Cafe scientific audience

Ysgogi syniadau: Café Scientific yn Cyflwyno Digwyddiad Gweledigaethol ar Systemau Digidol a Pheirianneg

Bu tri siaradwr yn annerch yn ystod digwyddiad Café Scientific ar 8 Mehefin 2023. Yr Athro Jianming Tang, Dr Mosab Bazargani a Dr Walter Villanueva

Café Scientific

Cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg ddigwyddiad Café Scientific gwych ar 8 Mehefin 2023. Bu i’r digwyddiad rhagorol hwn daflu goleuni ar systemau digidol a pheirianneg arloesol. Gyda rhestr o dri siaradwr rhagorol, roedd y digwyddiad yn wledd o syniadau i’r meddyliau chwilfrydig a oedd yn bresennol. Siaradodd yr Athro Jianming Tang am y Ganolfan Brosesu Systemau Digidol, siaradodd Dr Walter Villanueva am hydroleg thermol cylchrediad plwm a Dr Mosab Bazargani am ddatrys problemau optimeiddio cymhleth gan ddefnyddio metahewristeg.

Rwyf yn hynod o falch bod y digwyddiad Café Scientific wedi bod cymaint o lwyddiant. Roedd yn wych dysgu am yr ymchwil arloesol y mae’r tri siaradwr, a’u timau, wedi ei wneud. Systemau digidol gan yr Athro Tang, hylifau a ddefnyddir mewn systemau niwclear gan Dr Walter Villanueva ac algorithmau i ddatrys problemau optimeiddio cymhleth gan Dr Mosab Bazargani. Edrychaf ymlaen at y digwyddiad nesaf

Dr Franck Vidal,  Cyfarwyddwr Ymchwil a threfnydd y digwyddiad Café Scientific

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?