol a gwerthfawr sydd i’w cael ym maes peirianneg fodern.

Roedd hwn yn brofiad gwych! Dylem gael mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn amlach i danio meddyliau plant! Roedd fy mhlentyn 8 oed wrth ei fodd â’r digwyddiad ac mae’n caru gwyddoniaeth!

Anhysbys,  Un o rieni’r cyfranogwyr

Roedd y digwyddiad wedi’i drefnu ar gyfer plant 5-13 oed a’u rhieni / gwarcheidwaid, a threfnwyd tri gweithgaredd cyffrous a rhyngweithiol iddynt gymryd rhan ynddynt. Cynhaliodd y Sefydliad Dyfodol Niwclear (NFI) daith o gwmpas eu cyfleusterau labordy newydd sbon, ac roedd ganddynt hefyd rai arddangosiadau ymarferol i blant gymryd rhan ynddynt, gan gynnwys Lego Mindstorms ac offer estyn allan sydd ar fenthyg i’r NFI gan Magnox, a gyda chymorth y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol  adeiladodd y cyfranogwyr eu fflachlampau eu hunain a dysgu am Gôd Morse, ac yna anfon neges wedi'i hamgryptio mewn côd Morse i lawr ffibr optegol i eraill ei ddadgryptio. Yn olaf, trefnodd Technocamps iddynt frwydro fel timau torri codau i ddatrys nifer o gliwiau heriol i agor blwch cyn i’r timau eraill wneud, neu cyn i'w hamser ddod i ben.

Roedd gennym hefyd robot NAO6 yn cerdded o gwmpas, ac roedd y plant wrth eu bodd yn rhyngweithio a siarad ag ef! Gwnaethant hefyd fwynhau'r peli Sphero yn rholio o gwmpas a gafodd eu harddangos gan ein myfyrwyr.

Dywedodd Dr Daniel Roberts, swyddog estyn allan yr ysgol a threfnydd y digwyddiad,

Roedd yn bleser croesawu cymaint o bobl ifanc brwdfrydig i’r adran i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous i’w hysbrydoli i barhau i astudio pynciau cysylltiedig â STEM yn y dyfodol. Drwy groesawu’r Peirianwyr a Gwyddonwyr ifanc eiddgar hyn, roeddem yn eu hannog i ddilyn trywydd eu brwdfrydedd a gosod y sylfeini am yr hyn sy’n bosibl mewn disgyblaeth wyddonol.

Dywedodd Dr Roger Giddings, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol ac arweinydd eu digwyddiad,

Roedd gallu agor ein drysau nid yn unig i’r cyhoedd, ond i gynulleidfa ifanc, i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o Beirianwyr yn gyfle rhagorol. Trwy gyflwyno meddyliau ifanc i fyd cyfareddol opteg ffeibr a rhoi cipolwg iddynt ar sut mae’r rhyngrwyd yn gweithio, ein nod oedd tanio gwreichionen o chwilfrydedd ac ysbrydoliaeth, a’u grymuso i gofleidio rhyfeddodau technolegau cyfathrebu.

Roedd arddangos y labordy Sefydliad Dyfodol Niwclear newydd sbon cyfareddol i wyddonwyr ifanc a’u cynnwys mewn arddangosiadau ymarferol yn brofiad trawsnewidiol sydd wedi sbarduno’r angerdd i ganfod mwy ac wedi tanio eu dychymyg. Trwy eu trwytho ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg, rydyn yn grymuso’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr i freuddwydio, gofyn cwestiynau beiddgar, a rhoi eu syniadau ar waith.

Sarah Vallely,  myfyriwr PhD yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear, a’r cydlynydd estyn allan

Roedd hwn yn ddigwyddiad ardderchog, wedi’i gyflwyno’n glir ac yn caniatáu digonedd o amser ar gyfer cwestiynau. Roedd y cyflwynwyr yn frwdfrydig, ac roedd yn ysbrydoledig iawn i’r gynulleidfa ifanc

Anhysbys,  rhiant un o'r rhai a fu'n mynychu

Diolch yn fawr iawn am agor eich drysau. Mae'r maes yn newydd i ni ac nid oedd gennym syniad beth i'w ddisgwyl, ond daliwch ati i agor eich drysau! Roedd yn hwyl aruthrol, a da iawn chi am gadw diddordeb fy mhlentyn 7 mlwydd oed drwy’r cyfan!

Anhysbys,  Rhiant plentyn saith oed.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?